Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. Y MAB YN UFUDDHAU. Pe gofynid i ni pa beth yw y prawf uchaf o allu anfeidrol Mab Duw, ni a atebem mai ei waith yn ufuddhau. Dywedir yn gyffredin, a hyny yn gywir, mai yn y prynedigaeth mae y dadguddiad cyflawnaf o briodoliaethau moesol Jehofa. Y mae gogoniant a phrydferthwch y natur ddwyfol yn dyfod i fwy o amlygrwydd yn ufudd-dod y dyn Crist Iesu, nag yn yr un dadguddiad arall. Yn y groes y mae sancteiddrwydd a chariad, cyfìawnder a thrugaredd, wedi cydgyfarfod mewn gogoniant mawr—seiniau anghydgerdd y naill a'r llall wedi ymdoddi i gynghanedd dragywyddol—gweithrediadau Duw yn ei ddau gymeriad mawr, fel Llywodraethwr cyfiawn a Phen-arglwydd grasol, yn gwisgo y cysondeb perffeithiaf. Diau fod ymddys- gleiriad tra rhagorol priodoliaethau moesol Duw yn y Cyf- ryngwr yn fater anammheuadwy. Onid ellir dy weyd yr un peth am ei briodoliaethau naturiol ? Onid yw y prynedigaeth yn drefniant wedi ei apwyntio i hys- bysu yr oll o berfleithiau y Duwdod i'r greadigaeth resymol— nid yn unig y perffeithiau hyny oeddynt dan len o'r blaen, ond hefyd y rhai a amlygwyd—mewn gradd helaethach ? Ystyriwn hyn yn un rheswmpahamyranghofir, ac nafeddylir am y rhai cyntaf, mewn cymhariaeth i'r " nefoedd newydd a'r ddaear newydd." Ni fydd raid i'r efrydydd aros i astudio y rhai cyntaf, i ganfod prawfiadau o allu a doethineb Duw, am y caiff brawfiadau llawer uwch o honynt yn y newydd. " Crist gallu Duw a doethineb Duw," medd yr apostol Paul. Y mae yn hysbys " i'r tywysogaethau ac i'r awdurdodau yn y nefolion leoedd, fawr amryw ddoethineb Duw." Wrth fyfyrio ar drefn iachawdwriaeth, o bosihl mai y perffeithiau o gyfiawnder, cariad, a doethineb, sydd yn ymgynnyg i'r meddwl fel y rhai mwyaf arbenig ynddi; ac y mae hyny yn dra naturiol, oblegid y rhai hyn a ddygir i fwyaf o arbenig- rwydd yn y Bibl mewn cysylltiad â dyfais yr efengyl. Fe sonir am allu Duw fynycliaf fel yn gweithredu ar y dyn yn nghymhwysiad y drefn, yn hytrach nag yn y drefn ei hunan, Er hyny, y mae rhagorol fawredd nerth Duw yn ymddangos, nid yn unig at y rhai sydd yn credu,—nid yn unig yn AWST, 1852.] j?