Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EFRYDIAETH. 77 Dywedyd yu erbyn Duw oedd trosedd Da- than ; a chan íod Stephan yn cael ei gyhuddo o'r un trosedd, mae yn agored i'r ua gosp— marw. Yr oedd hwn yn drosedd na ellid ei faddeu. Yr un peth hefyd oedd y cwyn yn erbyn ein Hiachawdwr ger bron yr archoffeiriad. Y peth a drodd yn farwol iddo yn ei brawf, oedd gwaith yr archoffe'riad yn hysbysuy llys ddar- fod iddo gablu. " A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddy wedaist: eithr meddaf i chwi, Ar ol hyn y gwelwch Fab y dyn yn eistedd ar dde- heulaw y Gallu, ac yn dyfod ar gymylau y nef. Yna y rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad, gan ddy wedyd, Efe a gablodd: " (dyna bob peth ar ben; ni chawsai Iesu fyw i gael ei groeshoelio prydnawn y dydd hwnw oni buasai fod yn rhaid ei brofi mewn llys arall;) " pa raid i ni mwy wrth dystion ? wele, yr awrhon y clywsoch ei gabledd ef. Betb debygwch chwi? Hwythau, gan ateb, a ddywedasant, Y mae efe yn euog o farwolaeth." (Math. xxvi. 64-66.) Yn ol eu cyfraith hwy, efe a ddylasai farw (pe cywir y cyhuddgwyn); canys yr oedd wedi cablu, sef wedi siarad yn ddirmygus am Ddnw, wrth ddweyd y gwelent Fab y dyn ar ol hyny yn eistedd ar ei ddeheulaw; ac yr oedd hyn yn bechod na fedreut hwy, nâ'u .cyf- raith, ar un tir ei faddeu. Dyma bechod yn erbyn yr Ysbryd Glân, neu gabledd anfaddeuadwy; ac nid oedd nac archoffeiriad, nac eiriolaeth, nac aberth, a fedrai gyfryngu ar ran y troseddwr. Ym- ddengys i ni fod yn rhaid i'r Iuddewon gredu, na allai troseddwr, yn yr ystyr a'r graddau hyn, gael maddeuant dan unrhyw amgylchiad- au; canys nid oedd modd iddynt amgyffred am faddeuant yn groes i ddedfryd eu cyfraith. Nid oedd modd bendithiü yr hyu felldithiai hi. Fe synodd Paul iddo gael trugaredd, ac yntan wedi bod yn gablwr, er mai cablwr dynion a fu efe; canys fe fuasai vm gradd pellach yn yr euogrwydd, a chyfeiriad arall i'r anwiredd, a chablu Duw, yn penderfynu 'ei dynged gan ei gyfraith ei hun. Fe darawodd ef blentyn Duw, ac a gafodd faddeuant, a mawr oedd ei syndod; canys fe fuasai amcanu taraw Duw ei hun, yn ei farn ef, yn dyfod i fyny i rywbeth na elÜd ei faddeu. Os at y syniad uchod y cyfeiria Iesu yn y rhesymiad dan sylw, rhaid fod y rhesymiad hwnw yn dyfod yn nerthol iawn at gydwybod- *Q y Phariseaid; canys yr oedd yn rhaid iddynt weled trwyddo, eu bod hwy eu hunain yn euog o'r trosedd yr arswydeut gymaint rhagddo. Yr oedd priodoli gweithredoedd mawrion a galluog Duw, y. rhai a gyflawnai Iesu trwy Ysbryd Duw, i ddiafol, prif elyn Duw, yn ddir- wyg o'r mwyaf arno, ac yn bechod yn erbyn ei Yshryd—yn radd o anwiredd na fedrai y Phariseaid ei oddef yn neb ond ynddynt eu hunain. Dyma hwy eu hunain, yn ol rhesym- iád lesu, yn sylfaenedig ar eu tybiau eu hun, yn dyfod yn euog o'r pechod anfaddeuadwy. Yr oedd Crist yn bwrw allau gythreuliaid trwy Ysbryd, bys, neu allu Duw, ac am hyny yr oedd dweyd mai trwy Beelzebub y gwnai hyny yn gabledd ar Dduw, canys yr oeùd yn gwneud ei deyrnas ef yn deyrnas Satan. Canlyniad rhesymiad ein Harglwydd â'r Phariseaid oedd, eu gwneud yn euog o hyn; ac nis gallent, trwy unrhyw ddichell, ochelyd y cyfryw ganlyniad, a hyny oblegid a ganlyn : —Yr oedd yn eu plith hwy ereill heblaw Iesu yn bwrw allan gythreuliaid ; o leiaf, yn pro- ffesu gwneud hyny, ac yn cael eu cydnabod fel pe buasent yn gwneud yr hyn a gymerent arnynt, ac y mae hyn yr un peth mewn dadl â phe buasai y dyb a'r broffes yn gywir; ac yn awr, os mynent hwy mai trwy benaeth y cythreuliaid yr oedd ef yn gwneud ei waith, fe fynai yntau, o'r tu arall, mai trwy yr un gallu yr oeddynt hwythau yn ei wneud : ond os mynent hwy mai trwy allu Duw yr oeddynt hwy yn gweithio, fe fynai ef mai trwy yr nu galìu yr oedd yntan yn gweithio. Ni fu erioed ddim yn decach na hyn,—Mab Duw yn ymos- twng i gael ei brofi wrth yr un safon—ei gon- demnio, neu ei gyfiawnhau, ar yr un tir â phawb eraill ag oeddynt yn gwneud yr un gwaith ag ef. Yn awr, dyna ei gyhuddwyr at eu dewisiad ; nn ai cydnabod fod eu dysgyblion hwy yn bwrw allan gythreuliaid trwy Beelze- bub, neu gydnabod fod íesu yn eu bwrw allan trwy Dduw ; canys mae efe yn hawlio sefyll ar yr un tir a hwythau (ac yn wir uid oedd hyny yn ormod o fraint iddo). Nis gallent wneud y cyntaf o'r pethau hyn, canys buasent íèlly yn troi yn farnwyr ar eu plant, trwy ddwyn y fath gyhuddiad erchyll yn eu herbyn; rhaid iddynt, o ganlyuiad ddewis yr olaf, ac felly mae en plant yn troi yn farnwyr arnynt hwy yn eu cyhuddiad yn erbyn Iesu; canys os trwy Dduw yr oeddynt hwy yn bwrw allan gythreuliaid, trwy Dduw yr oedd yntau yn gwneud hyny. Felly, mae efe wrth resymu â hwy ar eu tir eu hunain, yn eu gwneud yn euog o bechod yn erbyn yr Ysbryd Glân, ac nid yẃefe wrth wneud hyuy yn priodoli dim iddynt hwy na phriodolent hwy i bob un a ddygai yn erbyn eu plant hwy yr un cyhudd- iad ag a ddygent hwy yn ei erbyn ef. Pech • od yn erbyn yr Ysbryd Glân oedd dweyd yn erbyn ei waith trwy Iesu Grist, a'i briodoli i Satan. Tywys hyn ni at ran arall o'r pwnc a eilw am ychydig sylw, sef y gosodiad fod pechod yn erbyn Mab y dyn yn faddeuadwy. Y peth sydd yn gwneud hyn yn afrwydd yw, mai yr un cyhuddiad yw y pechod yn erbyn Mab y dyn, yr hwn sy faddeuadwy, a'r pechod, yn erbyn yr Ysbryd Glân yr hwa syddanfaddeuadwy. Yr oedd dweyd maitrwy Beelzebub y bwriai allan gythreuliaid, yn bechod yn erbyn Mab y dyn, yn gystal ag yn erbyn yr Ysbryd Glân. Os ydym yn gol- ygu Iesu Grist yn berson dwyfol fel yr Ys- bryd Glân, ^a fodd y gall pechod yn e: erbyn.