gwyddoniaeth a diwydiant, gwelodd y gallai'r Gym- deithas Frenhinol chwarae rhan bwysig ym mywyd y genedl. Dywedwyd nad oedd Davy yn un o'r llywyddion mwyaf dedwydd erioed ond, fodd bynnag yr oedd yn un effeithiol. Ymysg yr archwiliadau cemegol a ddilynodd oedd y cysylltiad rhwng trydan a magnet- rwydd (a ysgogwyd gan ddarganfyddiad Oersted ym 1819); gallu dargludol metelau; gwyriad yr arc car- bon gan fagnet; ataliad cyrydiad llongau â gwaelod- ion copr a'i arweiniodd i ddyfeisio gwarchod catodig. Ym 1826 dechreuodd iechyd Davy fethu ac effeithiwyd arno'n fawr gan farwolaeth ei fam. Dioddefodd strôc a pharlysu rhannol. Ar gyngor ei feddyg aeth i'r Eidal gyda'i frawd John. Ym mis Mehefin 1827 ymddiswyddodd o'r Gymdeithas Frenhinol. Dychwelodd i Loegr i aros gyda'i gyfaill Tom Poole a, chan fod ei salwch yn ei gyfyngu, ysgrifennodd Salmonia, llyfr yn ymdrin â physgota, a fu'n ddiddordeb iddo ers ei febyd. Ar 29 Mawrth 1828 aeth Davy i'r Cyfandir eto ac ni ddychwelodd fyth i Loegr. Cyn gadael cyflwynodd y papur 'Ynglŷn â ffenomena Llosgjynyddoedd' i'r Gymdeithas Frenhinol. Fe'i darllenwyd ar 20 Mawrth. Cafodd ei bapur olaf i'r Gymdeithas ei draethu ar 20 Tachwedd yr un flwyddyn 'Cojhod rhai arbrofion â'r Torpedo Tra bu'n teithio gyda'i wraig a'i fab-bedydd James Tokin, ysgrifennodd Cysur mewn Teithio neu Ddyddiau Olaf Athronydd, sef cyfres o sgyrsiau Y Llanc o Lan Conwy (John Williams 1801-59), gan Carey Jones; 1990, ISBN 0 7074 0198 4. Pris £ 3.00, i'w gael gan yr awdur (49 Court Road, Wrecsam) Cymharol brin yw'r cofiannau Cymraeg i wyddonwyr a naturiaethwyr o Gymry. Un o'r 'proffwydi llai' yn hyn o beth oedd John Williams, Llanrwst-yn feddyg, yn natur- iaethwr, awdur y llawlyfr naturiaethegol teirieithog Faunula Grustensis ac yn bennaf oll efallai, yn gryn arloeswr yn y grefft o gyflwyno gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg; deuir o hyd i'w erthyglau Cymraeg (dan y ffugenw 'Cor- vinius') yn nhudalennau Y Protestant, Y Gwladgarwr, a'r Gwyliedydd rhwng 1832 a 1840. Mae Carey Jones wedi dadlennu cryn bentwr o ddeunydd newydd am y cymeriad diddorol hwn a fu yn ei dro yn gweithio yng Ngerddi Kew, yn derbyn hyfforddiant meddygol yn Nulyn, yn Llundain ac yn Sant Andrew (yr Aiban), ac yn chwilio am gyfoeth ym meysydd aur Califfomia. Ceir yma grynodeb gwerthfawr a darllenadwy o'r amryfal weddau hyn ar fywyd John Williams. Dyma lyfr sy'n ychwanegiad diddorol at y deunydd darllen sydd ar gael am wyddonwyr o Gymry. R.E.H. Planhigion yr Wyddfa, gan H. S. Pardoe a B. A. Thomas; cyfieithiad Cymraeg gan Mary Jones; Amgueddfa Gened- laethol Cymru, 1992, ISBN 0 7200 0366 0. Pris: £ 3.25. Drueni bod teitl y llyfryn bach deniadol hwn mor gam- arweiniol. Yr hyn a geir yma yw hanes palaeo-ecoleg ardal dychmygol â llefydd a wnaeth argraff ddofn arn Nj orffennodd y gwaith ac fe'i cyhoeddwyd ar ôl e far- wolaeth. Ar 28 Mai 1829, cyrhaeddodd Genefa Yn gynnar y bore canlynol ar ôl i'w wraig ddweud rtho am farwolaeth Thomas Young, bu yntau farw a fe'i claddwyd ym mynwent Plain-Palais yn Genefa, Diweddglo Yr oedd Syr Humphry Davy yn un o wyddonwyr mwyaf rhyfeddol ei oes ac yr oedd yr un mor alluog yn y celfyddydau ag yr oedd yn y gwyddorau. Cyfunodd fynegiant Uenyddol coeth â darganfydd- iadau gwyddonol gwych. Gallai ddarganfod elfen alcali newydd neu ysgrifennu rhagymadrodd i gomedi i'w pherfformio ar y llwyfan yn Llundain. Yr oedd ei gyfeillion yn cynnwys gwyddonwyr, llenorion a beirdd, ac bu'n ymwelydd aml â thai uchelwyr megis Dug Bedford, Arglwydd Sheffield a'r Arglwydd Byron. Ond ni chollodd ei wreiddiau gwylaidd ac er ei fod ar brydiau'n falch ac anghymedrol gallai gyfaddef ei feiau ac edifarhau. Efallai nad oedd ganddo onest- rwydd moesol Faraday ond, oni bai am Davy, efallai na fyddem wedi clywed am Faraday erioed. (Gellir darllen traethawd cyflawn SyrJohn Meurig Thomas a chael rhestr o'r cyjeiriadau yn Advanced Materials, 3 (1991) RhiJ12, 582-9. Gwelirhejydadolygiady Golygydd lyfr Syr John Meurig Thomas, Michael Faraday and the Royal Institution, Y Gwyddonydd, 29/3.) Y Silff Lyfrau Eryri oddi ar adeg y cyfnodau rhewlifol. Disgrifir yn gymen ac yn gryno sut y mae'r gwahanol gymunedau planhigol wedi ymateb i'r newidiadau hinsoddol a daearegol ac i ymyrraeth ddynol. Cynhwysir hefyd ddisgrifiad gwerthfawr o brif arf yr ymchwiliwr-dadansoddi peilliau. Ni ellir ond canmol diwyg ac iaith y fersiwn Cymraeg. Drueni na welai'r awduron eu ffordd yn glir i addasu rhywfaint ar y llyfrydd- iaeth fel ag i gynnwys cyfeiriadau at erthyglau perthnasol o'r Gwyddonydd-mae digonedd ohonynt yno. RE.H. Physical Basis of the Direction of Time, gan H. D. Zeh; Springer- Verlag, Berlin 1992; tt.x + 188. ISBN 3 540 54884 X. Pris: DM 68. Gellir diffinio achlysur yn ôl y lle a'r adeg y mae'n digw; dd. Mewn egwyddor, gallwn fynd o unrhyw le i le arall a àc yn ôl, ond ni fedrwn symud o adeg i adeg a dychwelyd i'r eg cyntaf. Mae amser yn cynyddu yn barhaol, ac aw; yn barhaol i'r dyfodol, ond ni allwn fynd i'r gorffennol. H> -ny yw, mae gan amser gyfeiriad a sonnir yn aml am;>a amser (tìme's arrow). Diben y llyfr hwn yw trafod -aw agweddau ar y ffenomonen yma mewn amryw o fey ffisegol, megis pelydriad, thermodynameg, damcaniae .• cwantwm a chosmoleg. Gyda chynfas mor eang, ni ellir trafod y cwbl o gyn; *7 y llyfr ond dyma enghreifftiau o'r pynciau mwyaf dide -i Wrth drafod y cysylltiad, ar raddfa gosmolegol, rJ .lOg