Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. DIWYGIAD. " Pa faint mwy y rhydd eich Tad o'r nef yr Yshryd Glân i'r rMn a ofynant ganddo. Dwy ddyledswydd a argymhellir arnom yn iynych yn y gair sanctaidd, ydynt, gwylio a gweddio. Anmhosibl cyflawni y naill yn deilwng, tra yr esgeulusir y llall. Gwylio heb wedd'io sydd anffyddiaeth ymarferol, a gweddio heb wylio sydd ryfyg. Ein bod yn gweddio a arwydda ein hymwybodolrwydd a'n cydnabyddiaeth o'n gwendid a'n hanallu, a'n gwaith yn gwylio a esyd allan ein bod yn argyhoeddedig o'n dyledswyddau. Tra yn gwylio, "gweithiwn allan ein hiachawdwriaeth ein hunain trwy ofn a dychryn," a dangoswn wrth wedd'io, ein crediniaeth mai " Duw sydd yn gweithio ynom." Mae iawn gyflawniad o'r _ddwy ddyledswydd yn anhebgoroler dwyn ymlaen achoscrefydd yn y byd; ac os dirywicdig fyddwn yn y naill, pa mor zelog bynag tros y llall, dengys hyny ein bod yn gweithredu oddiar gau egwyddorion, naill ai niewn anwybodaeth neu anystyriaeth, neu ỳnte fod ein hysbryd i raddau helaeth mewn adfeiliad. Ond cyfeiriwn yr yeliydig sylwadau canlynol at yr olaf o'r ddwy ddyledswydd hyn, sef gweddio. Nid oes odid un ddylectswydd yr annogir ni yn amlaeh ati, nac y daugosir y bendithion a ddeilliant trwyddi yn egìurach yn y Bibl, na gweddi. Ac nid oes un elfen mewn gweddi y coffëir yr anghenrheidrwydd am dani yn fynychach na thaer- ineb. Sonir am " daer weddi y cyfiawn." Gorchymynir i ni beidio gadael dystawrwydd i Dduw. Dywedir wrthym am guro nes cael agoriad, am alw nes cael àtebiad, ac am ofyn nes derbyn. Ac nid yu uaig gosodir gweddi allan fel dyledswydd, ond argymhellir hi arnom fel rhagorfraint, a rhoddir y sicrwydd mwyaf diamndieuol amlwyddiant: mae genym y sierwydd mwy- af y bydd i ni lwyddo yn yr iawn ymarferiad á'r ddyledswydd. Nid oes cysgod o ammheuaeth yn cael ei dafiu yn y gair o aflwyddiant: " Gofynwch a rhoddir î chwi." Nodir amryw fathau o weddi yn y Bibl; megys, y ddirgel, y deuluaidd, a'r gymdeithasol. Mae y teimlad cymdeithasol yn deimlad dynol; perthyna i'r natur ddynol. Mae pob creadur yn caru cyfeillach Io^awb, 18ó3.] B