Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. ARFERIÖN Y CYMRY. TRAETHAWD AROBRYN. Pennod II.—Dylanwad yr Arferion a ragenwyd, ac Awgrymau GWELLHAOL. Nis eredwn ei bod yn bosibl i unrhyw bobl fyw yn barhaus dan lywodraeth achlysuron unrhyw bechod, heb gael eu mynyçh lithio i'w gyflawni. Y mae yn wir y gellir chwareu â'r brofedigaeth am enyd, ac y gellir casglu digon o nerth i wrthsefyll y demtasiwn am amser maith; ond can wired a bod deddf achos ac effaith yn perthyn i'r byd moesol a meddyliol, yn gystal a'r byd allanol a naturiol, y brofedigaeth a orfydd yn y diwedd. Os ydyw yr arferion a enwyd yn gynnifer o achlysuron i anniweirdel)—a phwy all wadu am eiliad nad y w cyfeillachau Uygredig y ffeiriau a'r neithiorau, &c, a'r amser a'r Ue y rhag-gyfeillachir, yn cyfansoddi y cyfryw brofedig- aethau?—yna y mae yn rhaid eu bod yn cynnyrcliu eu heffeithiau yn aml. Dadleuir, fe allai, fod mwy o blant anghyf- reithlawn yn cael eu geni yn sir Faesyfed nagyn sir Aberteifi, yn ol cyfartaledd y boblogaeth, tra y mae yn arferiad i gyd- orwedd yn yr olaf, ae nad yw yn y Uall; ac felly, nad yw yr achlysuron z enwyd yn dylanwadu nemawr ar gyflawniad y pechod. Tybiwnfodyrateb i'w gaelyn sefyllfa foesol yddwy sir. Gwyddis fod crefydd Crist wedi cael rhwydd hynt yn sir Aberteifi, fel y gellir dywedyd ei bod yn un o'r siroedd mwyaf crefyddol yn y Dy wysogaeth ; tra, yr ochr arall, y mae sir Faes- yfed ymron yn hollol baganaidd, a'r trigolion yn y tywyllwch dygnaf am bethau crefyddol. Ar y tir yna yn unig y dylid eu cymharu. Egwyddorion y galon, ac nid ymddygiad allanol, yw gwrthddrych barn cyfiawnder dwyfol. Pa fwyaf fydd y goleuni a'r wybodaeth y pechir yn eu herbyn, duaf oll fydd y bai. Ac wrth ystyried hyna, credwn ein bod yn llefaru yn gywir pan yn dyweyd, fod y pechod o anniweirdeb yn waeth yn sir Aberteifi nag yn un sir arall yn Nghymru na Lloegr. Pell oddiwrtbym, yr un pryd, fyddo awgrymu fod syniadau ieuenctyd siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin am y pechod hwn, y cyfryw ag y myn y Dirprwywyr Addysg ein darbwyllo eu Mehefin, 1852.] D