Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EFRYDIAETH. lOS* ddychwelyd, yr hwn lyfr ydoedd ran o'r ys- grythyrau Iuddewig. 2, Cawn i'r Ysbryd ddweyd wrth Phylip, Dos a glyn wrth y eerbyd yma, a Phylip a redodd ato. Gwelwn oddwrth yr adnod hon fod Duw yn chwenych achub pawb; a gwelwn yma hefyd gyflawniad o eiriau Crist, am fyned all- an i'r prif-ffyrdd a'r caeau, a'u cymhell hwy i ddyfod i mewn, fel y Uanwer ei dŷ, Luc xiv. 43. Gw< lwn hefyd barodrwydd Phylip i uf- yddâu i orchymyn yr Ysbryd Glân. Felly y dylem ninhau wneuthur pob peth yn ol ei gyf- arwyddyd. 3, Y fan lle yr oedd yn darllen—proffwyd- oliaeth Esay — am ddyoddefiadau mawrion Crist. Fe ofynodd Phytip iddo a ydoedd efe yn dvall yr hyn ydoedd yn ei ddarllen, ac efe a ddywtdodd, Pa fodd y gallaf oddeithr i ryw un fy nghyfarwyddo i ? Ac efe a ddymunodd ar Phylip fyned i mewn i'r cerbyd, nc eistedd gydag ef; a gofynodd yr Ennuch iddo, Atol- wg i ti, am bwy mae'r proffwyd yn dywedyd hyn, am dano ei hun, ynte am rywun arall ? Y mae Phylip yn egluro y geiriauhyn iddo, ac a ddywedodd uiai am Grist y mae y proffwyd yn dywedyd, ac a bregethodd am ordinndan yr efengyl; ar ol hyny mae yr Eunuch am fod yn Gristion proffesedig; a phau ddaethant at ryw ddwfr, efe a ddywedodd, Wele ddwfr, beth y sydd yn lluddias fy medyddio ? 4, Y cymhwysderau yr oedd Phylip yn ei ofyn yn yr Enuuíîh: Os wyt ti yn credu â'th holl galon, fe ellir. Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn credu fod Iesu Grist yn Pab Duw. Dyma ý cymhwysderau oedd yr Apostolion yn ei ofyn yn y deiliaid; a dyma y cymhwys- derau a weddai i ninhau ofyn yn y dyddian presenol. 5, Y weithred. Nid oes modd i iaith osod allan yn eglurach fedydd drwy drochiad. A hwy a aethant i waered ill dau i'r dwfr, ac efe a'i bedyddiodd ef, Wedi hyny, hwy a ddaeth- ant i fyny o'r dwfr. 6, Y canlyniadau daionus 0 ufyddâu. Ac efe a aeth ar hyd ei ffordd ei hnn yn llawen, am ei fod wedi ufyddâu i ordinâd Crst. Y mae llawer o wahaniaeth rhwng deiliaid bedydd Crist, a deiliad bedydd y traddodiad; y naiìl yn llawen, a'r lleúl yn aflonydd ac yn flia arnynt. Hugh Evans. AT MPv. W. JONES, PORTHMADOG. Mr. Gol.—Ehag pwyso gormod ar eich parodrwydd chwi i ateb gofyniadau, dymun- wyf arnoch drosglwyddo a ganlyn i sylw Mr. W. Jones, Porthmadog :— Anwyl Syr,—Yr wyf yn dymnno cael eich sylw ar Rhuf. xi. 24. Yr hyn a garwyf y w cael eglurâd drwy yr Hyfforddwr ar y ddwy olewwydden—yr impiad yn erbyn nat- uriaeth mewn gwir olewwydden, a'r impio wrthnaturiaeth yn eu holewwydden eu hun? Yr eiddoch yn serchog, J. Etans. Atebiad.—Bu yr apostolion yn dra dUvyd a gwrol, yn gwrthbrofi haeriadau a dadluon anflyddwyr, a gau-ddysgawdwyr. Un o'r pethau a wrthwynebid gyda brwdfrydedd, gan yr Iuddewon, oedd derbyniad y cenedl- oedd i fwynâd 0 ragorfreintiau teymas Crist. Dyma yw prif-destyn Paul yn y bennod a nodwyd. Buasai gair un o'r dynion ysbryd- oledig yn ddigon 0 awdurdod: er hyny, defhyddia Paul, a'i gyd-lafurwyr, ysgryth- yrau a rhesymau er eglurâu a sefydlu eg- wyddorion, cyfreithiau, ac ordinadau teyrn- as Crist. Buasai llai o dywyllwch ac af- lwydd gyda chrefydd pe cadwesid at yr un rëol, yn lle derbyn geiriau a haeriadau dyn- ion anysbrydoledig, heb gymaint â rheswm, Uawer llai ysgrythyr, i'w cadarnâu. Dengys yr apostol fod y prophwydi gwedi rhagdystiolaethu y byddai calon galedwch, cyndynrwydd, a gwrthgiliad y genedl mor fâwr, fel y tynent arnynt eu hunain farn Duw, sef " yebryd trwmgwsg, llygaid heb weled, a chlustiau heb glywed," Nid gwrthod ei bobl a wnaeth Dnw ; eithr hwy, trwy annghredin- iaeth, a gauasant en hnnain allan 0 " deyrnas nefoedd." Yn yr ystyriaeth 0 hyn, cynghora yr apostol y cenedloedd crediniol i ofaîu na " byddent uchel-fryd, eithr ofni." Ei reswm dros eu cynghori felly yw, " Onid arbedodd Duw y caugenau naturiol, gwylia rhag nad ar- bedo diíhau chwaith." Rhyfedd fel yr amlyg- wyd daioni a thoster Duw, yn nghjfnewidiad- au ei oruchwyliaethau ef tuag at íuddewon a chenedJoedd. Ymddengys yr apostol fel yn aufoddlon i ollwng ei afael o'r genedl: " A hwythau," medd ef, "onid'arosant yn annghrediuiaeth, a impir i mewn. Canys fe all Duw ea himpio hwy i mewn drachefn." " Os ydynt hwy eto heb gredu, eto mae efe yn aros yn ffyddlon : nis gall efe wadu ei hun." Yn yr adnod dan sylw, cawn resymau yr apostol dros, nid yn unig y posiblrwydd, ond y sicrrwydd, y bydd i'r Iuddew gael ei impio i mewn drachefti. Dylyna yr apostol yr nn diill 0 lefaru asr yn yr adnodau blaenorol. Un peth a deilynga sylw yw, priodoldeb j% dullwedd 0 ddarlunio y cenedloedd fel olew- wydden wyllt, a'r Iuddewon fel gwir olew- wydden. Pa un bynag a yw gwyÜt a gwar, neu wir, yn ansoddol i'r olew-wydd ai peidio; eto mae yn brofadwy fod dwyn llysiau a choed- ydd, dan oruchwyliaeth cyllell a meithriniad y garddwr, yn eu cyfnewid yn hollol yn eu harddwch a'u ffrwythlondeb. Dygwyd had Abraham dan ornchwyliaeth diwylliant a meith- riniaeth ; rhoddwyd deddfau a gorchŷmynioa