Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

80 CHWEDLAU TB AELWYD. ua â, neb na dira, os na bydd yn sectwr neu yn pertbyn i'w sect ef—yn canlyn gyda ni. Priodol y dywedodd Sierlyn, yn yr Éaul, ar y pen hwn :—" Sect yw y cwbl gan y sect- wr. Y maent wedi gwneuthur eùlyn o sect. Y mae ysbryd sectyddol, pan gaffo lywodraeth ar ddyn, yn ei lysgo o gym- deithas gyffredinol, ac yn ei lanw â hunan- oldeb, rhagfarn, dallbleidiaeth, a rhy w ben- boethni dyeithrol; ac y mae yn y fath gaethiwed, fel nad oes ganddo glustiau, ond clustiau sect; nà llygaid, ond llygaid sect; na thafod, ond tafod sect; na dwylaw, ond dwylaw sect; na thraed, ond traed sect." Pa ryfedd, gan hyny, fod caethwas sect, yn methu gwrandaw ar neb ond ar sect, gan mai clustiau sect y sy ganddo; na darllen llyfrau ond Uyfrau sect, gan mai llygaid sect y sy ganddo ; na llefaru dim ond petbau sect, gan mai tafod sect y sydd yn ei geg; na siglo llaw â neb ond â sectwr, gan mai dwylaw sect y sydd yn ei feddiant; na cherdded dim ond at sect, gan mai traed sect y sydd yn ei gynal! T fath yw lly- ffetheiriau sect!! SABELIAETH. Mk. Gol.,—Er mwyn i ddarllenwyr yr Hy- fforddwr wybod beth y w Sabeliaeth, dymun- wyf arnoch gyhoeddi yr hyn a ganlyn ar y pwynt hwD. Gadewir iddynt hwy benderfynu iachnsrwydd neu afiachusrwydd y ffydd Sabel- aidd wrth y safon Gristionogol. Sabeliaeth yw athrawiaeth a ddysgwyd gan Sabelius, yr hwn oedd yn byw tua chanol y drydedd ganrif; a'i ganlynwyr fel plaid gref- yddol, a alwwyd yn SabeÌiaid oddwrth eu syl- faenydd, os sylfaenydd hefyd. Y Sabel- iaid a ddysgent nad oes ond un Sylwedd ac un Person yn y Duwdod—nad ydyw yr enwau Tad, Mab, ac Ysbryd Glân, amgen enwau ar, ac yn dynodi yr un Sylwedd Anfeidrol. Sa- belius, er egluro cadernyd yr athrawiaeth hon, a ddefn) ddiai y gymhariaeth ganlynol:—Fel nad yw dyn, er yn gyfansoddedig o gorff ac enaid, ond un person ; felly Duw, er ei fod yn Dad, Mab, ac Ysbryd Glán, nid yw ond uu sylwedd. Y Sabeliaid a ddywedant i'r Duw- dod, yn yr Hen Deatament, draddodi y gyf- raith fel neu yn enw Tad; yn y Testament Newydd, iddo drigo yn mhlith dynion yn yr enw Mab ; ac iddo ddisgyn ar yr Apostolion yn yr enw Ysbryd Glân. Ai tybed fod yr ath- rawiaeth hon yn beryglus, i'w chredu a'i chof- leidio ? Yr oedd y diweddar Peter Williams yn ei hamddiffyn yn ei Esboniad o'r argraffiad % cyntaf; oud i'w fab, ar ol marw yr hen wr, ddileu hyny allan o hono. Cofleidir y rhan fwyaf o ddaliadau Sabelius gan y Swedenborg- iaid. Yr eiddoch, Epapheodttus. AT SYNTAX MÒN. Str,—Yr wyf, ar ran amryw o ddarllenwyr yr Éyfforddwr, yn anfon hyn o linellau at- och, i ofyn i chwi a ydych yn bwriadu dyfod yn mlaen eto i wrthwynebu eicb gwrthwynebydd Ymofynydd am y Gwir, ai nad ydych ? Os ydycn, Pa bryd ? Os nad ydycb, Paham ? Yr ydych, yn y ddadl rhyngoch â'r Ymofynydd, wedi ei gyhuddo ei fod ef wedi dyfod allan fel dadluydd yn rhy gynar i faes yr Syfforddwr; ond y mae eich enciliad chwi o faes y frwydr a maes yr Hyfforddwr, yn sibrwd mai chwychwi yw y dadluydd rhy gynar hwnw, a'ch bod yn argyhoeddedig o hyny. Gair oddwrthych ar y pen hwn a foddâa amryw, heblaw John Evans. GAN Y GWIRION CEIR Y GWIR. Nos Fercher, 26 o'r mis diweddaf yr oedd dar- lith i fod yn ysgoldy yr Ysgol Frydeinig yn Llanfair, gan Mr. Daniel Davies, Abertawe, a'r "Gaban F'Ewyrth Tom." Y tocynau yn sylltau a chwrchau am fyned i mewm Y noson a ddaeth a'r darlithydd beb ddyfod, a mawr oedd y dysgwyliad a'r pryder yn ei gylch—y dyn dall. Tna saith o'r gloch, wele yr un a ddanfonwyd i'w gyfarfod yn dyf'od â rhyw un yn y car. Dyma y dyn dall wedi d'od, meddai plantos y Llan, a ffwrdd â hwy yn haid i'w weled, gan lygadu tua'i ben ; ond er eu syndod yr oedd gan hwnw ddau lygad fel hwythau! 0, meddynt, nid y dyn dall mö hwn, ond dyn dall â dau lygad yn gweled. A phwy oedd hwnw ond Thomas Evans, Llanid- loes! Edward Jones. (íjlffiEÌilau ifr Mnrçìr. Feaetheb—Fel yr oedd Taenellwr tyn yn cyfarfod a Throchwr, gan dyned, meddai y Taen- ellwr: ' I beth yr ydych yn dwndro am eich bed- ydd, a deud mai trochi ydyw P ni waeth pa un ai taenellu ai trochi. Sign yw y naill a'r llall, ac ni waeth sipn fechan na sism fawr.' Bid siwr, meddai y Trochwr, ' ni waeth pa mor fechan y bo'r sign, ond cael y llythyrenau oll arni; ond osbydd yn rhy fechau i gynwysyllythyrenauoll, ibabethymae hi dda? í'elly oni bydd bedydd yu aliuog i ddangos y pethau mae yn arwydd o nonynt, nid yw yntau dda i ddim, mwy nâ sign heb yr holl lythyrenau arni.' Daenellwyr, sig n o beth yw bedydd ? ac a yw taenelliad yn alluog i'w ddangos P Aeeb Cetnwb—Fel yr oedd Iuddew a Chryn- wr unwaith yn dygwydd ymddyddan à'u gilydd, daeth rhyw goegddyn atynt, ac ebai ef, 'Wel dyma'r Hen Destament a'r Newydd wcdi d'od yn nghyd/ ' Ie/ ebai y Crynwr,' ac wele dithau yn ddalcn wag rhyngynt.' Dau eeswm peiodol— Paham y mae yr 'Hy- fforddwr yn son cymaint am fedydd, a'r Camp- beliaid yn pregethu cymaint o fêdydd, ebai un wrth arall. Dau reswm ebai y llall; am fod llyfrau ereill yn son mor ychydig am dano, ac amymynlodyn debycach i'r Testament New- ydd, yr hwn sydd yn son llawer am fedÿdd: ac ara fod y pregetnwyr ereill yn son lleied, a'r apostolion yn son llawer. Y cydymaith a aeth ynfud.