Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

laith Gwyddoniaeth Nid gwyddonydd mo Williams, er iddo arfaethu gyrfa fel meddyg, ond roedd ganddo ddiddordeb mawr yn narganfyddiadau a dyfaliadau ei ddydd. Fe sonnir am Copernicus, Newton, Huygens a Leeuwenhoek yn Golwg ar Deyrnas Crist, ac am y ddau gyntaf ym Marwnad Lewis Lewis, 1764. Drwy brif boblog- eiddwyr y cyfnod y daw ei wybodaeth: fe gyfeirir yn uniongyrchol at William Derham a William Whiston, ac fe welir eraill yng ngweddillion ei lyfrgell (Astronomy John Keill, argraffiad 1760; Nature Dis- played, 1739; The New Complete Dictionary of Arts and Sciences, 1788). Y mae'r enwau eisoes yn awgrymu'r ddau faes sydd yn ei hudo: byd y telesgop a byd y microsgop. Hanfod gwyddoniaeth yr ail ganrif ar bymtheg oedd y ffaith bod y naill a'r llall wedi caniatáu amgyffrediad newydd o'r byd materol, mawr a mân, pell ac agos, a'r wybodaeth wedi ei seilio nid yn unig, nac efallai'n ben- naf, ar ddyfaliad ond yn hytrach ar ffeithiau canfydd- adwy. Ail-law oedd profiad Williams o'r byd gwyddonol, ond dyna natur y darganfyddiadau newydd. Nid gwybodaeth gudd mewn iaith anneall- adwy i'r cyhoedd oedd gwyddoniaeth bellach, ond rhywbeth y gallai'r darllenydd cyffredin ddod i'r afael ag ef. Chwilfrydedd ac awyddfryd addysgiadol sy'n ysgogi diddordeb Pantycelyn yn y lle cyntaf, ynghyd wrth gwrs â'r awydd i arddangos gynllunio dyfeisgar y Crëwr, ond fe ddylid hefyd gyfeirio at boblogrwydd barddoniaeth ddidactig yn gyffredinol yn y ddeunaw- fed ganrif (meddylier, er enghraifft, am yr Almaenwr, Daniel Wilhelm Triller, yn ysgrifennu cerdd o ddau gant a deugain pennill ar epiliad Ilyffaint). Fe geir mwy nag un cyfeiriad gan Williams at oleuo'r 'dar- llenydd anwybodus'; pan fo'r Cymro uniaith, meddir, 'yn clywaid son am y Geiriau, Philosophy, y Mathem- atics, Geography a'r cyfryw, prin y tybia nad Geiriau o Ddewiniaeth ydynt' (y Rhagymadrodd i Pan- theologia, 1762). Y mae'r nodiadau helaeth i'r epig Golwg ar Deyrnas Crist, gan mwyaf ar 'system newydd astronomi', yn amlwg yn cynrychioli'r bwriad pedagogig; ond o'u cysylltu â chorff y gerdd maent ar yr un pryd yn awgrymu tensiwn nodwedd- iadol o'r cyfnod. 'A thyma'r System mae y rhan fwyaf o'r byd dysgedig yn ei astudio ac yn ei gredu, a nifer hefyd o Ddifinyddion heb eu rhifo yn ei addef fel gwirionedd; pa un ai bod yn wir Duw a wyr, nis gwn i, ac nid yw yn perthyn gymaint at ein iechydwriaeth.' (G £ C,31). Beth, felly, yw statws y wybodaeth wyddonol newydd? A ellir cysoni gosodiadau wedi eu seilio ar arsylwad, sef darganfyddiadau gwyddoniaeth, a gwirioneddau wedi eu cyflwyno drwy ddatguddiad? Yn nhermau Golwg ar Deyrnas Crist, a yw'r system ddiwinyddol hollgynhaliol yn gaUu amgyffred yr Pantycelyn ac GLYN TEGAI HUGHES esboniad Newtonaidd o natur y bydysawd? A yw iaith gwyddoniaeth yn addas i drafod y gwirioneddau mawr? Nid yw Williams yn amau dilysrwydd y fethodoleg wyddonol: 'Dealled y darllenydd an- wybodus', dyna fo eto, 'fod Philosophyddion a gwyr dysgedig o oes i oes, trwy chwilio mwy i ddyfnderoedd rheswm, trwy hir ddal sylw manwl ar droadau'r sêr a'r planedau, ac yn enwedig trwy gymorth y sbien- ddrychau mawrion diweddar trwy'r pethau hyn, meddaf, wedi dyfod i adnabod mwy o gwrs Uu'r ffur- fafen, sef yr haul, y lleuad, a'r sêr nag oeddid yn yr amser gynt' (GDC, 30). Fe â mor bell mewn un man (GDC, 46) ag awgrymu y gall y ddwy ffynhonnell wirionedd fod yn gywerth: o gymryd bod y planedau yn 'fydoedd trigiannol, lleoedd wedi eu cymhwyso at gyfanheddu, ac wedi eu llenwi gan ryw greaduriaid addas', fe ychwanega, 'Ond pa fath greaduriaid ydynt, hyn sydd anhawstra nas gellir ei ddehongli heb ddatguddiad oddi uchod, neu ryw sbienddrychau nas gallwyd eto eu cyrraedd'. Yna, ym Marwnad Howel Davies, fe gymysgir ieithwedd gwyddoniaeth a ieithwedd crefydd: Mewn gogoniant mae yn rhodio. Ar balmentydd pur y nef, Megis haul yn ei ecliptic, Myrdd o angylion gydag ef: Trwy 'spienddrych ffydd oleudeg 'Rwy'n ei wel'd yn eglur iawn Ac fe gawn rywbeth tebyg yn y darlun rhyfeddol hwn: Duw! help fy enaid egwan i ddringo fry i'r lan, a rho 'sbienddrych mawr I weld fy Iesu'n gosod seilfaenau'r byd i lawr. (GDC, 29) Yn rhestr annibynadwy Trefeca o lyfrau Williams fe nodir un gyfrol fel Languages, Seedplot of 1 638; y cyfeiriad cywir yw Jan Amos Komensky (sef y Morafiad, Comenius) Janua linguarum reservata: or, a seed plot ofall languages, y pedwerydd argraffiad. Gwerslyfr darllen Lladin a Saesneg oedd hwn a bu'n hynod boblogaidd a dylanwadol dros gyfnod hir o amser. Nid oes a wnelom yma â syniadau diweddar- ach Comenius ar addysg na'i ymgais unoliadol i ffur- fio gwahanol systemau cyffredinol ac i olrhain iaith gyffredinol, ond roedd dwy elfen gwbl newydd yn y llyfr cynnar hwn. Y gyntaf oedd dysgu drwy ddisgrifiad systematig o'r byd naturiol, gan ddechrau gyda'r bydysawd, y ddaear a'i chreaduriaid, a symud ymlaen i drafod dyn, ei wneuthuriad corfforol, ei fywyd teuluol a chyhoeddus, ei arferion, ei grefydd a'i dynged. A'r ail elfen yn y dull ymddiddanol hwn o ddysgu iaith oedd y pwyslais yn y Saesneg ar iaith ddefnyddiadwy, ar yr ymarferol, agwedd a apeliodd