Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. FFYNNON WEDI EI HAGORYD. Ztc. xiii. 1. Diau raai dyoddefaint a marwoîaeth y Gwaredwr ydyw y ûynnon. Mae yn ystyriaeth ddifrifol nad oedd yn bod trwy yr holl greadigaeth, nac ychwaith yn natur y Bod Mawr ei liun, un flynnon a allasai olchi ymaith aflendid dyn, nes ei hagoryd; ac nid oedd fodd ei hagoryd ond drwy i Fab Duw, yn natur dyn, roddi ei gefn i'r curwyr, a thywallt ei enaid i farwolaeth, fel y gwnaeth. Gwelwn, gan hyny, mai â swm mawr yv ennillwyd i ni y flynnon-fraint hon. Mawr iawn oedd dyfod o'r fath berson goruchel i sefyllfa o ddyoddef o gwbl, a mawrion heí'yd fu ei ddyoddefiadau yn y sefyllfa hòno. Dyoddefodd ar hyd ei holl fywyd. Yr oedd bod o dan y ddeddf yn ddyoddefaint i ŵr o'i fath ef. Byw ymhlith dynion heb ond i ychydig o honynt ei adnabod, a'r yehydig hyny ond mewn rhan fechan, yr oedd hyn yn achosi dyoddef- aint. Cariodd ar hyd ei fywyd hefyd y rhagolygiad ar ei farwolaeth. Mae ei ragfynegiadau o'r amgylchiad yn eglur /tldangos fod y cyfan, yn y modd mwyaf amlwg, o flaen llygaid ei feddwl. Byw i ddyoddef yr oedd eí'e. Yr ydym ninnau yn gorfod dyoddef ychydig wrth fyw, ond y mae annhraethol wahaniaeth rhwng hyny a byw i ddyoddef. Pwy Jbefyd na bu yn synu yn yr olwg ar ei dywydd yn yr ardd, y brawdlys- oedd, a lle y benglog. Fel hyn, mawr a rhyfedd oedd agorvd y tìÿnnon. Nid oedd agor fienestri y nefoedd, a rhwygo holl ífynnonau y dyfnder mawr, ac agoryd y môr wedi hyny, ond megys dim o'u cymharu â hyn. Ni bydd agor yr holl feddau arunwaith y dyddolafond gwaith agyflawniroddiar ycwmwl: ond mewn trefn i agor y fiynnon, bu raid iddo oruedd yn ngwaelod bedd ei hunan. Hefyd, cynnwysai agoryd y ffynnon ddyoddef yn gyhoeudus. Gwyddom y gallasai y Cyfryngwr ddyoddef cymuint ag a ddyoddefodd, ac í'r eyfan fod yn guddiedig oddiwrth ddyn- ion. Gallasai y cwbl basio yn un o ogofeydd gwlad Judea; neu ynte gallasai ddyoddef y cyfan yn y tŷ yn Nazareth neu Capernaum, htîb neb ond ychydig gyfeillion yn gwybod yr Mawiitu, 1S5í. b