ymddangosiad y rhifynnau chwe-misol yn ddifwlch ers iddo sefydlu Cymdeithas Edward Llwyd yn 1978. Bu'n ffodus eithriadol yng nghymar ei fywyd sef Joan, ei wraig garedig a chymwynasgar. Nid oes dau mwy hoffus a diymffrost i'w cael ac mae'r croeso yn eu cartref yn Rhandir-mwyn yn ddiarhebol. Mae ei gryfder cartrefol wedi chwarae rhan bwysig yn ffurfiant y Gymdeithas ac felly nid yw'n rhyfedd teimlo rhywsut bod elfennau sylweddol o ddygnwch a gobeithion y dyn i'w gweld ym mhatrwm parhad a thyfiant ei greadigaeth fwyaf llwyddiannus. Yn ei eiriau ei hun: 'Nid cymdeithas o gerddwyr, nac o ddringwyr, nac o fynyddwyr ydym ond o naturiaethwyr, gan roi Wedi sawl gaeaf gyda diffyg eira ar y llethrau sgio yn yr Alpau mae pwysau cynyddol ar wyddonwyr i ddyfeisio rhyw ddull mwy effeithiol o gynhyrchu eira artiffisial. Mae'r diffyg eira'n drychineb economaidd i nifer o ardaloedd gan y cyflogir cymaint o bobl yn y diwydiant. Y prif reswm pam mae diffyg eira yw bod ardal o wasgedd uchel wedi bod yn eistedd ar ben yr Alpau am gyfnodau helaeth o bob gaeaf. Effaith hyn yw rhoi nosweithiau o rew a dyddiau braf. Mae peiriannau chwistrellu eira artiffisial wedi bod ar gael ers sawl blwyddyn, ond mae angen i'r tymheredd fod o dan tua -4°C iddynt fedru ffurfio eira'n Ilwyddiannus. Er bod tymheredd o'r fath yn gyffredin yn uchel ar yr Alpau, ac yng nghanoldir America, nid felly ar lethrau isa'r Alpau. Ffurfia plu eira naturiol pan fo dẃr wedi ei oroeri'n rhewi ar ddarnau o lwch mân yn yr awyrgylch. Mae'r darnau hyn tua 0.1 micromedr o faintioli. Gweithia peiriannau gwneud eira drwy chwistrellu cymysgedd o ddWr oer ac aer cywasgedig o dan bwysedd uchel allan i'r awyr gan ddisgwyl i'r eira ffurfio wrth i'r chwistrell gwympo am y ddaear. Tystia methiant cynllun llethr sgio Merthyr Tudful i'r angen am dymheredd isel cyn y gall y cyfan weithio. Ceisiodd rhai cwmnïau gynnwys gronynnau bychain o bolistyrin yn y cymysgedd i geisio gwella'r ffurfiant o eira, ond canlyniad hynny oedd gorchuddio'r llethrau â gronynnau mân gwynion. Daeth yr Americaniaid i'r adwy ag ateb biotechnolegol i'r broblem. Mae cwmni Snowmax o Efrog Newydd wedi arbrofi â defnyddio protein a gynhyrchir gan y bacteriwm Pseudomonas syringae fel cnewyllyn ar gyfer ffurfio plu eira. Wrth ychwanegu'r sylwedd hwn at y cymysgedd a chwistrellir yna gellir cynhyrchu eira ar dymheredd uwch na'r arfer a chan fod y protein a gynhyrchir yn un naturiol nid yw'n niweidiol i'r amgylchedd. Gwnaed profion yn arddangos ei fod wedi diflannu'n llwyr o'r pridd o fewn mis i'r chwistrellu. Mae gobaith eto i sgiwyr Ewrop felly, ac mae'n sicr y gwelir cynnydd aruthrol yn y nifer o beiriannau gwneud eira ar lethrau'r Alpau yn y dyfodol agos. Ysgwn i a fyddai'r datblygiadau hyn yn gwneud cynllun o'r fath yn ymarferol yng Nghymru? dehongliad ychydig yn ehangach i'r teitl hwnnw nag yw'n arferiad gan lawer o gymdeithasau natur. Yn hyn ceisiwn ei gyflawni yw astudiaeth o gefn gwlad yn ysbryd chwilfrydig ac ymholgar Edward Llwyd ei hun.' Hir y parhao felly. W. Brian L. Evans (Nodyn golygyddol: gobeithir cyhoeddi hanes Cymdeithas Edward Llwyd gan Dafydd Dafis yn Y Gwyddonydd yn y rhifyn nesaf.) Eira o'r tap? Iolo ap Gwynn