Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SAÎÎA.RIAETH. 149 Gÿfamod newydd. Nid oedd dira ail- eni yn bod dan y cyfamod cyntaf; yr oeddynt yn cael eu geni i'r cyfamod hwnw yn ol trefn natur—trwy ea bod yn bad Abraham yn ol y cnawd. Pan ddywedodd yr Iesu wrth Nicodemus fod yn rhaid geni dyn drachefn cyn y gallai fyned i deyrnas Dduw, synodd yn ddirfawr at y fath ymadrodd, am ei fod yn ei weled yr un mwyaf afresymol ac a glywodd erioed, ac yn ei feddwl ef, yn beth annichonadwy i fod. Er mai y penaf o ddysgawdwyr Israel oedd hwn, eto ni wyddai fwy am yr ailenedigaeth nac am drysorau y gwynt; diameu fod llawer o frodyr iddo yn ein gwlad ni. Fel y mae yr Iesu yn myned yn mlaen gyda'r gwr hwn, y mae yn dy- wedyd yn fwy eglir fyth : " Oddeithr geni dyn o ddwfr ac o'r Ysbryd ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw." Beth y sydd yn ngolwg wrth lefaru fel hyn, ond y bedydd, sef trochiad. Paul hefyd wrth ysgrifenu at Titus a ddy wed, " Yr hwn a'n hach- ubedd ni trwy olchiad yr adenedig- aeih." Y mae «genyf un cyfieithiad yn fy meddiant yn darllen fel hyn : " Trwy fedydd yr adenedigaeth." Onid yw hyn yn profi tu hwnt i bob dadl fod bedydd yn ailenedigaeth ? Yr ysbryd Glân trwy ei dystiolaeth y sydd yn argyhoeddi ac yn cenedlu bywyd, yna mae yn cael ei eni o ddwfr i deyrnas Dduw. Mae yr Ysgrythyrau yn cadarnâu hyn ; mai eglwysi o ailenedigion oedd y rhai yr oedd yr apostolion yn ysgrifenu atynt. Gwel 1 Pedr i. 23, 1 Ioan ii. 29. Ond feallai y dadlua rhai mai eu dyben yn eu bedyddio yw eu cyflwyno i'r Ar- glwydd; ond dalier sylw yma mai pob gwrryw cyntafanedig oedd yn cael eu cyflwyno i'r Arglwydd, o ddyn ac anifail glân ac aflan, (gwel Exod. xiii.); os felly, dylent fyned a'r cyntafanedig o fochyn, a chi, a llo, ac asyn» gystal a dyn, at y gweinidog idd eu cyflwyno i'r Arglwydd, oblegyd yr un sail ysgrythyrol y sydd i'r naill ac Vt llall. Cofìer mai trwy bregethu a rhybuddio, a dysgu, y byddai yr apostolion \n cyflwyno dynion yn berffaith yn Nghrist Iesu, ac nid anifeiliaid, na babanod ; oblegyd an- nichonadwy ydyw rhybuddio a dysgu neb heb fod a synwyr, deall, ac am- gyffred ganddynt. Dymunol fyddai genyf i ryw rai o oebwyr yr Hyfforddwr ymhelaethu ar y pynciau hyn, sef y rhai sydd yn fwy deallgar a medrus nag wyf fi. Rhos, JOHN EoGERS. SAMAIiIAETH. Mysttch iawn y byddai yr Arglwydd Iesu Grist yn llefaru trwy gyfeíyb- iaethau, o'r braidd y traithai ar un pwnc heb ddefnyddio cydmariaeth i osod allan ei feddwl i'w wrandaw- wyr; felly yr apostolion, yn enw- edig Paul, a ddilyna ei Athraw mawr yn hyn ; y mae hyn mor am- lwg i ddarllenwyr yr Byfforddwr fel na raid i mi ond ei nodi, a thybiwyf mai y moddion effeithiolaf i ddy- noethi unrhyw gyfeiliornad neu gyfeiliornadau yw dylyn eu cynllun yn hyn, pa un bynag ai i lefaru, ys- grifenu, neu ryw beth arall perthyn- ol i Gristionogaeth. Dylem eu cy- meryd hwy yn fodel, canys pa safon fel safon dwyfol ? Ni fyddai niwed yn y byd i minhau amcanu at yr un dullwedd drwy gymeryd Samariaeth y dyddiau gynt fel cyfelybiaeth i osod allan Samariaeth y dyddiau presenol. Y mae rhywbeth yn- ddynt ac y sydd yn hynod naturiol fel cenedl ac fel crefyddwyr i'r Cymry a'u crefydd. Sylwn ar y Samariaid, I. Fel cenedl, dywedir mai brod- orion gwreiddiol oeddynt o Babylon. Pan gaethgludodd Nebuchodonozer Israel i'w dir, fe anfonodd drigolion o Fabilon i gyfaneddu eu tir, ac yn ysbaid eu arosiad yno, ymgymysgas- ant â'r Iuddewon, nes myned yn fath o genedl gymysgedig, a chaws- ant yr enw Samariaid y mae yn debygol oddwrth drigfa eu preswyl-