Elhuyar: Cymdeithas Wyddonol Gwlad y Basg Fy nghyd-weithiwr, Dr Mike Ireland, a ddat- blygodd gysylltiad rhwng Adran Gwyddorau Biolegol, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Phrifysgol Gwlad y Basg, a hynny o ganlyniad i'w ddiddordeb yn yr elfennau metelaidd sy'n llygru afonydd megis y Rheidol a'u hymgroniad mewn meinweoedd anifeiliaid. Wrth gyfnewid ymweliadau daeth eraill ohonom o'r adran i adnabod rhai o wyddonwyr Bilbao a San Sebas- tian ac o sgwrsio â hwy fe ddaeth yn amlwg mai Basgeg (Euskara) oedd eu prif iaith. Roedd un ohonynt hyd yn oed wedi cyflwyno ei draethawd ymchwil yn yr iaith honno. Iaith ydyw sy'n gwbl wahanol i Sbaeneg a Ffrangeg a cheir cryn drafod parthed ei gwreiddiau. Ond beth bynnag yw ei tharddiad mae Euskara yn iaith fyw ac yn tyfu'n gyflym yn ei dylanwad. Ar wahân i iaith leiafrifol, canfyddwyd o holi ymhellach fod ffactorau cyffredin eraill rhwng gwyddoniaeth yng Nghymru ac yng Ngwlad y Basg. Roedd y Basgiaid hwythau wedi sefydlu cymdeithas wyddonol oedd yn ymdrin â phynciau gwyddonol trwy gyfrwng Euskara. Ffurfiwyd y grwp ELHUYAR KULTUR ELKARTEA yn 1972 pan ddechreuodd nifer o fyfyrwyr o'r Ysgol Beirianneg ynghyd â pheirian- wyr graddedig gynnal cyfarfodydd yn y Circulo San Ignacio yn San Sebastian. Eu bwriad oedd addasu'r Fasgeg ar gyfer ei defnyddio mewn meysydd gwyddonol. Mae hwn yn dipyn o gyd- ddigwyddiad o gofio i'r Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol yng Nghymru gael ei sefydlu yn yr un flwyddyn. Ond yng Nghymru roedd yna drad- dodiad o ysgrifennu am wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Gwyddonydd wedi'i gyhoeddi o 1963 ymlaen. Ond erbyn hyn mae'n ymddangos bod Gwlad y Basg ymhell ar y blaen. Cyhoeddiad cyntaf y gym- deithas wyddonol oedd gwerslyfr Ffiseg ar gyfer disgyblion y baccaulaureate. Sefydlwyd hefyd Brifysgol Haf Fasgeg sef yr Udako Euskal Uniber- sitatea. Erbyn 1974 roeddynt yn barod i gyhoeddi Elhuyar, cylchgrawn a fu'n gyfrwng i ehangu'r did- dordeb yn yr holl feysydd gwyddonol. Datblygodd criw o beirianwyr i fod yn gymdeithas o wyddon- wyr gydag un amcan canolog sef astudio pob agwedd o wyddoniaeth drwy gyfrwng y Fasgeg! IOLO ap GWYNN Bellach mae'r gymdeithas yn cyhoeddi dau gylchgrawn yn rheolaidd. Mae Elhuyar y cylchgrawn gwreiddiol, yn cyhoeddi arolygon o feysydd gwyddonol a chanlyniadau ymchwil. Ceir ynddo hefyd grynodeb Saesneg o bob erthygl! Mae nifer o'r erthyglau yn debyg i'r rhai a gyhoed- dir yn Y Gwyddonydd ond mae rhai papurau a gyflwynir ynddo yn llawer mwy arbenigol. Anelir y cylchgrawn arall Elhuyar-Zientzie Eta Teknika at gynulleidfa ehangach. Fe'i cynhyrchir mewn lliw ac mae'n cynnwys nifer o hysbysebion. Ei amcan yw ehangu gwybodaeth am wyddoniaeth a thechnoleg yn gyffredinol. Er bod poblogaeth Gwlad y Basg yn gymharol debyg i boblogaeth Cymru mae cylchrediad misol y cylchgrawn hwn dros 1600. Hawdd yw deall ei apêl; mae'n lliwgar, yn llawn lluniau ac mae delwedd gyfoes iddo. A oes lle i'r fath gyhoeddiad yng Nghymru? Ond mae grwp ELHUYAR yn gwneud llawer mwy na chyhoeddi dau gylchgrawn. Maent eisoes wedi cyhoeddi 74 o werslyfrau gwyddonol yn yr iaith Fasgeg ac mae eu safon yn amrywio o fod yn addas ar gyfer ysgolion cynradd hyd at gyrsiau prifysgol. A dengys catalog helaeth mae dim ond rhan fechan o'u cynnyrch yw hynny. Maent wedi paratoi casgliad eang o ddefnyddiau dysgu ar ffurf tapiau fideo ac ar gyfer cyfrifiaduron. Er enghraifft, mae holl gyfresi'r BBC gyda David Attenborough wedi eu trosi i'r Fasgeg ac ar gael ar dapiau! Ar y foment mae cynlluniau ar droed i baratoi gwyddoniadur enfawr yn yr iaith. Trefnir cyrsiau ganddynt yn y Brifysgol Haf a threfnir seminarau yn rheolaidd ar feysydd arbenigol. Cefnogir yr holl waith gan lywodraeth annibynnol Gwlad y Basg a dyna sy'n galluogi y gymdeithas i gyflogi 15 yn llawn amser ynghyd â 25 o aelodau rhan amser a gwirfoddol. Diolch i ELHUYAR mae tuedd i fyfyrwyr gwyddonol Gwlad y Basg fynychu eu Prifysgol eu hunain! Yn wir mae llwyddiant y gymdeithas yn ddigon i godi cywilydd arnom yng Nghymru. Ond y peth pwysig yw peidio digaloni gan fod profiad Gwlad y Basg yn dangos ffordd i godi statws gwyd- doniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. (Gyferbyn gweler tudalen o'r cylchgrawn Elhuyar).