Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BEDYDD KU^. 69 gyhoeddi newydd da teyrnasiad Duw." Tr amser, meddai ef, a gyf- lawnwyd, teyrnasiad sydd yn agos- âu : diwygiwch, a chredweh y new- ydd da. * Cymhellai ein laciawdwr bawb i gredu fod ei deyrnasiad ef yn agosâu. Tn gyson â hyn y gwnai Ioan hefyd. Cofier mai nid eu cymhell i gredu ei bod wedi dyfod yr oeddynt, ond ei bod yn agosâu. Dynia fel y dywed Crist am Ioan, " Tn wir, yr wyf yn dy- wedyd wrthych, yn mhlith y rhai a aned o wragedd, ni chododd neb mwy nag Ioan y Trochiedydd ; eto y lleiaf yn nheyrnasiad y nefoedd y sy fwy nag ef." Amlwg ydyw, oddwrth yr adnod uchod, nad oedd Ioan yn nheyrnasiad y nefoedd: a pha fodd y gallasai fod ynddi, cyn ei sefydlu ? Ond am y lleiaf o ddysg- yblion Crist, medd Mr. Hughes, yr oedd yn fwy nag Ioan, " ar gyfrif i bob un gael ei alw yn bersonol gan G-rist, y Priodfab, ac wedi eu galluogi oll â gallu i wneuthur gwyrthiau." Dymunwn ofyn, yn y fan hon, mewn pa beth yr oedd Ioan yn rhagori ar y rhai oedd o'i flaen ef ? T mae y geiriau uchod o eiddo Crist yn rhoi ar ddyall fod y lleiaf yn nheyrnasiad y nefoedd yn rhagori ar Ioan yn yr un peth a'r peth yr oedd Ioan yn rhagori ar y lleill. T mae yn rhaid, gan hyny, fod gallu i wneuthur gwyrthiau allan o'r cwestiwn ; canys yr ydych wedi addef eich hun na wnaeth Ioan yr un wyrth. Eithr fe fu proffwydi o flaen Ioan, a gwedi eu danfon odd- wrth Dduw : yr oedd y rhai hyny yn gallu gwneuthur gwyrthiau; gan hyny, nid oedd Ioan yn fwy nâ hwy ar yr ystyriaeth yna: rhaid, gan hyny, mai ar gyfrif iddo gael yr ucheìfraint o ddyfod yn agosach i deyrnasiad y nefoedd nâ'r rhai a fu o'i flaen, yr oedd yn rhagori arnynt; ac yn yr un ystyr, neu yr un neth, yr oedd y lleiaf yn nheyrnasiad y nefoedd yn rhagori arno yntau; canys er ei fod ef yn agos, yr oedd- ynt hwy ynddi, êr iddyDt fod y liékf ynddi. " Tr hwn y sy leiaf y pryd hyny," medd Hughes, y sy fwy nag ef. T mae ei waith yn siarad fel yna fel pe na byddai teyrnas nefoedd mewn bod yn awr. Addefa Mr. Hughes fod y lleiaf o ddysgyblion Crist yn fwy nag ef; ac ar yr un pryd, dywed ei fod yn ddysgybl i Grist ei hunan; ond er hyny, mae yn methu canfod ei fod ef yn gyfartal ag Ioan. Ehyfyg, medd ef, yw meddwl y fath dwyll, Cofiwch a garilyn, hefyd, gyfaill, mai nid y rhai oedd yn feddianol ar ddoniau gwyrthiol yn unig, oedd yn fwy nag Joao, oherwydd yr oedd y rhai hyny ag oeddynt yn yr un cyf- nod ag Toan a Christ, yn gallu gwneuthur gwyrthiau,ac heb fod yn ddysgyblion i G-rist nag Ioan ; "ond yr hwn y sy lleiaf yn nheyrnasiad y nefoedd, y sy fwy nag ef," a ddy- wedir. A phaham nad ydyeh chwi- thau yn fwy nag ef, gan eich bod yn ddysgybl i G-rist, ac yn nheyrnas nefoedd. Cofiwch, gyfaiÛ, nad oedd, ac nad yw, bod yn feddianol ar ddoniau gwyrthiol yn anghenrheid- iol i fod yn fwy nag Ioan. Hwyrach y byddai yn well i mi ddyfod â phrofion ysgrythyrol i geisio dar- bwyllo fy nghyfaill nad oedd teyrn- asiad y nefoedd ddim wedi ei sef- ydlu yn ystod gweinidogaeth Ioan a Christ. Daeth dysgyblion yr Ar- glwydd Iesu ato un diwrnod, ac a ofynasant iddo, "Arglwydd, dysg i ni weddio megis y dysgodd Ioan i'w ddysgyblion. ' Pan weddioch,' medd- ai efe wrthynt, ' dywedwch fel hyn : Ein tad yr hwn wyt yn y nefoedd, santeiddier dy enw. Deîèd dy deyrnas,' " &c. Gwelwn, gan hyny, fod y weddi hon yn gydfynedol â gweinidogaeth Crist ac Ioan, pan y dysgai ein Arglwydd hwy i ofyn, " Deled dy deyrnas." Os haera fy nghyfaill eto fod y deyrnas wedi dyfod y pryd hyny, gofynaf finhau iddo i ba beth yr oeddynt yn gweddio am dani, os oedd gwedi dy- fod ? " Bydded dy ewyllys ár y ddaiar," &c. G-welwn yn amlwg