Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. GOSTYNGEIDDRWYDD. Gwnaeth Duw ddyn yn uniawn ar ei lun a'i ddelw ei hun. Yr oetìd dyn, pan y daeth o law ei Greawdwr, yn berffaith dded- wydd, ac wedi ei gynnysgaethu â gallu i ymddedwyddoli yn Nuw a'i greadigaeth. Yr oedd y fath na welodd llygaid Holl- wybodaeth un diffyg arno; ond fe ddywedodd Duw uwch ei ben ef a'r hol! greadigaeth, " Wele, da iawn ydoedd." Ond dyn a " chwiliodd allan lawer o ddychymygion "—fe ddychym- ygodd y gallai ei wneyd ei hun yn fwy dedwydd nag y gwnaethai Duw ef; fe feddyliodd y creadur y gallai ragori ar ei Greawdwr; fe feddyliodd y dyn am fod nid yn unig yn ddyn ar ddelw Duw, ond y byddai megys Duw; ac am hyny, fe roddodd orchymynion Duw iddo fel ei greadur o'r neilldu, ac a daflodd iau ufudd-dod oddiarno, ac a wrthryfelodd yn ei erbyn ef. Yn lle ymostwng iddo, a'i addoli fel ei Dduw, mynai ei fwrw i lawr oddiarei orsedd, aceistedd arni ei hunan; ac yn hytrach na chymeryd ei lywodraethu gan Dduw, mynai awenau y Uywodraeth i'w law ei hun. Dyma ydyw natur peehod—diorseddu D.uw, a'i osod dan draed. Ond buan y trodd y gwrthryfel yn sioinedig i'r dyn; yn lle dringo i orsedd Duw, fe gwympodd hyd yn uffern o ran cyflwr; yn lle bod yn ddyn ar ddelw Duw, fe ddaeth yn bechadur ar ddelw y diafol; yn lle bod yn alluog i ymddedwyddoli yn Nuw a'i greadigaeth, fe ddaeth holl elfenau trueni i mewn i'w natur, ac fe fynai ffoi o'i ŵydd. Yr hwn oedd unwaith ar ddelw yr Hollwybodol rnewn gwybodaeth, yn eeisio ymguddio yn mysg prenau yr ardd o ŵydd " yr hwn y mae ei lygaid yn edrych ar yr holl ddaear," fel pe buasai yn ceisio ffoi o ŵydd dyn, yr hwn y mae ei holl alluoedd yn derfynol a meidrol. O ! y fath gyfnewidiad ebrwydd a wnaeth pechod ar y dyn, ac O ! y fath gyfeiliornad y daeth dyn i'w afaeltrwy bechod. Dewis gwas- anaeth y diaíbl, cyflog yr hwn ydyw marwolaetli, yn lìe gwas- anaeth Duw, yr hwn sydd yn dybenu mewn mynediad helaeth i mewn i wlad o fywyd, heb ddim marwolaeth o'i mewn, i fv?ynhau Duw mewn digonolrwydd Uawenydd a digrifwch yn