Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. EFFEITHIAU NIWEIDIOL A DRWG YR ARPERIAD 0 GOELIO, YNGHYD A MANTEISION TREFN YR ARIAN PAROD. TRAETHAWD AROBRYN. Y mab rhedeg i ddyled, a bod yn ddrwg ara dalu, yn gŵyn gyffredinol yn Nghymru, ac yn cynnyrchu H'iaws o effeithiau tra niweidiol. Byddai cael diwygiad yn hyn yn lles niawr i fasnach a chrefydd. Ac un o'r prif íbddion i gael diwyg- iad ydyw, yindrechu i ddangos effeithiau niweidiol a drwg yr arferiad o goelio, ynghyd â manteision trefn yr arian parod. Dichon mai y llwybr goreu ac effeithiolaf i wneuthur hyn ydyw, trwy ddwyn drvgioni un, a daioni y llall, i wyneb eu gilydd, fel y caffer y fantais oreu i wrthod un a dewis y llall. 1. Y mae yr arferiad o goelio yn tueddu i ddinystrio ysbryd annibynol. Dylai pob dyn ymdrechu, trwy arfer pob moddion cyfreithlawn, i fyw mor annibynnol ag y ga.ll. Dylai y gwas, os gall yn deg, ymdrechu bod yn feistr. " Os gelli," medd yr apostol Paul, wrth y gwas, " gael bod yn rhydd, mwynhâ hyny yn hytrach." Mynych y cynghorid y Cristiòn- ogion boreuol i fyw heb bwyso ar neb. Bu yr apostol Paul, pan ynmysg y Thessaloniaid, yn "gweithio mewn llafuralludded nos a dydd," er mwyn rhoddi esiampl iddynt i íyw arnynt eu hunain; er fod ganddo, o herwydd ei swydd, awdurdod i beidio gweithio. Ond y mae trefn y coelio yn tueddu i yru dynion i fyw ar eraill, yn lle byw arnynt eu hunain—i fyw ar yr hyn nad oesganddynt ddim gwir hawl arno, tra byddont heb dalu am dano, yr hyn sydd yn groes i'r ysbryd mawreddogac an- nibynola ddylai fod yn llywodraethu pob dyn. Ymae rhywbeth yn isel yn yr enw dyledwr; 'ie, rhy isel i fod ar neb sydd yn ar- ddel y Gwaredwr. Ond am y dyn sydd yn talu arian parod i bawb, gall fwyta ei fwyd, yfed ei ddîod, a gwisgo ei ddillad, gyda meddwl annibynol, cysurus, a diofn; gan deimlo fod ganddo wir hawl i bob peth sydd ganddo. Ac onid ydyw y dyn yma yn ŵr boneddig, beth bynag a fo ei sefyllfa, mown Hydref, 1852.] II