Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

102 W. EYAITS, &C Ioan a ddysgodd ddechreu fíbrdd yr Arglwydd i Apolos. Eto, dywed nad yw hyny yn profi mai bedydd Cristionogol oedd bedydd Ioan, mwy nâ phe buasai un o'r offeiriaid Iudd- ewig wedi ei ddysgu; oblegyd yr oeddynt hwythau yn dysgu ffordd yr Arglwydd hefyd. G-an fod Evans wedi addef hyua, mae yn rhaid iddo brofi mai yr un yw ffordd yr Ar- glwydd yn mhob oes, neu mai Crist- ionogaeth oedd gweinidogaeth Ioan; oherwydd dywedir am Apolos ei fod yn wr cadaru yn yr ysgrythyrau, yr hwn oedd wedi dechreu dysgu iddo ffordd yr Arglwydd, heb ddyall ond bedydd Ioan yn unig, ac iddo gael ei ddysgu yn fanylach yn y ffordd hóno gan Acwila a Phriscila. Ai cael ei ddysgu yn fanylach yn yr hyn yr oedd yn wr cadarn a gafodd Apolos, tybed, ynte yn yr hyn yr oedd wedi dechreu ei ddysgu gan loan ? Os ei ddysgu yn fanylach yn yr hyn y caf- odd ddechreu ei ddysgu gan Ioao, y canlyniad yw mai g^einidogaeth ef- engylaidd oedd gweinidogaeth Ioan. Gadawwyf y gweddill o'ch sylw- adau yn ddisylw, am y rheswin fod yr eiddof diweddaf at Meillionwr yn ddigon i chwithau hefyd. Cefn Mawr. Hugh Httghes. [Tybiwn y byddai yn ddymunol terfynu y ddadl rhwng Erans a Hughes yn y fan hon, gan fod digon wedi ei ddweyd ar y pwnc dadlugar hìvn. Heblaw hyny, mae'r darllenwyr yn dechreu anesmwytho, a dadluwyr ereîll eisieu eu lle.—Gol.] W. EVANS A MEILLIONWE, VERSTTS H. HUGHES, A DYSGYBL VERSUS Y TEI. Bydded wiw gan yr Syfforddwr anmhleidiol ddweyd gair yn nghlyw y triwyr H. Hughes, 'W. Evans, a Meillionwr. Chwenychu yr ydys yn y lle cyntaf eu hadgofio o gyfyng- dra terfynau yr Syfforddwr—rhy gyfyng i adael iddynt hwy " neidio yn ol ac yn mlaen" nemawr gyda Bedydd loan. Cychwynwyd y Mis- iadyr hwn i'r byd Henyddol ar hyd ffordd na sengid hi gan un Misiadyr Cymreig arall; neu yn hytrach, a chysonach ag ansawdd ei enw, gos- odwyd ef fel mynegbost i arwain teithwyr ar hyd ffordd na wnelai un myneg-bost arall yn Nghymru. Ond goddefed y cyfeillion uchod i mi ddweyd wrthynt eu bod, i raddau, gwedi llwyddo—efallai yn hollol ddi- fwriad—i gylchdroi y post i arwain teithwyr i rai o hen ffyrdd yr hen gyhoeddiadau. Na foed iddynt fy nghamsynied ; nid wyf yn golygu taw dibwys a diles ei drafod ydyw Bedydd loan ; eithr tybiaw yr wyf bod cryn swrn o heresiau damniol (goddefer yr ymadrodd, nis gallaf ei well ar hyn o bryd) yn y byd Crist- ionogol eisieu eu cynhyrfu, nes y delont yn ffieidd-dra ac yn ddrewdod yn ffroenau eu coleddwyr, fel y bo'r diwedd yn achosiad eu carthiad allan a'u hwtiad i dir annghof. O gau- lyniad yr wyf yn cymeryd fy hyfdra i erfyn ar Ŵ. Evans a H. Hughes i adael nailldu Eedydd Ioan yn awr— gadawer Ioan a'i Eedydd i Foses a'i oruchwyliaeth, yn ol W. Evans ; neu i Grist a'i oruchwyliaeth, yn ol H. Hughes—fel y caffer lle i'r pethau a nodwyd. Ond am Meillionwr, druan ag ef, y mae yn mhell iawn o'r naill a'r llall o'r goruchwyliaethau ; o leiaf, methwyf ganfod y daenell blentynol yn un o honynt; ac nid oes genyf lawer o wrthwynebiad i adael iddo ef ychydig ofod i ddangos pa le mae, ac i ba ddyben ei sefydl- wyd; neu, ynte, gadael terfynau i H. Hughes neu rywun arall ei ar- gyhoeddi nad yw i'w gael yn y Llyfr, ac o ganlyniad nid ydyw i ddim dyben. Dichon y cyhuddir fi o ymyraeth â materion rhai ereill, ac y gofynir i mi, "I ba beth y daethost diyma?" Ey ateb a gaiff fod eiriau Dafydd,— " Onid oes achos ?" Ond, er y cy- fan, Mr. Gol., gwn fod hyn yn brwydro yn erbyn un o egwyddorion sylfaenol eich Misiadyr, canys an- mhosibl i Eedydd Ioan ballu a bod yn mhlith y " pob peth " y sy gen- ych fel arwyddair. Dywedwyf ; pethau hyn hefyd, Mr, Gtol;, he