Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HYFFORDDWR. Cyf. III.] HYDREF, 1854. Rhif, 10. FF YDD. (PARAD O-R RHIFYN DIWEDDAF. GAN DYSGYBL. Ond n'id ydyw ardderchogrwydd natur ffydd, yn nghyda'i haddas- rwydd annesgrifiol a'i phwysigrwydd, i'w dysgu oddwrth adedrychiad ar ei gwastadedd eang a pharâus, dros amser, gofod, a thragywyddoldeb ; eithr drwy sylw manwl o'r lle mae yn ei ddàl yn y byd ac yn eglwys Dduw,— yn ngwasanaeth, cymeriad, a thynged presenol dyn. Sylwer, gan 'hyny fod gan holl gyneddfau dyn ddefhydd neillduol a phwysig yn bresenol mewn cyflawn ddadlen- iad o hono ei hun, yn ffurfiad y fath gymeriadau ag y dylai efe yn rhes- ym.ol ddymuno eu meddianu i dra- gwyddoldeb; ac yn ei gyfaddasiad i lenwi ei le yn y byd, yn ngyflawniad y swyddau ar dyledswyddau a wein- yddant les a dedwvddwch y byd. Y mae gan bob cyneddf a fedd dynei gwrthddrych priodol,a'i def- nydd priodol. A oes ganddo y gyneddf o ddrychiolaeth ? Y mae gwrthddrychau iddo i'w gweled, a mae ilesâd i'w enill o'u gweled. A fedd efe y gyneddf o gly wed ? Dyna iddo beroriaethau a chaniadau natur a lleisiau dynion i'w clywed a'u mwynâu. A oes ganddo y gyneddf ymresymiadol ? Dyna iddo dystiol- aeth dyn, a dyna dystiolaeth Duw i'w credu a'u cyfaddasu. Yn awr, gan mai hon yw y gyneddf ardderch- ocaf a fedd dyn—cynefin a phethau \ a aethant heibio, y pethau presenol, a'r pethau d>fodol, y mae Duw gwedi ordeinio iddo rodio wrthffydd yn gorfforol, meddyliol a moesol. Felly gorfydd i ddyn deithio trwy ei oes yn fwy wrth ffydd nag wrth ei bum synwyr, ei sylwadau personol, na'i ymarferion ei hun—yn debygol yn fwy nâ'r Ueill yn nghyd. Gan íbd hon yn ffaith hanfodol, cawn ychydig o boen i'w hegluro. Daw y plentyn i fywyd yn fwy di- gymhorth nag un anifail y mae gen- ym hanes am dano. Ni fedd reddf digonol i'r ymdrech anhebgorol i fywyd, iechyd, a chysur, Y mae efe mor amddifad o reswm, sylw, ac ym- arferiad, ag ydyw o reddf, idd ei ar- wain i ymgyrhaedd at yr hyn y sydd anhebgorol i'w fodoldeb anifeiliol. G-wnaeth Duw ef yn ymddibynol ar ofal, arweiniad, a chyngor ei fam, neu ei faeth-fam, yn ngham cyntaf ei bererindod. Rhaid iddo wrth flydd yn y nwyddau o ymborth a meddyginiaeth, a phob dyogelwch corffol. JNis gall rodio wrth rëswm, oblegyd nid yw efe eto yn feddianol arno. JS"is gall rodio wrth ei ymar- ferion ei hun, canys nid yw eto gwedi ymgyrhaedd atynt. Nis gall rodio wrth reddf, o herwydd ni chyn- ysgaethwyd ef â hi. Mae efe, o gan- lyniad, dan anghenraid diwrtheb i rodio wrth ffydd mewn perthyijas i ymborth, meddyginiaeth, gwenwyn, a phob perygl y Bydd o'i amgylch oddwrth dân, gorlif, a thymhestl. Oni chred efe dystiolaeth ereill y gwna cyfferi weliâu, gwenwyn kdd, y llysg tân, ac y bodda dwfr, rhaid