Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

112 CHWEDLAU YR AELWYD. wraig. Yn ddisymwth gufynai iddi, Pa fodd yr ydych yn gallu bod mor garedig ac ufydd i mi, a minhau y fath adyn creulon a dideim- lad atoch yn wastadol ? Atebodd y wraig ei bod hi yn gristion, a bod ei chref'ydd yn ei dysgu i ufuddâu iddo yu mhob peth. Nid ydyw y bywyd yma, meddai, ond byr. Yr ydwyf yn edrych yn mlaen i'r byd dyfodol am gysur a hyfrydwch ; ond y mae yn debygol na byddwch chwi ddim yn cyfranogi o'r dedwydd- wch hwnw, gyda mi, am hyny yr ydwyf yn teimlo arnaf fy hun ddyledswydd i beidio eich gofidio mewn un modd, ond gwneyd pob peth er eich cysur tra y byddom byw gyda'n gil- ydd yn y byd presenol. Aeth y geiriau hyn, fel saethau llymion i'w galon, nesy penderfyn- ocld newid ei fuchedd. Efe a enillwyd yn gristion cwbl oll. Gan hyny, yn gyson y dy- wedai yr apostol, " Beth a wyddost ti, wraig, na eniller dy wr."—Reuben. wedi MABW. Gwir yr hen benill hwnw, (er pa nror briodol bynag yw ei foledd,) Newydd marw glywaf yma, Newydd marw glywaf draw, &c. Yn mhlith y " newydd marw " beunyddiol hyn, y mae y newydd wedi dyfod fod Mr. B. Price, (Cymro Bach), wedi marw dydd Sul, y 25 o'r mis diweddaf, yn Miistol, yn 61 oed. Dyna'r newydd fydd gan ereill Am danom ninhau maes o law. CABWB GWYBODAETH AC ELLIS EVANS, CEFN MAWB. Mb Gol.,—Wrth droi tudalenau eich Mis- iadyr am tìs Ionawr diweddaf, gwclais ysgrif uu a eilw ei hun Carwr Gwybodaeth, yr hon a'm cynhyrfodd i ysgrifenu a ganlyn. Cyfeiria yr ysgrif at y Parchedig Ellis Evans, Cefn Mawr, yr hon a'i cyhudda o anngharedigrwydd a phechadurusrwydd am beidio ateb y gofyn- iadau cyfeiredig ato. Mae yr ysgrif hon, yn nghyda dystawrwydd Mr. Evans, wedi cyn- hyrfu meddvliau a theimladau amry w bersonau i waeddi allan, Pa beth y sydd wirionedd, a pha beth y sy gyfeiliornad ? Yn awr, chwi hen a thaer weddiwyr Cymru, deffrowch, a deuwch allan i faes yr Eyfforddwr i amddiffyn eich egwyddorion, mewn ysbryd diraçfarn, di- bartisel, efengylaidd, ac addfwyn, er mwyn gogoniant Rhoddwr pob rhodd ddaionus, ac er mwyn y rhai sydd yn ymofyn pa beth y sydd wirionedd. Adolygiad addfwyn, goleu, ac ysgrythyrol ar ysgrif Carwr Gwybodacth a rydd foddlonrwydd i lawer, heblaw Caewe Gwybodaeth, a chloffwr bhwng dau feddwl. GORAWYDD. Y mae awydd fel anadliad i ddyn ac anifail, a gorawydd fel dyn neu anifail yn tynu anadl ar ol rhedegfa galed; neu fel pont dros afon, yn llyncu yr holl lifeiriant. Y mae y byd hwn yn orraod o ddogn i awydd naturiol dynion, ond y mae yn rhy fach i draflwnc gorawydd un dyn ! Y mae fei y bedd, yr hwn na ddy- wed byth ddigon—ei syched parâus yw Moes, moes. Dyna ocdd tuymyn annigononol Alec- sander, yr hwn, yn mhoethder ei chlefyd, a ddywedai, " Yr wyf am gael môr y Baltic yn llithrle, y môr Caspiaidd yn faddon, y môr Dû yn gawg ymolchi, a'r North Paeific Ocean yn bysgodlyn. Yr wyf am gael Tartari yn dir porfa, Persia a Georgia yn winllan, Twrci yn ardd, Poland yn fferm, Ffinland a Lap- land yn dir hela, a Gogledd America yn alltudfa drwgweithredwyr." Dyna ddyn yn fwy ei lwnc nâ'r Lefiathan ! (íljîttâlmt qr %ẁbx$l Tatod dteithb.—Y mae'n wybodus, odid, i'r gwanaf ei ddeall o ddarllenwyr yr HytTorddwr ei bod yn arferiad gan rai ysimfenwyrlled Gym- reig o arferyd X yn lle C a H i wneyd CH j megis Axos, bax, xwenyx, xwex, &c, ani Achos, baoh. chwenych, chwech, &c. Felly, yn ol yr arferiad yna, danfonodd gweinidog parchedig lythyr aí frawd parchedig arall iddo yn y weinidogaeth. Wrth hagnu ei ddarllen, ni w.\ddai derbynydd y fath lythyr yn ei fyw beth i wneyd o hono, yn enwedig y geiriau hyny y rhoddid X ynddynt i gynrychioli CH. Fel hyn yr oedd ei gynwysiad yn hollol dywyll i feddwl y derbynydd, neu yr oeddmeddwl y der- bynydd yn hollol dywyll o gynwysiad y llythyr, er. ar yr un pryd, ei fod yn lled feddwl mai rhyw fath o Gymraeg, yn gymysgedig â Ffrangaear oedd y geiriau nad ydoedd X ynddynt. Modd bynag am bethau fel yna, yn niwedd y llythyr, yr oedd y geiriau a pranlyn:—" Iax y box. Yr eiddox, &c, J. Jones." Beth: meddai y darllenydd cywrain, "Jacs y bocs!" Be' mae'r dyn'n éi feddwl! Fu'r pocs yrioed arna'i! "Tr eiddocsl" Be'di meddwl hynvp Be' mae'rdyn yn anfon Ffrench ata' i P 'Dwy' i ddim yn dallt Ffreuch. A ydi'r dyn yn gwirioni ? Y fath wallbwyll gwallgof ydyw hiirtrwydd urddedig parchedig. aeth! A dyma un o ddallinebau yr hen " Dang- nefedd " o Lanidloes! Areb Cbtnwb. — Offeiriedyn unwaith a gwrddai & Chrynwr, pan y cymeroddyr vmddy- ddan canlynoí le rhyngynt: Ebai yróffeiriad ' Yr oedd fy mhlwyfolion pan gyntaf y díiethym i i'w plith yn haid o bobl mwyaf difoes ac anfòn- eddigaidd ag a ellid eu gweled yn un lle; nis gallent ymddyddan â mi heb fy enwi yn Ilawn yn ol fy enw a fy ngyfenw, &c.: eithr yn awr nid oes un o honynt a'm cyfarlyddant heb ymos- twng a chapio i mi; a phan y'm hanerchant, ni wnelant hyny un amser heb eu hetiau yn eu dwylaw, a dywedyd, Eich Pabchedigaeth, &c* Y Crynwr a'i hatebai, 'Felly, gyfaill, yr wyt wedi dysgu dy blwyfoUon i dy adáoli di, yn lle addoli Duw; i ymddarostwng i ti, ac nid i Dduw; ac i dy barchu di, yn hytrach napharchu Duw.' Haws amgyffred na desgriflo teimladau yr offeiriedyn, druan.—G.