Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. CYFARCHIAD CYFARPOD MISOL SIR FEIRIONYDD AT EULWÍSI Y SIR YN YFLWYDDYN BRESENNOL. Anwyl Frodyr, Wrth eich anerch y tro hwn, dynsunem eich gwahodd i gydystyried â ni natur y broffes yr ydym fel Cristionogion wedi gymeryd arnom, dybenion y broffeshon yn ei chysylltiail â'r gwirionedd ac â'r byd, ynghyd â'r pwysigrwydd i ni ym- ddwyn yn addas i'n proffes, ac felly sicrhau ei dybenion. Yr ydym yn aelodui proffesedig o gymdeithas sydd wedi ei galw allan o'r byd, er ein bod eto yn y byd—cymdeithas sydd heb fod yn cyfateb i ddim o'r gwahaniaethau y mae y byd hwn yn wneyd rhwng dynion a'u gilydd. Nid arferion gwlad, nid manteision nac anfanteision gweledig rhagluniaeth, nid awd- urdod seneddol, ydyw canolfur y gwahaniaeth rhwng y gymdeithas hon a sefydliadau y byd hwn. Mae ei bywyd yn ddirgelwch i'r byd, wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw. Dyben ein Harglwydd yn rhoddi ei hun drosom, oedd i'n gwaredu oddiwrth y byd drwg presennol; a'i alwad arnom ydyw, " Na chydymffurfiwch â'r byd hwn : eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl." " Ymddangosodd gras Duw—i'n dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awr hon." Mae y gymdeithas hon wedi ei sylfaenu mewu ffýdd rhwng pob un o'i haelodau â Iesu Grist fel yr Arglwydd ein cyfiawnder; ac y mae eu hundeb mewn cariad a chydweith- rediad â'u gilydd yn codi oddiar eu hundeb â'u Pen. Maent yn un â'u gilydd, am eu bod yn un â Christ; niaent yn feini bywiol yn yr un tŷ ysbrydol, am eu bod wedi eu hadeil- adu ar yr un sylfaen, y pen conglfaen, etholedig a gwerthfawr. Mae pob un sydd yn cael undeb â Christ, nid yn unig yn cael diogelwch, ond mae bywyd newydd—bywyd Crist—yn cael ei genedlu ynddo; ac y mae y bywyd hwn yn cymeryd nieddiant llwyr o hono—ysbryd, enaid, a chorff—ac yn ei wneyd yn greadur newydd. Yn yr angeu sydd yn cuddio euog- rwydd ei bechodau, mae yn cael dyben newydd i'w fywyd Ebeill, 1853.] e