Digwyddodd, Darfu Hanes Griffith Hughes FRS n 1 Griffith Hughes (trwy ganiatâd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Gyhoeddus Boston, TU). :dyddiwyd Griffith Hughes (Llun 1 ) yn eglwys y plwyf, wyn, Meirionydd ar 9 Ebrill 1707. Ymunodd â Choleg iU, Rhydychen yn 1729 ond gadawodd cyn graddio i fynd genhadwr dan nawdd yr SPG (Cymdeithas er Lledaenu'r engyl) ymhlith Cymry Pensylfania. Tra bu yno hoeddodd lyfr defosiynol Cymraeg ar gyfer ei blwyfolion n o'r llyfrau Cymraeg cyntaf i'w gyhoeddi yn y Taleithiau ìedig.1 Dur fregus fu ei iechyd ym Mhensylfania ac yn 1736 mudodd i borfeydd brasach a mwy heulog ynys Barbados, ficer ar eglwys Santes Lucy yno. Tra bu yno daeth i wogrwydd fel awdur clamp o lyfr The Natural History Barbados a gyhoeddwyd ganddo yn Llundain yn 1750. ld ychydig iawn o sôn sydd amdano ar ô1 1750 ac ymhen n>'dig flynyddoedd yr oedd ei enw wedi llwyr ddiflannu di ar lwyfan y byd. Ac nid ymddengys i neb weld ei eisiau hwaith fel offeiriad nac fel naturiaethwr. Yn ôl y R. ELWYN HUGHES cwynion a leisiwyd gan ei blwyfolion ym Mhennsylfania fel ym Marbados bu'n bur aneffeithlon fel bugail ac fel pregethwr. Cwynodd ei gynulleidfa yn 1736 (mewn llythyr at yr Esgob Gibson) ei fod yn 'rambling sort of preacher whom they could not understand' a gofynnwyd am gael yn ei Ie berson aeddfetach a fyddai'n fwy cymeradwy fel pregethwr.2 Mae sawl erthygl wedi trafod bywyd Hughes ac yn enwedig ei ymwneud â'r gwaith cenhadol ac nid yw'n fwriad gennyf ychwanegu atynt.3 Ond hoffwn drafod, yn fyr, Ie Hughes yng ngwyddoniaeth ei gyfnod a pham y diflannodd ei enw mor ddisymwth erbyn diwedd y 1750au. Y Gymdeithas Frenhinol Yn fuan ar ôl cyrraedd Barbados dechreuodd Hughes feithrin diddordeb yn y byd o'i gwmpas ac ymddengys iddo benderfynu mai fel naturiaethwr y gallai hyrwyddo ei fuddiannau orau bellach. Tra oedd yn Llundain yn 1743 bu'n gohebu (yn null ymgreiniol y cyfnod) â Hans Sloane, a oedd bellach dros ei bedwar ugain oed, gan gyflwyno iddo nifer o 'sbesimenau hynod' o'r Barbados ar gyfer ei gasgliad byd enwog o curios. Yn dilyn y llythyru bu Hughes yn bresennol (fel 'ymwelydd') yng nghyfarfodydd y Gymdeithas Frenhinol ar 10 Tachwedd ac ar 22 Rhagfyr ar y ddau achlysur 'trwy ganiatâd y llywydd' (Sloane).4 Yng nghyfarfod 10 Tachwedd cyflwynwyd i'r aelodau 'lythyr' gan Hughes yn disgrifio 'blodau anifeiliol' a welsai mewn ogof ar ynys Barbados ei gyfraniad cyntaf i gylchgrawn gwyddonol ac am a wyddys ei unig un hefyd (Llun 2). Gweithred anffodus ar ran Hughes oedd ei awgrym ei fod wedi darganfod blodeuyn newydd a feddai ar nodweddion anfeiliol; 'roedd ei wrthrych, mewn gwirionedd, yn perthyn i'r swoffytau anifeiliaid sydd yn debyg i blanhigion o ran eu golwg allanol. Mae'r llythyr yn dadlennu mwy am anwybodaeth Hughes nag am ei grebwyll gwyddonol. Yn y drafodaeth a ddilynodd bapur Hughes amheuwyd gwreiddioldeb y 'darganfyddiad' gan Cromwell Mortimer, ysgrifennydd y Gymdeithas. Dychwelodd Hughes i Farbados am gyfnod ond erbyn 1747/8 'roedd yn ôl yn Llundain ac yn bresennol yn y Gymdeithas Frenhinol ar 4 ac 1 Chwefror, y tro hwn dan adain Henry Baker y microsgopydd. Ar 16 Fawrth cyflwynodd Hughes ragflas o'i lyfr arfaethedig ar y Barbados i'r aelodau5 ac yn y cyfarfod ar 9 Mehefin fe'i hetholwyd yn gymrawd. 'Roedd y pum cymrawd a arwyddodd ei bapur enwebu i gyd yn ddynion o bwys yn y Gymdeithas: Cromwell Mortimer, Martin Folkes (llywydd), Stephen Hales (botanegwr arbrofol), Emanuel Mendes da Costa (creginydd) a Henry Baker (Llun 3). 'Roedd y pump hefyd yn aelodau o grwp a gyfarfyddai'n anffurfiol yn nhy James