Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. GOFAL RHAGLUNIAETH. " A y mae, ie, holl wallt eich pen wedi eu cyfrif;" Mat. i. 30. Llefarodd ein Harglwydd y geiriau uehod wrth y dysgyblion, pan ar eu hanfon allan i'w taith trwy wlad Judea, i fynegu íbd teyrnas Dduw ar yniddangos. Cario ymlaen weinidogaeth Ioan Fedyddiwr, yn benaf, yr oeddynt drwy hyn, ac nid oeddynt yn y daith hon i droi i ffordd y cenedloedd, ac i ddinas y Samariaid nid oeddynt i fyned i mewn. A dyma y cysur a roddai iddynt i wynebu ar y daith a'i pheryglon; sef, y byddai sylw Duw arnynt, a'i lywodraeth drostynt, a hyny hyd yn nod ar y pethau lleiaf a berthynai iddynt. " Ac y mae, ie, holl wallt eich pen wedi eu cyfrif." Mae i ninnau ein taith trwy y byd, ac y mae iddi ei hanghy- suron a'i pheryglon ; ac os oedd y gwirionedd uchod yn gysur i'r dysgyblion gynt, gall yr un ffunud fod yn gysur i ninnau yn bresennol. O'i gredu a'i deimlo, byddai i ni yn gysur cryf. Ond, rywfodd, mae dynolryw yn hwyrdrwm iawn o galon i gredu hyn. Clywais un dyn duwiol a da yn cyfaddef amryw weithiau, fod methu coelio hyn, neu bod ammheu hyn, yn brofedigaeth fawr iddo. " Pa íbdd y gallaf fi gredu," dy wedai, " fod y Duw mawr anfeidrol yn dal sylw ar bob peth byehan, perthynol i ryw greadur bychan ac annheilwngfely fi." Mae îlawer iawn, ie y cyffredin o ddynion, o'r un teimlad, beth ìbynag am farn. A pho dwysaf fyddo argyhoeddiad dyn, nid jyw hyny arogen na dwyseiddio y teimlad hwnw ynddo. jSyniai hyd yn nod y paganiaid yr un fath mewn perthynas i'w |duwjau'penaf hwy, sef eu bod yn rhy uchel, a gormod o or- lchwylion mwy ar eu dwylaw, iddynt allu craffu ar, ae edrych jjar ol pob peth bychan perthynol iddynt hwy. Á dyma yn ödiau a barodd iddynt ddyfeisio cynnifer o ganol-dduwiau. Ipyfeirir at y rhai hyn yn yr Ysgrythyrau dan yr enw angél- lon, " ac addoliad angelion ;" Col. ii. 18: neu ynte, dan yr pnw cythreuliaid. Lle y sonia yr apostol am athrawiaethau pythreuliaid, yr athrawiaethau am, neu ynghylch y cythreuliaid byn, neu y canol-dduwiau, a feddylir. Tybygid hefyd fod gan ^r un teimlad ran mewn gweithio y Pabyddion i ddyfeiaio Ebriij,, 1852. o