Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÁBEItTH DEOS BECHOD. 99 mae yn anrhydeddu cyfraith a chyf- iawnder, y mae yn cymodi Duw i faddeu; ac fel y mae yn arddangos cariad a thrugaredd gerbron y tros- eddwr, y mae yn ei gymodi yntau â'i Benadur, yr hwn y troseddodd yn ei erbyn. Yn y golygiad yma, yn ddiau, mae yu gymod. Y mae yn iawn i Dduw, ac yn heddychiad i bechadur. Digter Duw yn cael ei droi ymaith (nid nwydau terfysglyd, nid llid annghymodlawn) ond y syniad moesol hwnw o gyfiawnder a eilw arn gosb, oherwydd. troseddu cyfraith, yn cael ei faddeu ; casineb a dygasedd dyn tuag at Dduw yn cael ei ddarostwng, ei orthrechu, a'í ddystrywio yn a thrwy yr un aberth. Pel hyn, yn wir, y mae yn gymodfa gyda golwg ar bob plaid. Ond, a Üefàru yn y dullwedd ysgrythyrol, y mae aberth yn ei berthynas â Duw yn iawn, ac yn ei berthynas â dyu ŷn ddefnydd 'iieddwch. Y rhai hyn yw ei reswm a'i effeithiau, " Ac am hyny," medd Paul, " y mae efe yn Gyfryngwr cyfamod newydd, megis, drwy fod marwolaeth yn ymwared oddwrih y troseddau oedd dan y cyf- amod cyntaf, y cai y rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragywyddol." Drachefn, dengys yr un ysgrifenydd fod aberth Crist yn safon cymod—" Cymoder chwi â Duw. Canys yr hwn nid adnabu bechod a wnaeth efe yn bechod dros- om ni." Yn awr y mae " Duw yn cymodi y byd âg ef ei hun, heb gyf- rif iddynt eu pechodau." IX. Sylwwyd fod aberth yn ddy- huddiant yn ei berthynas â phechod, (expiation). Y gair puredigaeth neu lanâd a gyineradwywyd yn y cyfieithiad cyffredin, yn hytrach nâ dyhuddiant. Mewn un man, o leiaf, dylasai fod gair gwell, sef Num. xxxvii., " A'r tir ni lanêir oddwrth y 'gwaed a dywalltir arno, ond â gwaed "'ýí hwn â'i tywalltodd." Eto, os Dyàd neb yn dewis y gair pured- îgáeth yn hytrach nâ dyhuddiant, ^jôu glanâu, tra yr ydvm yn dyall eüat gilydd?y mae ynhawdd cydoddef. Y prif bwnc yw, fod aberth yn dileu pechod, yn iawnu tros bechod, ac yn ei dynu ymaith. " Y mae efe," medd Paul, "yn dileu pechod drwy ei aberthu ei hun." X. Gan hyny, y brynedigaeth, yr hon y sydd yn Nghrist Iesu, sy foesol, ac nid o ystyr fasnachol. Pe buasai pechod yn ddyleâ ac nid cam- wedd, gallesid ei faddeu heb iawn. Pe buasai pechod yn ddyled, ac ab- erth yn daliad o'r ddyled hòno, yna nis gallasai fod maddeuant gan Dduw o gwbl! Obiegyd os talwyd y ddy- led gan "Waredwr neu Biynwr dyn, cyfiawnder y sy'n galw am rydd'âd, nid maddeuant i'r dyledwr. Y mae rhai, modd bynag, o ddifiyg sylw i ddull ac ymadroddion Bibl- aidd, yn dangos fod marwolaeth Crist yn daliad o ddyled ddiderfyn, jo. hytrach nâ dilêad pechod, neu buredigaeth oddwrth euogrwydd ; ac fel hyn yn gwneyd maddeuant pech- od yn hollol annyalladwy, neu yn hyrrach yn anmhosibl. Teimla pawb, pan y mae trydydd person yn cy- meryd dyled, ac yn ei thalu, fod raid talu cyfanswm y ddyled, am nas gellir ei maddeu. Ond pan olygir pechod yn gainwedd, ac iawn yn cael ei roddi gan drydydd person, yna mae yn gwestiwn o radioni, pa un a genadêir maddeuant neu ollyng- dod i'r pechadur gan yr hwn y tros- eddwyd yn ei erbyn; oblegyd, hyd y nod ar ol gwneyd iawn neu ddy- huddiant, mae y troseddwr eto mor haeddianol o gosbedigaeth ac o'r blaen, yna mae lìe i gyfiawnder a thrugaredd ; oblegyd arddangosiad digofaint yn erbyn pechod, a madd- euant i bechadur, mewn cywir olyg- iad o bechod ac o iechawdwriaeth, a ganfyddir yn a thrwy yr Aiglwydd lesu G-rist. XI. G-waredigaeth oddwrth bech- od yw iechawdwriaeth, yn hytrach nâ dyhuddiant neuiawn drosto. Tel hyn dywedir fod Crist, " drwy ei waed ei hun, wedi cael i ni dragwy-