72 BEDYDD mai dyna yr achos iddo gyfansoddi geiriau gwahanol yn y fan yna, i roddi iddynt feddwl gwahanol i air Duw. Os cymer yr ysgrifen- ydd y drafferth i graffu yn fanylach ar lyfryn J. D. caiff weled yno eiriau gwahanol i'r geir- iau a ddyfynodd efe o hono, ac uad oes yn fy ngeiriau i yr un meddwl gwahauol i'r rhai hyny. Yn nesaf, y mae yr ysgrifenydd yn haeru fod J. D. wedi profi fod y dysgyhlion yn Eph- esus wedi eu hailfedyddio. Ond gan mai haer- iad yn aros ei brawf oddwrth Meillionwr yw hwn, gadewir ef yn sigledig fel y mae, iddo syrthio o hono ei hun, heb i mi drafferthu ei daflu i lawr. Nad bedydd efengylaidd mo fedydd Ioan yw y pwnc nesaf gaa Meillionwr. I brofi hyny, efe a ddyfyna, " Yu mhlith plant gwrag- edd, ni chododd neb mwy nag Ioau Fedydd- iwr; eithr y Ueiaf yn nheyrnas nefoedd y sy fwy nag ef." Nis gwn pa gadernyd iddo ef yw y geiriau yua. ^Wrth ei ddysgyblion y dywed- odd Crist hyn, oblegyd iddynt hwy y rhodd- wyd gwybod dirgelion teyrnas nefoedd ; eithr i'r rhai oddallan, ar ddamegion v gwneir pob peth. Oddwrth hyn fe welir fod dysgyblion Crist yn nheyrnas Crist ar y pryd. Dywed M. fod Ioan yn efelychu y proffwydi a íü o'i flaen, ond yn traragori arnynt oll—yn galw y genedl i edifeirwch, gan eu bedyddio â bed- ydd edifeirwch. Gwir fod Ioan Fedyddiwr yn efelychu y proffwydi fel proffwyd, ond a oedd efe yn eu efelychu wrth eu bedyddío â bedydd edifeirwch ? Os oedd, pa broffwyd, cyn Ioan, a fu yu bedyddio â bedydd edifeir- wch ? Rhaid ateb nad oedd efe, yn hyn, yn efelychu neb o'r proffwydi: hyn, gan hyny, oedd yn gwneuthnr Ioan yn fwy nag un pro- ffwydarall a fu o'i flaen ef. Yr oedd tfe yn dysgu y genedl i gredu mai Iesu oedd y Crist, Mab Duw, ac ar iddynt edifarâu a chymeryd eu bedyddio er maddeuant pechodau. Hyn ni wnaeth neb arall o'i flaen. Athrawiaeth bed- ydd Ioan yw athrawiaeth bedydd y Testament yn awr; gan hyny mae bedydd Ioan yn fedydd Cristionogol; yna mae yn canlyn mai priodol y dywed Marc mai "Dechreu efengyl Iesu Grist, Mab Duw," oedd gweiniaogaeth Ioan. " Bedydd proffwyd " oedd bedydd Ioan, medd M., ac nid bedydd Cristionogol. Gan fod Ioan yn broffwyd, nid yw y fath ddy. wediad yn ddim amgen nâ dywedyd mai "bed- ydd Ioan yw bedydd Ioan "! Nid ydyw dy- wedyd fod Ioan yn efelychu y proffwydi yn enill dim i'm gwrthwynebydd, oblegyd fe osododd Duw broffwydi yn ei egìwys, ac y mae yn debyg fod y rhai hyny yn efelychu Ioau, gan i mi ddweyd mai bedydd efengyl- aidd neu Gristionogol oedd bedydd Ioan, ac nad yw hyny yn boddio M., (er nad yw yn profi yn wahanol); yn awr, er mwyn sail i ymresymu, gofynaf yn y fan yma, Pa un ai perthyn i oruchwyliaeth Moses yr oedd bedydd Ioao, ai i oruchwyliaeth Crist? neu yntegor- IOAN. uchwyliaeth rhwng y ddwy oedd gweinidog- aeth Ioan ? Os yr olaf, pwy oedd Cyfryngwr hon ? Nis gwn i ond am ddau, sef Moses i'r oruchwyliaeth Iuddewig, a Christ i'r oruch- wyliaeth Gristionogol. Feallai na bydd M. yn foddlawn iawn i ateb yr holion hyn, rhag ofn mai ei ddiwedd fydd y ffos ; eto mae ete yn rhwym o ateb, neu ynte roddi bedydd Ioan i fyuy. "Nid afreoleidd-dra yn ngweiuyddiad eu bedydd gan Ioan," yw y " casgliad naturiol" y credwyf mai "bedydd efens:ylaidd oedd bed- ydd Ioan, a bod y dysgyblion (yn Ephesus) wedi eu hailfedyddio " o'i blegyd, sef yr af- reoleidd-dra. Camgasgliad tra annheg yw hyn. Pan oedd Ioan yn bedyddio, yr oedd yn bedyddio yu rheolaidd; yr oedd Duw gwedi ei ddanfon, a'i ddanfon i fedyddb, /elly yr oedd yn rhwym o fod yn rheolaidd, oblegyd Duw trefn yw Duw\ Yn awr, gan fod y rlîai hyn yn Ephesus wedi eu bedyddio i fedydd Ioan, aunhrefn oedd eu hailfedyddio hwy mwy nag ereill a fedyddiodd loan. Ond os oeddynt mor anwybodus a» y dywed J. D. eu bod, dy- wedaf yma eto nad rhyfedd iddyut gael eu hail- fedyddio, er i Ioan eu bedyddio. " Feallai," medd efe, " mai yma y cafwyd sail i'r arfer- iad anysgrythyrol o ailfedyddio tan oruchwyl- iaeth yr efengyl, yr hon y sydd eto yn para yn ein gwlad." Os trochi uu mewn oed, yr hwn a daeuellwyd yn faban a olyga yr ysgrif- enydd wrth ailfedyddio, rhaid dweyd ei fod yn camsynied, oblegyd os yw taenellu dwfr ar dalcen maban yn fedydd rheolaidd, nis gall trochi un mewn oed fod yn rheolaidd hefyd; o ganlyniad, nis gall trochi un y taenellwyd dwír arno fod yn ailfedyddio. Os gellir profi fod taenellu dwfr ar un yn fedyddio, taenellu dwfr drachefn ar yr un person yw ailfedyddio; ond i'm bryd i, a gair Duw, aildaenellu* yw peth fel yna. Atolwg, a welsoch chwi un wedi ei drochi unwaith yn rheolaidd gan y Bed- yddwyr, yn cael ei drochi drachefn ? Os do, dyua aiífedyddio. Chwi a welwch, Mr. Meill- ionwr, nid fel y dywedwch chwi, mai peth dyeithr i'r Mabandaenellwyr ydyw'r ailfedydd- io yma, ond mai peth dyeithr hefyd yw bedyddio; yna mae'n canlyn nas gellwch gredu mai un bedydd y sy tan oruchwyliaeth yr efengyl, fel Paul, ond mai un taenelliad y sydd. Gan yr addefwch, "Pe gellid casglu holl ddyfroedd y môr yn nghyd megis pentwr, a gwlychu dyn yn y pentwr hwnw, ni byddai gwedi hyny ond dyn mewu dillad gwlybion, ac nid dyn wedi ei ailfedyddio." Pa fodd yr ym- gysonwch wrth alw trochi un y taenellwyd arno yn " arferiad anysgrythyrol o calfed- yddio ?" Gogwyddiad teg yr addefiad yna o eiddo Meillionwr yw, gan mai "gwir yw y bedyddir nn yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Ys- * Aüdaenellwyd dyn yn ddiweddar gan offelr- iad yn Llanfair, ar ol ei daenellu yn raban gan un o weinidogion y Wesleyaid.