Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ben Thomas (1933-1992) Deuthum i adnabod Ben Thomas gyntaf yn niwedd y pumdegau pan oedd yn Swyddog gyda'r Llu Awyr yn Sain Tathan. Cofiaf ddau beth yn arbennig o'r cyfnod hwnnw-manteisio ar ei aml gymwynas ym myd ffotograffiaeth (Ben oedd â gofal y Gymdeithas Ffotograffiaeth yno) a chael benthyg ganddo gopi o Storîau'r Tir Glas, dwy weithred a oedd megis yn rhagarwydd o un o brif nodweddion ei fywyd-ei ymroddiad deuol i dechnoleg a'r Gymraeg. Yn frodor o Lanllwni yn Nyfed, bu'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Llandysul cyn graddio mewn ffiseg ym Mhrifysgol Birmingham. Wedi cwblhau ei gyfnod yn y Llu Awyr dychwelodd i'r byd academaidd i ymchwilio ar gyfer ei Ph.D. ym Mhrifysgol Hull ac yn fuan wedyn cafodd ei benodi'n ddarlithydd yn Adran Ffiseg Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru-`Coleg Technoleg Uwchradd Cymru' y pryd hynny. Bu ganddo o'r cychwyn cyntaf ddiddordeb cyffred- inol yn y cysylltiad rhwng meddygaeth a ffiseg. Erbyn dechrau'r saithdegau, fodd bynnag, daeth yn amlwg mai laserau lled-ddargludol fyddai ei ddewis-bwnc; daeth yn gryn arbenigwr yn y maes a threfnodd nifer o gynadleddau cydwladol i drafod y pwnc yng Nghaerdydd. Yn hyn oll llwyddodd i gyfuno teyrn- garwch i'w filltir sgwâr Gymraeg â boddhad hollol broffesiynol yn ei astudiaethau. Un o'i brif hoffterau yn hyn o beth oedd cael teithio'r byd yn enw gwydd- oniaeth. Pan ymwelodd â Rwsia rai blynyddoedd yn ôl gofalodd fynd â chopïau o Y Gwyddonydd i'w dos- barthu yno. Gwelwyd deuoliaeth gyffelyb yn ei bersonoliaeth ei hunan a gyfunai allblygedd ac addfwynder i raddau anarferol. Cyfaddefai'n aml nad hoff ganddo osod ei feddyl- iau ar bapur-roedd yn gyndyn iawn i gyfrannu hyd yn oed at Y Gwyddonydd. Dewisach ganddo bob amser oedd y gair llafar a gellid dibynnu'n llwyr ar ei gefnogaeth ymarferol i'r gweithgareddau Cymraeg hynny y credai ynddynt. Bu'n gefn i'r Gymdeithas Wyddonol­·yn lleol ac yn genedlaethol-ac fel y gwyr mynychwyr y Babell Gwyddoniaeth a Thech- noleg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ni fu ei ffyddlonach yno. Bu bob amser yn gefnogol i unrhyw symudiad o blaid Cymreigio'r Coleg ac am gyfnod bu'n un o'i gynrychiolwyr ar y Bwrdd Gwybodau Celtaidd. Yn gefn ac yn gymorth iddo yn hyn oll oedd ei deulu­Joan ei wraig a'r plant Susan a Huw. A phan fu farw, yn frawychus o sydyn ym mis Gorffennaf 1992, eu dymuniad hwy oedd gweld sefydlu, er cof amdano, ymddiriedolaeth ac iddi'r amcan triphlyg o hyrwyddo gweithgareddau gwyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg ymhlith pobl ifainc. Anodd meddwl am ddull mwy addas o goffáu un na chollodd ar hyd ei oes, yn rhyfedd iawn, yr un mymryn o'i gred sylfaenol ym mhosibiliadau di-ben-draw gwyddoniaeth. R.E.H. Derbynnir unrhyw roddion ('YmddiriedolaetH Ben Thomas') gan Richard Hall Williams, 1 West Orchard Crescent, Llandâf, Caerdydc CF5 1AR.