Cadwyn Cydwybod Edward David Hughes 1906-1963, Raphael Meldola 1849-1915, Primo Levi 1919-1987 ^ddolengyntafynygadwynhonydyw'r Cymro, yr Athro ired Hughes: 'Gwyddonydd amlycaf Eifíonydd', yn ôl bam b. E. Roberts, ac yn wir un o gemegwyr blaenaf y ganrif. ÌMab fferm o Lanystumdwy a dderbyniodd ei addysg liwchradd ym Mhorthmadog pan nad oedd yn yr ysgol iytleusterau da ar gyfer dysgu gwyddoniaeth, dim ond fathro ymroddedig a âi ag ef bob dydd Sadwrn i Ysgol Sir ÉFfestiniog, lle'r oedd gwell adnoddau, i roi gwersi personol jddo oherwydd ei fod yn synhwyro'r athrylith yn y bachgen afanc. Gwireddwyd yr addewid hwnnw yng ngholeg JBangor pan raddiodd Ted Hughes gydag anrhydedd yn y Bosbarthcyntafmewncemegyn 1927. Wedi blwyddyn o liyfforddiant athro cafodd ysgoloriaeth ymchwil, ac unwaith Seto bu'n ffodus, y tro hwn i ddod dan ddylanwad Ben [Watson a'i rhoes i weithio ar adweithiau bromin a jchyfansoddion organig. Ni chafodd Watson y sylw a haedda pherwydd iddo adael Bangor yn 1930 am Goleg Technegol Caerdydd lle bu'n bennaeth adran hyd 1955, ond yr oedd yn ei ddydd yn un o arloeswyr mecanweithiau adweithiau Lln 1 E. D. Hughes pan yn athro yng Ngholeg Prifysgol Bangor, 1943-8. IOLO WYN WILLIAMS organig, a'i lyfr Modern Theories ofOrganic Chemistry (1937) yn un safonol. Dan anogaeth Watson a'r Athro Orton (un arall o gewri Bangor) aeth Hughes i Leeds wedi cwblhau ei Ph.D. yn 1930 i weithio at C.K. Ingold (1893-1970), yntau hefyd yn un o arloeswyr mecanweithiau. Ymhen ychydig fisoedd yr oedd Ingold wedi ei ddyrchafu yn Athro yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain a Ted Hughes yn ddarlithydd yn ei adran. Felly y sefydlwyd y bartneriaeth enwocaf yn hanes gwyddoniaeth, oherwydd fe ddaeth enwau Hughes ac Ingold yn gyfarwydd i bawb ym myd cemeg. Dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain ymddangosodd mwy na 130 0 gyhoeddiadau gwyddonol ar y cyd rhyngddynt, yn datrys a dehongli mecanweithiau adweithiau ac yn gweddnewid cemeg organig yn sylfaenol. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd ymsefydlodd yr adran dros dro yn Aberystwyth a Bangor, a chafodd Ted Hughes gyfle i ddychwelydi'when goleg ynAthroyn 1943. Gwnaeth waith diddorol ar wahanu isotopau ocsigen ym Mangor, a hynny yn ôl yr hanes ar raddfa go fawr; yn ddiweddarach datblygodd ddulliau labelu cyfansoddion gydag isotopau trwm ar gyfer olrhain mecanweithiau. Ond ymhen pum mlynedd daeth gwahoddiad i lenwi cadair yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain a gallwn dybio bod y cyfle i ailgydio yn y berthynas agos â Christopher Ingold yn rhy ddeniadol i'w wrthod. Tua'r un amser fe'i hetholwyd yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol, y prif anrhydedd i wyddonydd. Yr oedd yn bennaeth ar ei adran pan fu farw yn 57 oed yn 1963. Colled fawr i wyddoniaeth fu hynny a cholled i ninnau hefyd, gan ein bod ar fin galw am erthygl ganddo i'r cylchgrawn newydd Y Gwyddonydd. Cemegydd oedd Raphael Meldola ( 1 849- 1915) hefyd a dyna'r ddolen nesaf yn y gadwyn, ond un o gyfnod a chefndir pur wahanol, o dras Iddewig a'i wreiddiau yn Sbaen a'r Eidal. Naturiaethwr ydoedd wrth reddf, yn gyfrannwr cyson i gylchgronau entomoleg, ond cemegydd yn ôl ei broffesiwn. Bu'n gemegydd diwydiannol am bymtheng mlynedd yn y diwydiant lliwiau, a'r lliwurau azo fu maes ei ymchwil ar hyd ei yrfa. Bu'n faes toreithiog hefyd gyda darganfyddiadau megis naphthol blue i'w enw, ond ysywaeth gwelai ef, fel y gwelodd ei ragflaenydd disglair W.H. Perkin, y diwydiant lliwurau yn llithro i ddwylo'r Almaenwyr oherwydd diffyg buddsoddiad a diffyg cemegwyr wedi eu hyfforddi'n briodol yn Mhrydain. Troes ei olygon felly i fyd addysg a derbyn swydd athro cemeg yng Ngholeg Technegol Finsbury yn 1885, coleg a oedd bur agos at safon prifysgol yn ei gyfnod. Fe'i