Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

106 SIMONIAETH. gadawaf ar eu henwi, a chyflwynaf i sylw y Bedyddwyr, yn neillduol, dystiolaeth dau o'u gweinidogion ar dori hara, nid o ran nad oes genym ni ragor i ddweyd ar hyn, ond am y gwyddom bod yn hawddach ganddynt eu credu hwy nâ ni. Y cyntaf a alwaf yn mlaen i roddi ei farn ydyw y diweddar J. P. Davies, gynt o Dredegar: " Y mae gwahanol feddyl- ia pa mor fynych y dylid cymuno. Rhai ni chymunant ond unwaith mewn blwyddyn, ereill ddwywaith, ereill yn fisol, ereill yu Sab- bathol.* Pa un o honynt y dylid ddylyn o'r amrywiaethau hyn ? Rhoddaf fi fy marn yn hollol o blaid y rhai a gymunant yn Sabbathol, am fod y hara gosod yn rhagarwyddo Swper yr Arglwydd,ac yr oedd hwnw i gael ei adnewyddu bob Sabbath. Os yw yn dda gwneyd hyny bob blwyddyn, y mae yn well ei wneyd bob mis; ac yn ol y rheol yma, yn well nâ byny bob Sabbath. Felly y barnodd yr Apostolion y dylaseut hwy wneuthur. Yr oedd y dys- gyblion "yn parâu yn yr athrawiaeth, yn nghymdeithas yr Apostolion, ac yn tori bara." Gwelwn fod y dysgyblion cyntaf yn cymuno yu anüacht nâ phob Sabbath, fel y gellir tybied, pan y dywedir eu hod " beuuydd yn parâu yn gytûn yn y deml, ac yn tori bara o dy i dŷ." Y dydd cyntaf o'r wythnos y deuai y dysgyblion yn nghyd i dori bara : "Ac ar y dydd cyntaf o'r wythnos, wedi i'r dysgybliou ddyfod yn nghyd i dori bara," Act. ii. 42., a xx. 7» Gorphenwyd llyfr yr Actau yn y fl. 64; feìly, arferodd yr Apostolion dro3 33 o flynyddoedd. Dywed Justin Ferthyr, tua'r flwyddyn 140 o oed Crist, eu bod yn ym- gyfarfod bob dydd Sabbath, a'u bod olì yn ymuno mewn cymnndeb ar ddiwedd yr addol- iad. Ceir hanesion ereill i gymundeb gael ei barâu yn Sabbathol dros y 300ml. cyntafo oes Cristionogaeth. Y geiriau a arferai Paul a arwyddynt mai yn aml y dylid cymuno: "Cauys cynifer gwaith bynag y bwytâoch y y bara hwn, ac yr yfoch y cẃpan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo," 1 Cor. xi. 26. Yn ol y Saisaeg, " Mor fynych ag y gwneloch," ac nid mor an- fynych, &c." Gwel ei sylwadan yn y ddwy bregeth a gyhoeddwyd gan S. Davies, Llan- fyllin, tudal 14. * Enw neillduol ar ddydd cysegredig yr Iudd- ewon ydyw y Sabbath, am hyny anmhriodol ydyw ei ddefnyddio am ddydd neillduol y saint. Enw y dydd a gedwir gan y Cristionogion, yn ol term y Testament Newydd, vdyw y ' Dydd cyn- taf o'r wythnos,' neu ' Dydd yr Arglwydd.' Cof- iermai y dydd wedi y SabbafchJ yr adgyfododd Crist o'r bedd. Defnyddio termau y Bibl wrth enwau y Bibl a fydd yn foddion i symud llawer o ddyryswch. t Nis gallaf gydweled a sylwadau Mr. Davies bod y dysgyblion cyntaf yn tori bara yn amlach na pnob dydd cyntaf o'r wythnos. Cyfeiriad y syganLueat eu hymborth beunyddiol, fel yr ymddengys y rhan olaf o'r adnod a ddyfynwyd gan ein cyraill, 'a gymerasant eu Üuniaeth rnewn llawenydd a symledd çalon,' Àçt, ií, áŵ ' Y nesaf a ddygaf yn mlaen i roddi ei dyst- iolaeth yw y diweddar J. Jenkins, gynt o Hengoed, "Tebygol yw fod y Cristionogion yn yr oes Apostolaidd, ac ar ol hyny, yn ym- arfer Swper yr Arglwydd bob Sabbath, sef bob dydd cyntaf o'r wythnos, fel y gellir meddwl fod yr eglwys yn Troas; canys ni nodir yma bod y Sabbath hwn yn ddydd cymundeb, yn rhagor i ryw Sabbath arall; ond nodi fod y dysgyblion yno ar y dydd cyutaf o'r wythnos yn dyfod yu nghyd, nid yn unig i addoli, pregethu, a gwrando, ond hefyd i dori bara, ac i gyfrauogi o Swper yr Arglwydd, er coffadwriaeth am ei farwolaeth dros ei bobl ar fynydd Calfaria." Gwel ei Esbou. ar y Test. New. tudal 518. Yr ydym yn rhyfeddu ein bod o dan yr anghenrheidrwydd i ddefnyddio rhesymau, ysgrythyrau, a barnau gwahanol awdwyr, er cymhell neb y sydd yu caru Iesu Grist i wueuthur cof am ei farwolaeth yn wythnosol. Fedyddwyr Cymru, a'i gormod peth gen/ch weled Iesu yu cael ei ddryllio a thywallt ei waed, trwy yr ordiuâd bob wythos ? Os nadê, esgymmier yr arferiad Pabaidd o gymuno yn fisol i'r fan lle dechreuodd. Gocheler dylau- wad y swyn. III. JBywioliaethau. Nid yn unig y mae bywiolaethau perthynol i'r Archesgobion, Es- gobion, Diaconiaid, Personiaid, Yiceriaid, Rec- toriaid, a Churadiaid, &c, yn anysgrythyrol, ond hefyd y mae bywiolaethau perthynol i fugeiliaid sefydlog yr eglwysi ymneillduol yr un mor wrthysgrythyrol. Ceir yn hawdd gan y rhai olaf gondemuio y rhai blaenaf, o herwydd eu Iwings bras a gwrth-feiblaidd, heb ystyried bod yr un llygredd heintus yn gor- wedd mor agos atynt hwy ; hyddai mor re- symol dysgwyl iddynt addef hyuy, ag oedd i ofiaid Ephesus addef mai delw ddiwerth oedd y dduwies Diana, am y rheswm bod gobaith eu helw yn diflanu ; gofiaid arian ydynt wrth eu celfyddyd, a llefir o'r areithfa yn barâus— Mawr yw Cynal y Weinidogaeth! Ond os yw yn anhygoel yr argyhoeddir y Demetrus-. iaid, dymunwn agor llygaid yr eglwysi, beth bynag, i ganfod y swynyddiaeth o gynal un dyn sefydlog fel genau i lefaru trostynt, nes eu dwyn i ddefnyddio yr arian i'w dybeniou gwreiddiol. Yn awr, gosodaf i lawr rai o lawer o'r rhesymau sydd yn fy nhueddu i gredu hod y bugeiliaid neu arolygwyr yr eg- lwysi cyntefig yn gwasanaethu yn rhad. 1, Y cymhwysderau gofynol mewn arol- ygwyr. Rhaid i esgob, yu ol Paul, fod yu ddiariangar, 1 Tim. iii. 3, Tit. i. 7- Yn gyson â hyn yr anoga Pedr yr henuriaid oedd wedi eu gosod ar yr eglwysi oedd yn Pontns, Gala- tia, Capadocia, Asia, a Bythynia: " Porthwch braidd Duw, yr hwn y sydd yn eich plith, gan fwnv golwg arnynt: nid drwy gymhell, eithr yn ewylly8gar; nid er mwynbudr-elw, eithr o barodrwydd meŵclwl, A phan ymddangoso j