Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. Y GWAREDWR YN CYD-DDYODDEF. Mae yn hollol anghenrheidiol i'r credadyn, yn ei aml a'i flin gystuddiau, wrth gydymdeimlad bywiog yn rhywle, er cyn- nal ei feddwl, a'i ddyddanu yn yr unrhy w. Anghenrhaid oedd hefyd iddo gyfarfod â'r cydymdeimlad hwnw yn ei Waredwr. Ni buasai yn ddigon effeithiol er dyddanu y Cristion yn un- man arall; ac heblaw hyny, lle cyf'arfyddo y galon â chydym- deimlad, ynoymae yn siwr o lynu—yno yr ymglyma, ac y gorphwys. Gan hyny, os mynid ennill y galon at Grist, a Duw ynddo, yr oedd raid füd y cydymdeimlad i gyfarfod âg ef yn Nghrist. Trwy ddyoddefiadau y perífeithiwyd Tywysog einhiachawd- wriaeth yu hyn hefyd. Trwyddynt, daeth yn feddiannol ar fodd i allu cyd-ddyoddef. Heb ddyoddef ei hunan, nis gall- asai hyny. Er y buasai, fel y mae yn Dduw hollwybodol, yn gwybod am ddyoddefiadau ei bobl yn berffaith, yn llawer gwell nag y gwyddant eu hunain, ac yn gallu canfod a deall eu teimladau hwythau dan eu dyoddefiadau yn y modd perffeith- iaf, eto, er hyn oll, ni buasai yn medru cyd-ddyoddef. Nis gall neb gyd-ddyoddef, heb fod wedi dyoddef ei hunan. Mae hyn yn fath o wirionedd ag yr ydym yn ei ganfodar unwa'th, heb ymresymu; ac yn wir, er ymresymu, ni bydd genym un rheswm i roddi drosto, acetogwyddom mai gwirionedd ydyw. Tybier fod y darllenydd yn gorwedd ar wely cystudd, ac felly, hwyrach, er ys llawer o ddyddiau; tybier hefyd fod yr Ar- glwydd, oddiar ryw ddoeth ddybenion, a thiriondeb ei drugar- edd, yn anfon un o'r angelion i'th ddyddanu yn dy gystudd. Yn y fath amgylchiad, gofalai yr angel yn ddiammhau am ddyfod yn y fath fodd ag i beidio dy ddychrynu yn y radd leiaf. Teimlit tithau hefyd fod yr Arglwydd yn dirion iawn yn ei anfon ; ac hefyd fod yr angel yn fwynaidd iawn fod yn dyfod. Ti a'i bernit y boneddwr lledneisiaf a welaist erioed ; a Uefarai yntau wrthyt hefyd lawer o eiriau cymffor- ddus, trwy y rhai y'th gysurid yn fawr iawn; ond byddai rhywbeth yn dy fynwes di o dan y cyfan, fel yn rhyw sisial a a dywedyd, Angel yw efe, onide ? mae o yn un dymunol iawn hefyd. Mae o yn medru dyddanu yn fedrus; ond yr un pryd, angel ydyw. Ni fedr efe ddim cydymdeimlo â mi; ni bu "efe Caw£PKOB, 1853.] c