Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

148 AILENEDrGÂETH A CHYFI/WTNIAE. draddodîad dynol, heb unrhyw wyb- odaeth gywir o'r hanesiaeth ; ac y mae rhai a gredant i Foses a Iesu trwy dystiolaeth briodol ; eithr y mae ganddynt y fath olygiadau o Foses a Iesu y sydd yn gwneuthur eu fFydd yn ddiwerth. Daliant fympwyon a golygiadau o!r personau hyny a'u gwnant yn fodau cysgodol neu ddych- ymygol. Dywedodd ein Iachawdwr wrth ryw Iuàdewon a gredent yn - Moses, fel yr addefent, " Pe credent i Foses y credent ynddo yntau hefyd ;" a chan nad oeddynt yn credu ysgrifeniadau Moses, nis gallent gredu ei eiriau ef chwaith. Y mae lluaws yn credu rhywbeth o barthed Iesu, y Messiah, drwy awdur- dod a chyfarwyddiadau dynol yn unig, y rhai nad oes ganddynt un syniad nac amgyffrediad sylweddol ac eglur o hono, ac, o ganlyniad, " ni ymddir- ieda iddynt am dano ei hun." Pan oedd efe yn Ierusalem, credai llawer ynddo, fel Nicodemus pan ymwelodd gyntaf âg ef, i'r rhai y dywedir wrth- ym nad ymddiriedai iddynt am dano ei hun, oblegjd gwyddau am y cyfeil- iornadau a'r camddirnadau a goledd- ent yn ei gylch. Rhaid i'r holl han- esiaeth gael ei dyall yn drwyadl a'i derbyn yn galonog, yn ei synwyr gwirioneddol, ac ar ei thystiolaeth ddwyfol, fel ei heglurir gan yr Ysbryd Glân cyn y gelìir yn briodol ddweyd fod un yn ei chredu. Y rhai a'i cred- ant fel hyn a gânt ei bod yn ddoett- ineb ac yn allu Duw er iechydwriaeth. Eithr nid ymddibyna nerth ac effeithioldeb fîydd yn ogymaint ar y weithred neu y modd o gredu—nac ar ddüysrwydd y dystiolaeth—na hyd y nod ar ein sicrrwydd o'i gwirionedd, —ag a wna ar natur a gwerth yr hyn a gredir. Nerth ffydd y sydd yn y GWIRIONEDD A GREDIR. Y mae nerth ffydd yn nerth gwirionedd. Nid bwyta sydd yn cynal neu yn dinystrio y bywyd dynol, eithr yr hyn a fwyteir. Y mae rhai yn bwyta a by w—ereill a 'fwytânt, a byddant i'eirw. Cred rhai, a hwy a achubir—ereill a gredant, a demnir hwy. Pob un o'r cymeriad- au ydynt yn credu yn wirioneddol a didwyll. Ond cred y naill y gwirion- edd, ac a achubir—y lleill a gredant gelwydd, a hwy a ddemnir. Felly, gwir yw nad y modd o gredu a achub neu a ddystrywia, na didwylledd y grediniaeth chwaith, eithr ystyr a natur yr hyn a gredir. " Duw," medd Paul, " a ddenfyn i rai," neu a genadâ iddynt dderbyn, " amryfusedd cadarn fel y credont gelwydd," ac y'u demnir ; pan y denfyn i ereill y gwir- ionedd mewn nerth fel y credont ac y byddont gadwedig. Cred rhai ifarw- olaeth, eto yn ddidwyll—pawb, yn wir, a gredant gyfeiliornad neu gelwydd. Dewisa rhai gredu rhyw wirionedd dymunol a boddâol, yu hytrach nâ gwirionedd annymunol ac anfoddâol. Felly, câr rhai dywyll- wch, pan y mae ereill yn caru goleuni a gwirionedd. (Tw òaráu.J AILENEDIGAETH A CHYF- LWYNIAD. Y mae sectariaeth ein byd ni yn dysgu y bobl nad yw bedydd yn ail- enedigaeth, ac y maent yn gwaredu yn fawr rhag y fath beth. Y mae yn debyg oddwrth hyn nad ydynt yn dyall beth y w ailenedigaeth ; ond eto, ar yr un pryd, yn derbyn plant fr eglwys trwy fedydd, a hyny yn unig: nid oes eisieu na ffydd nac edifeirwch, a phe byddai, nid ydynt i'w cael gan fabanod. Rhaid, gan hyny, mái eu bedyddio hwy yn unig y sydd yn eu haileni, a dim arall, neu mae eu cy- nullheidfâoedd yn gynullheidfâoedd o ddiailenedigion. Rhyfedd dywyll- wch—iê mwy nâ thywyllwch yr Aifft. Mor groes y mae y bobl hyn iddynt eu hnnain, onidê ; maent yn derbyn plant yn ddeiliaid i'w heglwysi trwy fedydd, ac ar yr un gwynt yn dweyd nad yw bedydd yn ailenedigaeth. Ond y gwirionedd yw, y bobl y sydd yn credu yn Nghrist, yn edifarâu, ac yn cael eu bedyddio, yw ailenedigion y