Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. PA FODD Y MAE GWAED CRIST YN PURO Y GYDWYBOD? " Pa faint mwy y bydd i waed„ C'rist, yr hwn trwy yr Ysbryd tragywyddol a'i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddiwrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu y Duw byw .'" Heb.ix.. 14. Hoffwn allu gwneyd hyn yn amlwg iawn i bawb, yn enw- edig i'r bobl ddigrefydd. Mae rhai o'r rhai hyny yn meddwl nad oes peth fel hyn mewn crefydd. Tybiant hwy mai dyna sydd yn y grefydd yma—deffro ac archolli y gydwybod, a'i gadael wedi liyny a'i gwaed yn llifo, megys. Na, na, mae mewn crefydd ei thawelu hefyd, a hyny ar dir cyfreithlawn, ar y cyfryw dir nad ä yn ystorm ynddi mwy i dragywyddoldeb. 0 ! beth pe gwybyddid am hyn sydd gyda'r grefydd yma, ni byddai heddwchi neb nes cael gafael arni. Darllenwnryw hen lyfr, yn ddiweddar, a soniai äm neíbedd fechan, a nefoedu isod, a hyny yn gyferbyniol â'r nefoedd fawr, a'r nefoedd uchod. Ac erbyn deall ei feddwl, hyny a olygai wrth y nefoedd fechan, heddwch a phuredd yn y gydwybod. Ac y mae y credadyn, eb efe, yn cael y nefoedd fechan i aros cael myned i'r nefoedd fawr. Ond mewn difrif, nid nefoedd fechan mohoni, ond un fawr iawn ; ac y mae y nefoedd ymayn dy yir.yl heddy w. Oiid pa fodd y mae y gwaed yn puro ? Mae gwaed Crist yn ddigonol iawn am bechod. Mae o natur gyfaddas i fod felly. Mae yr apostol a'i lygaid ar hyn wrth ysgrifenu yr adnod uehod, dybygid; canys y mae yn cyffwrdd âg amry w bethau yn fyr, fel â blaenau ei fysedd wrth fyned heibio, perthynol i waed Crist, ag sydd yn peri ei fod o natur briodol i fod yn iawn dros bechod dyn. Yn un peth, gwaed Cristydyw; gwaedyrEnein- i°g> y gosodedig—gwaed un oedd yn marw yn ol trefn bennodol—yn ol cyfammod. Gwaed un yn Dduw tragywyddol ydyw hefyd. Ar Galfaria, gwelwyd peth nas gwelwyd erioed o'r blaen, ac nis gwelir, mae yn debyg, byth mwy, mewn un- i'hyw barth o lywodraeth y Duw mawr. Yno gwelwyd, Arglwydd wedi marw! "yr hwu a'i hoffrymodd ei hun." Marw o'i fodd a wnaeth efe^ heb gael ei ddirgymhelí gan neb i hyny; ond fel y dywed ei hunan, dodi ei einioes i lawr o hono ei hun. Yr oedd yn ddifai i Dduw hefy<l. Un diddrwg, dihalog, oedd efe. " Wedi ei demtio yn mhob peth yr un ffunud a ninnau, eto heb becho i." Eto heb becliod. Dyma ymadrodd diflas i'r diat'ol, Ceiddocìd îesu drwy RllAUFYR, 1832.] K