YR HYFFORDDWR. Cyf I. CHWEFRAWR, 1852. Rhif 2. SYLWADAIJ AB T WEINIDOGAETH. GAÎí E. MIALL, TSWAIST. _____4____ ( Cyfìeithedig or " British Cliurches." ) Afreidiol fyddai atal y darllenydd, drwy osod gerbron ddyfyniadau, naill ai o'r Efengylau neu o'r Epistolau, i brofi fod trefniadau Crist tuag at adferiad ysbrydol y byd, yn cydnabod yn eglur awdurdod Hywyddol yn ei eglwysi. " Can- fyddwn ewyllys y Meistr raawr, yn aneglur, efallai, yn ei eiriau ei hun, ond yn egluraeh yn llythyrau ysbrydoledig ei apostolion, y byddai crynôad o allu llywyddol, ac ym- ostyngiad priodol yn y gwahanol aelodau iddo. A hyn, bron, yw yr oll a ganfyddwn. Pan eisteddom i lawr i fyfyrio y Testament Newydd, gydag amcan i sicrâu pa beth a ddysga ar bwnc y weinidogaeth, fe'n synir braidd yn wir, wrthgael mor ychydig, a'r ychydig hwnw yn cael ei arwain i fewn mor ddamweiniol. Pan edrychir ar yr archadeilad eang a thyrog a gyfodwyd gan oesau dylynol, a'r pwysiíjrwydd dirfawr a gysylltir â goruchwyliaeth Glerygaidd, (CÍerièalA \ y mae yn bwnc o syndod, yn sicr, fod y sylfaen ysgrythyr^! ar ba un y tybir fod y gyfundraith yn ymorphwỳs, mor hynod o eul. Mae tybiau diweddar o barth yr hyn a alwwn y swydd gysegrediy, a'r gwahanol ddyledswyddau a'r cyfrif- oldeb a berthynant iddi, yn cael eu hunain yn unig, i raddau mawr, pan yn crwydro dros dir ysbrvdoliaeth. Pe byddai yn bosibl düêu o'n meddyliau yr holl syniadau a gaŵsant "fynedfa yno, o ffynonau na hònir fod yn gysegredig gan nemawr, a rhai o ba rai na orweddant uwchlaw tiriogaeth nwydau llygredig; a chymeryd ein dylanwadu gan yr ych- ydig awgrymau a gofnodir i ni yn ngair Duw, y canlyniad sicr fyddai, mai ychydig iawn, yn wir, a geid yn ymdebvgu yn y gradd lleiaf, i'n syniadau presenol. Mae y meddyl- ddrychau tra syml a ddadguddir yn yr ysgrythyr ar y pen yma, yn cael eu llindagu a'u cuddio yn y nifer fwyaf o'r