Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. CYPARCHIAD Y PARCII. HENRY REES I AELODAU CYMDEITÍÍAS GWYR IEUAINC LIVERPOOL. GrPEiiiLiOíí Ieüainc.—Fel un sydd yn caru eieh ilwyddiant yn mhob daioni, ac yn enwedig yn yr ymgais presennol i ychwanegu at eieh manteision gwybodaethol a ehrefyddol, yr ydwyf yn cyfodi i'ch cyfarch yn bresennol. Ac nis gwn am un cynghor addasach i'w roddi i chwi, ar sefydliad y gymdeithas hon, na'r. hwn sydd yn gynnwysedig yn ngorchymyn yr apostol Paul i Titus—" Y gwŷr ieuainc yr un ffunud cynghora i fod yn sobr." Yn yr adnodau o'r blaen, fe'i dysgir ef i gynghori yr hynafgwyr a'r hynafwragedd i fod yn sobr; ac yma i gynghori gwŷr ieuainc yr un ffunud i fod yn sobr. Ac os y w y cynghor yn anghenrheidiol i hen bobl sydd â'u natur yn adfeiliedig, ac wedi dyfod trwy lawer o demtasiynau yn y byd, ac yn awr ar ehedeg o honoi'r byd tragywyddol, y mae yn ddiammhau ei fod yn Uawer mwy anghenrheidiol i bobl ieuainc. O! na buaswn mewn ysbryd i ddyferu gair yn effeithiol i'ch meddyliau am hyn. Y mae y sobrwydd a ddysga yr efengyl yn cynnwys hunan- lywodraeth : ein bod, yn ofn yr Arglwydd, yn cadw ein blysiau a'n nwydau afreolaidd o dan awdurdod ac mewn trefn. Yr ydwyf, gan hyny, frodyr ieuainc, anwyl, yn eich cynghori i fod yn sobr— 1. Oddiwrth feddwdod. " Canys y rhai a gysgant, y nos y cysgant; a'r rhai a feddwant, y nos (mewn cyfiwr o dywyll- wch ac annuwioldeb) y meddwant; eithr nyni, gan ein bod o'r dydd, gwyliwn a byddwn sobr." Yr ydwyf yn Uawenhau yn y gobaith fod y prif demtasiynau i wŷr ieuainc i anghy- medroldeb yn lleihau yn feunyddiol. Yr oedd yr arferiad o yfed y dîodydd meddwol, ynghyd â'r bri a'r urddas oedd ar yr arferiad hòno, yn fagl ddychrynllyd i lawer o ieuenctyd. O herwydd hyn, gwelid bechgyn iselradd a chyffredin yn aml gyda'r pot a'r bibell, pryd nad oeddynt yn eu hoffi; ie, yn ym- orchestu i'w harfer, pan y byddent yn eu casäu. A'r un ffunud, gwŷr ieuainc mewn sefyllfaoedd uwch, a gysylitent wrth bob cyfeillach â'u gilydd yr arferiad o'r gwin a'r diodydd cryfion; a hyny i'r dyben o ymddwyn fel gwŷr, a dangos eu hunain yn ddynion. A pha beth fu y canlyniad o hyn? A Mawuth, 1853] " d