Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T METHODIST. Y NIWED 0 BEIDIö SEFYLL AT YR UN PRIS AR EIDDO WRTH WERTHU. TRAETHAWD AROBRYN. D. S ..Y mae 'r Traethawd hwn yn " Copyright." PENNOD II. Nis gellir meddwl am ddim a wnai fasnach yn fwy cysurus na rhoddi un pris teg ar eiddo, a sefyll ato wrth werthu a chael arian parod am dano. Byddai cael y ddau beth yma i arferiad gyffredinol yn ddiogelwch a chysur i'r masnachwr, ac yn lles a bendith i'r prynwr. Byddent yn noddfa i'r g^erthwr rhag llawer o golledion ac anghysuron, ac yn ddiogelwch i'r prynwr rhag Uawer o «Iwyll ac anghyfiawnder. Gosodent y ddau ar dir na byddai ammheuacth am eu gonestrwydd. Ataliai un lawer o daeru ynfyd, ar llall lawer o boen a gofíd. Byddai sefyll at yr un pris yn anrhydedd i'r gwerthwr, a thalu arian parod yn glod i'r prynwr. Ac nid oes neb mor deilwng o gael prynwr âg arian parod ag ydyw y masnachwr â'r un pris. Ond rhaid prysuro at fater y bennod rhag myned dros y terfyn gosodedig. 1. Y mae peidio sefyll at yr un pris ar eiddo wrth werthu yn llawn o dwyll ac anghyfiawnder. Dymaddyn yn myned i fasnachdy i brynu brethyn, a dacw y brethynwr yn gofyn un swllt ar bymtheg y llath am dano, ac wedi hyny yn ei werthu am bedwar swllt ar ddeg y llath. Yn awr, onid oes yn hyn anghyfiawnder yn ymddangos ? Os pedwar swllt ar ddeg y llath oedd gwir werth y brethyn, onid oedd gofyn un swlltar bymtheg y llath yn anghyfiawnder? Onid masnach deg ydyw rhoddi gwerth am werth ? Attolwg, a newidiodd y brethyn ei >verth mewn mynyd? A oedd yn werth un swllt ar bymtheg y llath y fyuyd o'r bìaen, a'r fynyd yma ddim ondgwerth pedwar swllt ar ddeg y llath ? Neu ynte, a ydyw pedwar swllt ar ddeg y fynyd yma yn cyfateb i werth un swllt a'r bymtheg y fynyd o'r blaen ? Nid oes eisieu dy wedyd, nad y brethyn na'r arian a newidiodd; ond rhaid dywedyd mai cydwybod gyf- newidiol ahawdd ei throi oedd gan y brethynwr. Oud dichou Tachwedd, 1832.] i