Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

150 SAMABTAETH. fod, yn yr unystyr ac y mae trigol- ion Efraingc yn Ffrancod—Prydam yn Brydeiniaid, neu trigolion Cym- ru yn' Gymry ; felly y Samariaid, enw y wlad yn cael ei roddi i'w meddianwyr. Onid oes rbywbeth yn bur debyg i'r Cymry ynddynt, fel cenedl. Anfynych y gellir cyf- arfod ag un Cymro gwaed coch cyfan, heb fod yn gymysgedig â rhyw genedl estronol. II. Sylwwn arnynt fel crefydd- wyr. Wrth drafod y gosodiad hwn ymdrechaf fod mor fwyn ag y goddef y testyn i mi fod. Nid fy mwriad yw tramgwyddonebbywar y ddaiar, ond yn hytraeh argyhoeddi yn yr hyn y sy gyfeiliornus, fel y byddo diwygiad cyffredinol yn cymeryd Ue. Ond at y pwnc. 1, Tr oedd ganddynt eu teml yr hon oedd wedi ei sefydlu ar fynj dd Gerazin. Tstyrient eu bod o osod- iad Duw, am hyny yr oeddynt yn dwyn mawr sel drosti. Mae rhyw- beth yn yr ymddyddan a gymerodd le rhwng yr Arglwydd Iesu Grist â'r wraig o Samaria, \n gogwyddo at y dybiaeth hon, " Ein tadau a fiddolasant yn y mynydd hwn ac yr ydych chwi (Iuddewon) yn dywedyd mai yn Ierusalem y mae y man lle mae yn rhaid addoli." Tr ydym ni fel Cymry yn tra rhagori ar y Samar- iaid yn hyn, nid yn unig y mae genym deml ond temlau wedi eu sefydlu yn mhob bro a bryn, ac ystyrir y temlau hyn yn "dŷ Dduw," nid yn unig gan y rhyw Ëpiscopal- aidd, ond hefyd gan y mwyafrif o bob enwad crfyddol. Tr wyf yn dyst byw o glywed dywediadau o'r natur isod gan bregethwyr poblogaidd pan yrn casglu i ddileu dyled eu haddol- dai: " Bhoddwch yn haelionus i symud y baicb oddar dŷ Dduw ;" a dywedodd un, os da wyf yn coflo, bod c< tŷ Dduw yn y carchar," (pan yn cyfeirio at y dyled oedd ar y capel), ac nid yn unig hynyna, ond ystyriant a dysgant bod pob rììodd a roddir at wasanaeth yr adeilad, pa un bynag ai am arian, pres, eoed, cerig, priddfeini, neu ryw ddefnydd- iau ereill, yn rhoddi i ddwyn tŷ yr Arglwydd yn mlaen. Onid yw ymadroddion o'r natur yna yn i swnio yn chwithig iawn yn nghlust- I iau pob myfyriwr Biblaidd ? Dy- ! munwn yn ostyngedig ddwyn i gof j y temlwyr uchod nad ydym ni yn byw dan oes y cysgod ond dan oes y I sylwedd. T mae yn wir fod gan | Dduw dŷ gwedi bod o dan yr ! ewyllys gyntaf, ond un oedd ganddo | a nid amryw. A pheth arall, yr j oedd wedi rhoddi gorchymyn i adeil- | adu y tŷ hwnw, 1 Bren. viii. 17-19. | ac yr oedd pob peth perthynol iddo, | sef ei holl ddefhyddiau yn santaidd ! i'r Arglwydd ; ond am yr addoldai a I adeiledir yn ein dyddiau ni, ni I chawsantorchyrayn gau yr Arglwydd i'w hadeiladu, na trwydded i'w galw ; yn dŷ Dduw. Na, yr ydym ni yn | dysgu gwell pethau yn y goleuni dwyfol ; y mae yr ysgrythyr yn dy- wedyd yn eglir a phendant, " Ond nid yw y Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylaw." A hyny, nis gall y deml harddaf, y tỳ ardder- | chocaf, nâ'r adeilad gorwychaf, fod i yn fwy o dý i Dduw, nâ'r hen ! ysgubor waelaf, ac nis gall yr aur, I yr arian, &c, a roddir i'w adeiladu I fod yn íẁy cyssegredig gan yr Ar- glwydd wedi eu rhoddi na chyn eu rhoddi. Nid wyf yn dweyd. na ddylai fod gan y Cristionogion dŷ i addoli ynddo. Peth eithaf rhesymol yw cael un o'r fath : peidied neb a ty nghamddyali i; ond yn erbyn y term " tŷ Dduw " am yr adeilad yr wyf yn dadl'u. Tstyriwyf fod yr ystyr a gysylltir â'r gair ddim yn amgen nâ thatlu llwch i lygaid y werin. Cyn gadael y sylw hwn byddai yn eithaf peth rhoddi y darnodiad ysgrythyrol o'r gair tŷ Dduw. Caiff Paul fod ein hathraw, " Tŷ yr hwn ydym ni (saint) os nyni a geidw ein hyder a gobaith ein goríoledd yn sicr hyd y diwedd." " Oni wyddoch chwi mai teml Duw ydych, a bpd Tsbryd Duw yn trigo ynoch." ,Nid