Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EFRYDIAETH. dysid teyrnas nefoedd oddiarnyut, cauys dy- wedasant y dylasai y llafurwyr gael colli y win- llan a'u dyfetha, y rhai, wedi eu gosod yn y wiullau, a wrtùodasant roddi ei ffrwyth i'w harglwydd ; ond yn lle hyny, a labyddiasant ei weision, ac a laddasant ei fab. Yr oedd Crist yn dangos iddynt beth oedd yn eu haros yn ol eu gosodiad eu hunain. Mae genym enghraifft o'r un dull o res}Tnn yn nghysyîlt- iad y geirian dan sylw : " Ac os trwy Beelze- bub yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy mae eich plant chwi yn eu bwrw allau ? " Mae yn debycach nad oedd plant, neu ddysgyblion y Phariseaid, yn bwrw allan gythreuliaid nâ'u bod yn gwneud hyny: mae amldra cythreuliaid yn y wlad Ile yr oedd cy- niíer o Phariseaid, hanes meibion Scefa, a phethau ereill, feddyliem ni, yn tystio hyn. Yr oedd y Phariseaid a'u dysgyblion lawer te- bycach o ddyfod â chythraul i mewn, nag oeddynt i fwrw un allan. Gwnaethant lawer proselyt yn fab diafol. Ond ni pherthyn i ni yn awr i brofi nad oedd y plant y cyfeirir atynt yn bwrw allan gythreuliaid, mwy na phi'Oíi eu bod; oblegid digon i ni yw, fod y Phariseaid yn credu, neu, o leiaf, yn proffesu eu bod; ac am hyny, mae Crist " yn cymeryd yn ganiatäol er mwyn rhesymu," fod yr hyn a broffesent yn gywir ; oblegid cywrir neu beidio, nid oedd dim yn decach iddynt hwy, nac yn dangos mwy o haeledd o'i du ef, na'u profi wrth eu safon eu hunain, a chymeryd eu proffes yn sylfaen y rhesymiad yn eu herbyn. Yn awr, mae yn ymddangos fod yr un eg- wyddor yn gymhwysiadol at yr hyn sydd gen- ym mewn llaw, sef pechu yn erbyn yr Ysbryd Glân ; ac mai nid hysbysu peth newydd mae Crist wrth ddweyd fod pechod felly yn anfadd- euadwy, ond coffâu yn eu clyw beth a wyddent ac a gredent o'r blaen, ac yna eu barnu hwythau yn ngoleuni y wybodaeth a'r gred hono. Cabl- edd yw llefaru am Dduw, neu Ysbryd Duw, gydag anmharch a dirmyg, gan briodoli iddo betbau nad ydynt yn perthyn iddo, neu gym- eryd oddiwrtho bethausyddyn perthyn iddo—• y rhai na pherthynant i neb arall. Nid oedd yr Iuddewon yn meddwl fod pechod felly yn faddeuadwy, nac y gallai yr hwn a geid yn euog o hono ddianc rhag barn ; ac, yn wir, yr oedd yn hollol naturiol iddynt synied feíly ; canys, yn gyntaf, yr oeddent wedi gweled a chlywed am lawer o becbaduriaid felly wedi eu cymeryd ymaith dan farnau Duw. Un o'r cyfryw oedd Pharao, yr hwn, yn ei anystyr- iaeth a'i falchder, a ddywedai yn ffromllyd, " Pwy yw yr Argíwydd.fel y gwrandawwn i ar ei iais, i ollwng Israel ymaith ? yr Arglwydd nid adwaen, ac Israel ni ollyngaf." Ddim yn adnabod yr Arglwydd, ac yna, o ganlyniad, ddim yn gofalu am ei ddigio; fel pe buasai 'ei annghof o Dduw yn tori pob cysylîtiad ag ef. Mae yn ddirmyg ar ddynion, i ddweyd nad ydym yn eu hadnabod, nac yn gofalu am dan- ynt, yn neillduol os bydd enwogrwydd cy- hoeddus yn perthyn iddynt, a hyny hefyd yc dal cysylltiad â ni. Ond dyma Pharao yn taflu y dirmyg hwnw ar Dduw, gan haeru nad oedd yn ei adnabod yn nghanol ei arwyddion a'i ryfeddodau. Ond fe roddir taw ar yr iaith gableddus hon cyn hir iawn; ac fel na allo Pharao ddweyd mwyach nad oedd yn adnabod yr Arglwydd, efe a ddengys ei fys iddo, ac fe rwymir Pharao idd ei adnabod. Felly y bu hi: fe ddaeth Jehofa yn ddigon amlwg i'r go- lwg, ac ni feiddiodd Pharao byth wedi hyny ddywedyd, " Yr Arglwydd nid adwaen." Pe gymerwyd y pechadur rhyfygus ymiith mewn baru, ac ni chafodd y cablwr faddeuaut. Teb- yg i hyn y bu gyda Cora, Dathan, ac Abiram, y rhai a agorasaut eu geueuau i duchan yn er- byn yr Arglwydd : agorodd y ddaear, hithau, ei genau yn eu herbyn hwythau, gau eu Uyncu i ufferu yu fyw ; ac felly torwyd y troseddwyr hyn o dir y rhai byw, inewu barn ofnadwy yn cyfateb i'w trosedd. Pechod rhyfygus, neu gabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân, oedd gwaith Belsassar yn cymeryd llestri gwasanaeth Duw Israel i'w defnyddio mewn gwledd a gynelid i'w ddirmygu ef, ac i anrhydeddu rhyw dduw arall. Ond yn ngwyneb cynygion fel hyn i droi Duw ymaith, yr oedd efe yn gyffredin yn amddiffyn ei ogoniant, ac yn dangos ei hun. Daeth ef i ystafell y wledd ar ol ei lestri, ac a gododd ei enw yn yr amgylchiad a fwriadwyd i'w warthruddo. Mae y pechadur mawr yn cael ei gymeryd ymaith mewn cosp a barn. Nid yw yr uchodion ond ychydig o lawer o amgylchiadau yn tueddu i ddysgu yr Iuddew- on i dybied nad oedd maddeuant i bechadur- iaid rhyfygus, neu gablwyr yn erbyn yr Ys- bryd Glân. Ond yr oeddynt hwy yn tybied nad oedd i gablwr faddeuant, oblegid rheswm arall, cryf- ach nâ'r un blaenorol, sef fod eu cyfraith yn ei gospi â marwolaeth. Nid oedd aberth dros ei bechod ef, na thrugaredd mewn un dull yn cyfryngu rhyngddo â marwolaeth. " A llefar- odd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Dwg y cablydd i'r tü allan i'r gwersyll; a rhodded pawb a'i clywsant ef eu dwylaw ar ei ben ef, a llabyddied yr holl gynulleidfa ef. A llefara wrth feibion Israd, gan ddywedyd, Pwy bynag a gablo ei Dduwf, a ddwg ei bechod. Ä lladder yn farw yr hwn a felldithio enw yr Arglwydd; yr holl gynulleidfa gan labyddio a'i llabyddiant ef: lladder yn gystal y dyeithr, a'r priodor, pan gablo efe enw yr Arglwydd." Lef. xxiv, 13—16. Yn ol y ddeddf hon, nid oedd dim ond marw yn aros yr hwn a gablai enw yr Arglwydd. Yr oedd ei bechod ef yn bechod i farwolaeth, ac ni faddeuid iddo. Y cyhuddiad yn erbyn Stephan, oedd ei fod wedi dweyd geiriau cableddus yn erbya Moses a Duw, y Ue santaidd a'r gyfraith. Dyna ddigon am ei fywyd; ac os oes tystion yn barod i brofi y cyhuddiad, ni all ei wyneb angel ei waredu rhag cosp y gyfraith, sef llabyddio â cheryg hyd farw.