Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. YR YSGOL SABBOTHOL. Un o'r offerynau mwyaf effeithiol tuag at ddwyn ymlaen wellhad moesol, a meddyliol hefyd, hwyrach, yn ein gwlad, yw yr Ysgol Sabbothol. Iddi hi yr ydym i briodoli y eyfnewidíad bendithiol a fu ar Gymru, ynghyd â'r sefyllfa y mae yn ei hòni yn y byd am ei manteision crefyddol. Ond eto nid ydym yn tybied ei bod yn cyflawni gofynion yr oes sy'n codi. Y mae yr oes bresennol ymhell iawn ymlaen arni; ac nid ydyw hithau wedi nac yn rhoddi nemawr o gamrau ymlaen er cyd- fyned â'r oes. Fe allai fod hyn i'w briodoli, ysywaéth, i ys- bryd crebachlyd a rhagfarnllyd amryw o'r rhai sy'n llywyddu ein hysgolion ; y maeut yn dychrynu pan y clywant son am un cyfnew idiad neu welîiant, ac yn ymgyndynu wrth yr hen drefniadau a ddisgynasant oddiwrth y tadau. Pob parch a gwarogaeth i gysgodion ein hynafiaid; ond dymunem ddy- weyd, yn ostyngedig, fod y trefniadau a oedd o'r blaen wedi ateb eu dybenion yn yr oes y perthynent iddi, a bod eisieu rhai newyddion i gyfarfod âg anghenion yr oes bresennol. Y mae gwahaniaeth dirfawr mewn archwaeth a gwybodaeth yn bresennol ragor amser a aeth heibio; ac os na ddaw addysg grefyddol i gyfarfod â'r gwelliant hwn, ofnir na bydd i'n hys- golion ateb eu dyben, ac o ganlyniad na bydd i ieuenctyd ein gwlad eu mynychu. Un bai arbenig ydyw, fod yr addysg a gyfreni ynctdi yu rhy gyfyng ei therfynau. Ac.fel y mae y gwaethaf, dywedir na wneir, mewn llawer ysgol, ddim mewn ffordd o addysg, ond yn unig darllenir yn un llinyn ymlaen o hyd, o hyd, yr hyn sydd yn waith tra anfuddiol. Ac eto, lle yr amcenir at addysgu, nid ydyw nemawr yn well. Ewch i'r dosbeirth uchaf, y dosbeirth cynnorthwyol, fel eu gelwir, y cwbl braidd a gewch yno fydd cwestiynau anorphen, a phynciau dadleuol; ac os dygwydd i rai o brif egwyddorion ein crefydd ddyfod dan sylw, fe 'u trinir mewn ffordd ffurfiol a sychlyd, pryd y dýlai y maes llafur gael ei helaethu, nes cyrhaedd hanesiaeth, daearyddiaeth, a naturiaeth ysgrythyrol, &c, ac yn arbenigol GoaPHEÄAP, 1853.] h