BEDTDD IOAN. 73 bryd Glân, ac {mai) anmhosibl ei ailfedyddio," yna anmhostbl yw fod y dysgyblion yn Ephes- us wedi eu hailfedyddio, gan eu bod wedi eu bedyddio yn rheolaidd i fedydd loan eisoes. Beclydd edifeirwch, er maddeuant pechodau oedd y naill a'r Uall, felly an- mhosibl, yn ol Meillionwr, oedd eu hailfedydd- io ! Nid yw taenelJiad na'r uaill na'r llall o'r pethau Iiyn, felly mae'r amgylchiad yn effeithio mwy yn ei erbyn nag o'i du. Y canlyniad yw nad oes gan y Maban-daenellwyr fedydd o fath yn y byd1 Gwawdeb arnaf yw ymresymiad nesaf M., am i mi ddywedyd mai " dechreu efengyl lesu Grist," oedd gweinidogaeth Ioan. Gwnaeth- ym hyny am fodgairDuw yn ei ddweyd. "Ha wyr frodyr," meddai Mr. M., "yn ngwyneb hyn, y mae yn rhydd i mi ddywedyd wrthych mai dechreu efengyl lesu ydyw dechreu eí'eng- ylpob nn o'r pedwar Efengylwr," &c. Siarad gwallgofddyn yw peth fel yua ! Iê, bid sicr, "dechren efengyl" Iesn Grist, ydyw "dechreu efengyl" pob un o'r pedwar ef'eugylwr. A fedrweh chwi wneyd dechreu efengyl gan un yn ddiwedd efengyl gau y llall, &c. ? " Buasai mor briodol," medd ef, "i mi ddweyd fod Sacharias a'i swydd yn ddechreu goruchwyl- iaeth yr efengyl, ag ydyw i brofi fod Ioan a'i swydd felly." Pe dy wedasai gair Duw fel yna, buasai yn rhaid i mi gredu, Mr. M.; ond gan na ddywedir, ac nad oedd Sacharias a'i swydd yn ddechreu goruchwyliaeth yr efengyl—a ehan fod gweinidogaeth Ioan yn cael ei nodi yn ddechreu efengyl Iesu Grist, rhaid an- nghredu Meillionwr, a chredu yr Efengylwr. ¥n ngwyneb hyn, hurt oedd " iddo hyderu na ddysgwyliwn i iddo dderbyn fy rhithddeongl- iad i yn lle gair Duw." Buasai yn fwy priod- ol i mi fabwysiadu y geiriau, a gofyn hyny iddo ef'. Gwybydded, a chofied nad oedd Sacharias wedi ei ddanfon gan Dduw i'w swydd, ac nad oedd ei swyddogaeth yn newydd i'r byd, oud am Ioan, gwr wedi ei ddanfou gan Dduw ydoedd ef, i roddi gwybodaeth iechawdwriaeth i'w bobl, drwy faddeuant o'u pechodau; a dyma y fendith gyntaf mewn cysylltiad â Christionogaeth. Odid y gwelir yn awr mai nid am fod y geiriau yn ddechreuad i draith- awd yr Efengylwr Marc, y dywedir, " Dechreu efengyl Iesu Grist, Fab Duw," fel y breudd- wydia Meillionwr; ond am fod gweinidogaeth Ioan yn ddechreu efengyi Iesu Grist—d/na pa'm y mae efe yn trafod Toan a'i weinidog aeth, gan alw hyny yn "Ddechreu efengyl lesu Grist, Fab Duw," &c. Yn ganlynol, gofyna fy ngwrthwynebydd i mi beth oedd yr achos i mi adael allan enw lesu Grist pan yn dyfynu hanes bedyddiad y tair mil. Nid yn f wriadoly gwnaethym i hyn, oblegyd yr wyf, os sylwwch yn mhellach ar Fedydd Ioan, yr wyí yn ei arferyd. Dyben bedydd pedd genyf mewn golwg, h.y., mai bedydd edifeirwch, er maddeuant pechodau, oedd bedydd Ioan, a bedydd felly oedd bedydd y tair mil ar ddydd y Pentecost. Gwell genyf i enw Iesu Grist fod i fewn, na'i fod allan. Nid oeddwn wedi bwriadu i neb feddwl ddim yn amgen, nad oedd pob un o'r ddau yn cael eu gweinyddu yn enw yr Arglwydd Iesu. Baruwyf nad cymaint anghenrheidrwydd i nodi hyn, oblegyd y mae pob sect ynbedyddio a thaenellu yn enw Iesu Grist, tra na eheir ond ychydig a wnant hyn er maddeuaut pechodau ! Beth yw yr achos o'r amryfusedd hwn, MeilJionwr? Heí'yd, sut y ewyddoch chwi y buasai yn haws gan Pedr adael allan fedydd, na gadael allan enw Ie3u Grist ? Dys- gwyliwyf arnoch brofi yr hòniad hwn eto, neu ei alw yn ol. Na, pe gadawsai Fedr allan fed- ydd, gadawsai enw lesu Grist al!an hef'yd, oblegyd y mae y ddau yn gysylltedig â'u gil- ydd; oherwydd drwy gymeryd eu bedyddio er maddeuaut pechodau, yr oeddynt yn cy- meryd ei enw arnynt—yn gwisgo am danynt yr Arglwydd lesu Grist. ẁbyn hyn fe wel y darllenydd mai anfwriadol oedd gadael yr enw Iesu Grist ailan mewn geiriau, ond ei fod yn dyfod i fewn yn y bedydd mewn gweithred. Gan hyny nid amryfuseud oedd ei adael allan yn y geiriau a ddyfyna Meillionwr. Yn fyr, pe gadawsai Pedr allan fedydd, gadawsai allan drefn Duw o gymodi y byd âg ef ei hun; ond gwyddai Pedr yn dda nad oedd neb yn gadw- edig ond yn Nghrist; ac nad oedd neb yn Nghrist heb eu bedyddio i Grist. Dywedai wrth ei frodyr, at j rhai yr ysgrifenai, mai yr hyn y sydd yr awrhon yn ein achub ninhau yw bedydd. Gan hyny, pe gadawsai fedydd allan, gadawsai drefn achub allan; a phe gad- awsai drefn achub, nis gallasai fod yn was i Grist: a dywed Crist ar ei wir nas gall neb fyned i fewn i deyrnas Dduw, heb ei eni o ddwfr ac o'r Ysbryd. Felly mae yn 'rhaid i Meillionwr gael yr un peth, cyn y gall yntau íyned i fewn iddi, er mor dduwiol byhag y gaü efe dybied ei hun. Dywed ei fod wedi ymarfer â'r meddwl nad oes teilyngdod digonol yn holl ufydd-dod dynoliaeth er haeddu maddeuant gan Dduw, na chwaith ei fod yn effeithiol er argymhell y Bôd santaidd i gyfranu maddeuant i bechadur- iaid euog. "Heb ollwng gwaed nid oes maddeuant." Efe a gred hefyd fod yr oll a nodwyd o'r neilldu yn y Datguddiad am drefa Duw o'i ras yn maddau i bechaduriaid. Pe dywedasai fod y Datguddiad o ras Duw, yn dysgu na chedwir yr un pechadur heb ufyddâu i'r efengyl, dywedasai y gwir; canys dywed hwnw na ddyfetbir neb ond y sawl nad ad- waenant Dduw, ac nad ufyddânt i efengyl ei Fab ef. Ond gyda golwg ar haeddiant, feallai i'r ysgrifenydd fwriadu yn y fan yma gael lle ilechu: eithr yn mha le y cafodd sail i gasglu fy mod i yn dadlu haeddiant dyn ? Ai dadlu hyn yw dadlu fod gan Dduw drefn i faddeu i bechadur ? Ai dyma y dull a ymaiter efe i ddirmygu doethineb Duw yn nhrefn iechawd- wriaeth dyn! Cofier mai gras yn Nuw oedd