Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ue îTÎDB. iddo dalu y gosb a dyoddef am ei annghrediniaeth. Y mae efe yn f\vy amddifad o reddf nâ'r llymarch (oyster), neu'r ceimwch (lobster) ; ni ddylid ei adael i'w arweiniad nâ'i amddifryniad ei bun ìíid gwiw goddef iddo ymdrin â'r neidr, y llew ieuanc, nâ'r gwenwynau llysieuol ac anifeiliol y mae'r byd yn llawn o honynt. Y mae cyfraitb natur mor arglwyddiaethol a chyffredinol ag ydyw cyfraith yr efengyl. Os dy- wed yr efengyl, " Yr bwn ni cbredo, a ddemnir,"—dywed cyfraitb natur- iol bodoldeb dyn, " Oni chred efe ' ei fam neu ei faethfam, rliaid iddo farwr " Ond nid yn unig yn y feitbrinfa mae dyn ieuanc i rodio wrth ffydd. Efe a â i'r gynysgol dan yr un gyf- raith feistrolaidd. Dodir yr egwydc- orlyfr yn ei law. Edrycha ar lyth- yrenau y wyddor; ond ni ŵyr eu nenwau nâ'u sŵn. Gall edrych ar- nynt am fil o ílyneddoedd, ac heb wybod nag enw na sain y llythyren gyntaf, eithr drwy ffydd yn ei athraw, efe a ddysg eu sain a'u enwau oll. Ar yr un egwyddor y dysg y gelf- yddyd ar dirgelwcb o ddarllen iaith ei fam. A yw efe yn ewyllysio dyaìl y gwyddonau rhifyddol a maintydd- ol ? Y mae efe yr un mor ddaros- tyngedig i rodio wrth ffydd, naill ai niewn tystiolaeth ysgrifedig, neu, ynte, egíuradau llefaredig yr atbraw. A yw efe yn dymuno dysgu iaith henafiaethol neu estronol ?—i ddef- nynu melysder a hyfrydwch o ffryd- iâu Groegaidd a Rhufeinaidd ? Yna rhaid iddo orpbwys ei ffydd ymddi- bynol ar ei ieithwyr, yn mhob dos- raniad o ferfau ac enwau. "Wedi myned o hono trwy y feith- rinfa wrth ffydd; wedi iddo fyned, hefyd, drwy yr îs a'r uwcb-ysgol dan gyfarwyddyd ac uwchafìaeth yr un gyfraith gyffredinol, a yw efe yn dymuno gwneyd ei le fel goruchwyl- iwr rhydd ar gnmpía symudol byw- yd ? A yw efe yn dyfod yn farsiand- wr, yn gelfyddydwr, neu yn amaeth- wr ? Y mae efe eto i rodio wrtb yr ! un reol, a cbael ei Iywodraethu gaö ' yr un angbenrheidrwydd penderfyn- i ol. Ehaid iddo gredu y rhai a aeth- j ant o'i flaen yn mhob galwedigaetb a swyddogaeth. Y mae ganddo i brynu a gwertbu —i gyfwerthu a chyfnewid—drwy ffydd mewn tyst- iolaeth ddynol. "\Vrth dderbyn swllt, penadur, eryr, banceb, dyl cyfnewid, neu dŷn-ysgrif, rhaid iddo weitbredu wrtb ffydd, mewn pertbynas idd eu cywirdeb a'u gwerth ar amser a Ue nodedig. Y rhai hyn oll ydynt yn ymddibynol ar dystiolaethau eraill. Gweithreda ar yr un egwyddor, ac ufyddâu i'r un gyfraith wrth dalu a derbyn tâl. Y mae hyd y nod y pwysau a'r mesurau, wrth y rhai y ! pryn ac y gwerth, bron yn gyffred- inol yn faterion o dystiolaeth a ffydd. Pa angben y sydd am ragor o dyst- ion ? Mewn bywyd cymdeithasol a naturiol, yn y feithrinfa a'r ys- gol, yn ngorchwylion ac olrheiniau gweithgar bywyd, y raae dynion yn gorfod, yn gyntaf, yn mhob achos, ac yn y rhan luosocaf o achosion, bob amser, rodio wrth ffydd. Y mae eu synwrau, eu bunain, eu sylwadau, a'u hymarferiadau, mewn amser yn eu barwain i gydweithredu â thyst- iolaeth a ffydd ; ond y rhai hyn a'u cychwynant ar y ffordd ac a barânt i fod eu prif arweinyddion drwy holl orchwylion mawrion bywyd ! Paham y rhaid bod yn wahanol mewn perthynas i bethau anweledig, ysbrydol, a thragywyddol ? Yma, yn wir, y mae yn rhaid i ni " rodio wrth ffydd, ac nid wrth olwg." Ond nid yw yn rhesymol i'r amheuwr a'r anffyddiwr wrthod yr efengyl, neu wadu'r Bibl, o herwydd ei bod yn cyfranu ei bendithion yn unig drwy ffydd. Y mae natur, cymdeithas, a'r efengyl yn cydbwyso arnynt y nodweddiad o'r un gwreiddiolder mawr. Os yw dyn, mewn pethau tymhorol, a phethau yn perthyn i'r bywyd hwn, yn rhodio wrth ffydd, paham y tybir yn annghredadwy bod Duw yû mynu iddo rodio wrth ffydd mewn pethau ysbrydol, a pbetbau