Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. TRADDODIAD AM YR APOSTOL IOAN. A GOrFEIE GAIf CLEMENS ALEXANDBINUS. Ar ei ddychweliad o Patmos i Ephesus, ymwelodd â'r wlad o amgylch, i sefydlu ysgolion, ac i osod yr eglwysi mewn trefn. Mewn dinas, heb fod ymhell o Ephesus, yr hon, hyd yn nod a enwir gan rai, fel y mae yn cynghori ac yn cysuro y brodyr, canfydda ẃr ieuanc hardd a brwdfrydig, yr hwn a dyna ei sylw yn gymaint fel y troa yn y fan at esgob y lle, gan ddywedyd, " Yr ydwyf, yn y modd mwyaf difrifol, yn cyflwyno y gŵr ieuanc hwn i'th ofal o flaen Crist a'i eglwys fel tystion." Cymerodd yr esgob y gŵr ieuanc dan ei ofal, gan addaw gwneyd pob peth erddo ; ac ar ei ymadawiad, adroddodd Ioan yr un geiriau draehefn. Derbyniodd yr henuriad y gŵr ieuanc i'w dŷ, gofalodd am dano, a gwyliodd yn ei gylch, nes o'r diwedd y gallai ei dderbyn i'w fedyddio. Ond wedi iddo dderbyn y zeì yma o eiddo yr Arglwydd, llacaodd yr esgob ei ofal a'i wyliadwriaeth. Mae y gŵr ieuanc, wedi ei ryddhau yn rhy gynnar oddiwrth ddysgyblaeth, yn syrthio i gwmpeini drwg. Yn gyntaf, y mae yn cael ei dynu i anghymedroîdeb, yna mae yn cael ei ddwyn ymlaen i yspeilio teithwyr yn y nos. Fel y niarch calonog wedi neidio o'r ffordd iawn, sydd yn ei duflu ei hunan yn sydyn i'r dyfnder, felly hefyd yr oedd ei natur angerddol yntau yn ei dynu i ddyfnder colledigaeth. Yr ydoedd yn awr wedi anobeithio am ras Duw, ac ewyllysiai, gan hyny, gan ei fod i dderbyn yr un dynged a'i gyfeillion, i wneyd rhywbeth mawr. Casglodd ynghyd ei gyfeillion, ffurfiodd fintai o yspeilwyr, daeth yn llywydd arnynt ei hunan, ac aeth tuhwnt iddynt oll mewn syched am waed, a gweithredoedd o greulondeb. Wedi peth amser, galwyd Ioan drachefn i'r un ddinas, ar ryw achos. Wedi trefnu pob peth arall, efe agyfarchodd yr esgob :—" Yn awr, esgob, dyroyn ol i ni y gwystl yr hwn y darfu i mi a'r Gwaredwr ei ymddiried i ti o flaen yr eglwys." Yr oedd yr esgob ar y cyntaf wedi dychrynu, a meddyliai ei fod yn cyfeirio at arian oeddynt wedi eu lladrata. Ond pan ddywedodd Ioan, "Yr wyf yn gofyn yn ol y gŵr ieuanc ac enaid fy mrawd :" och- eneidiodd yr hen wr yn ddwfn, a dywedodd, gyda dagrau, "Y GOEPHENAF, 1852.] E