Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. Awyryddiaeth, NlD oes yr un sylwedd mewn natur yn fwy rhyfeddol nac yn fwy defnyddiol na'r awyr. Y mae o ran ei natur fel y Creawdwr mawr ei Imn—yn anweledig ; ac eto y mae yn bre- sennol yn mliob man ar y ddaear—mae yn treiddio trwy holl anian, ac yn cyfansoddi bywyd pob dyn ac anifel, ynghyda holl lysiau y maes. Enaid y greadigaeth ydyw, a phe ei cy- merid ymaith, ni byddai bywyd raewn dim. Hebddo ni oleuai y ganwyll, ni chynneuai y tân, nid äi y mwg i fyny y simne, ni hwyliai y llong, ni thyfai yr un llysieuyn, ni flodeuai yr un rhosyn, ni anadlai yr un creadur, ni ellidsaethu y graig, ni ellid pwmpio dwfr o'r ddaear, ni cheid dim i drosglwyddo a gwasgaru golouni a gwres, ni chly wai y glust eiriau y genau na sŵn y daran, a theyrnasai dystawrwydd yn mhob man. Y mae mor deneu ac ysgafn, fel yr ydym yn arfer dweyd, " mor ysgafn a'r awyr ;:' ac eto y mae ei bwysau yn ddirfawr, aphan niewn ysgogiad, y mae ei nerth yn aruthrol. Er ei fod yn anweledig, y mae yn ffurfio y gwrthddrych gweledig harddaf sy 'n bod, sef yr wybr las. Dywedir fod awyr yn gyfansoddedig o dri o wahanol hy- lifau awyrol, sef nilrogen, oxygen, a carbonic acid. Un peth rhyfedd iawn a berthyn i'r awyr ydyw, er ei fod yn sylwedd cymysgedig, yn cael ei wneyd i fyny o amrywiol ddefnyddiau, un o ba rai sydd yn niweidiol, a'r ail ar ei ben ei hun yn hollol analluog i gynnyrchu bywyd, eto fod y rhai hyn wedi eu cymysgu ya y fath fodd gyda'r trydydd, yn mha un yn unig y mae y gallu i gynnal bywyd yn preswylio, fel y maent yn eu cyflwr cymysgedig yn fwy cymhwys i gynnal bywyd, uag y byddai 'r egwyddor fywydol yn ei chyflwr anghymysg- edig. Y mae awyr, fel y ceir ef yn agos i wyneb y ddaear, yn gyfansoddcdig yn y cyí'artalrwydd o un ran o'r hylif a elwir oxygen i bedair o nitrogen, ynghyda rhan fechan o car- bonìc acid; ac y mae yn cadw yn yr un cyíartalrwydd bob amser, yr hyn sydd yn dra rhyí'edd, ac ystyried gymaint o gyfnewidiadau a thymhestloedd y mae yn agored iddo; a phe Awst, 1853.] ' i