Dafydd Dafis Portread o Arweinydd Cymdeithas Edward Llwyd Ar bron bob penwythnos trwy'r flwyddyn fe gynhelir cyfarfod awyr agored rhywle yng Nghymru gan gymdeithas wyddonol Gymraeg unigryw. Nid yw'n syndod gweld dros hanner cant o bobl yn ymgynnull mewn ambell i fan ac y mae pob argoel fod y cyfarfodydd yn mynd o nerth i nerth gan dynnu pobl o bob oed. Cymdeithas EdwardLIwyd sydd yn gyfrifol am y digwyddiadau hyn ac un gwr arbennig iawn, sef Dafydd Dafis, sy'n gyfrifol am fodolaeth a pharhad y Gymdeithas lle mae Cymry Cymraeg yn dod at ei gilydd i fwynhau'r gwmnïaeth ac i ddysgu ac ymhyfrydu ym mhob agwedd o astudiaethau cefn gwlad. Bu cyfraniadau Dafydd Dafis i'w genedl yn sylweddol iawn mewn sawl cyfeiriad ond y llinyn cyswllt yw ei ddiddordeb byw, ei ofal parhaol a'i gariad tuag at yr amgylchfyd naturiol yng Nghymru. Wrth siarad ag ef cewch wybod ar unwaith am gryfder ei gymeriad tawel, diymhongar ac am ei hiwmor iach. Mae'n dal ac yn gryf o gorff a dyma atgof efallai o'i hoffter o rygbi a'r dyddiau gynt pryd yr oedd yn gapten llwyddiannus iawn ar dîm ei goleg ac ar ôl hynny yn chwarae yn rhengoedd tîm Cefneithin. Dechreuodd ymddiddori yn gynnar ym myd natur yn ystod ei fachgendod yng Nghwmgïedd ger Ystradgynlais. Ar ôl gwasanaethu yn y Llu Awyr ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, aeth i Goleg y Drindod, Caerfyrddin i wneud ei Dystysgrif Addysg ac yn ddiweddarach dychwelodd yno i ddilyn cwrs ar Astudiaeth Gwyddor Gwlad. Bu'n athro Llun Yn yr awyr agored gyda phlant Ysgol Capel Cynfab. Haf 1975. mewn nifer o ysgolion gan gynnwys Ysgol Gyfun Llandrindod, cyn symud fel prifathro i ysgol wledig Rhandir-mwyn yn Sir Gaerfyrddin nes i'r ysgol honno gau yn 1969. Yn ymladdwr glew dros ei gornel, dewisodd fyw yng nghefn gwlad Cymru yn hytrach na mwynhau porfeydd brasach dros y ffin. Yma yn ei gynefin, ymdrechodd i gyfoethogi bywydau'r plant ysgol dan ei ofal gan roi iddynt ddealltwriaeth sensitif o'u hamgylchfyd a llwydda yn wastad i gyfleu'r ymwybyddiaeth hon i bawb yn ei gwmni. Wedi ymgartrefu yn Rhandir-mwyn, sefydlodd Warchodfa Natur i ysgolion yn Allt yr Hwch, coedwig dderw ym mlaenau dyffryn Tywi. Yma, cafodd y plant gyfle i astudio byd natur yn y maes gan wneud ymchwiliadau a sylwadau eu hunain yn hytrach na derbyn gwybodaeth ail law. Wedyn, oherwydd y bygythiad i elltydd derw a cheunentydd cul blaenau Tywi, cynefinoedd o ddiddordeb arbennig oherwydd eu planhigion a'u hanifeiliaid anghyffredin, gwrthwynebodd yn ffymig gynllun dwr Llyn Brianne ac fel ysgrifennydd y Pwyllgor Amddiffyn fe arweiniodd y frwydr yn erbyn y datblygiad. Er iddo golli 'r dydd y tro hwn a gweld boddi'r cwm, ni pheidiodd ei ymroddiad at warchod yr amgylchfyd yng Nghymru ac fe hyrwyddodd y nod hwn ymhob ffordd. Bu'n gysylltiedig â sawl mudiad yn ymwneud â materion gwledig dros nifer helaeth o flynyddoedd. Ymysg y pwysicaf o'r rhai hyn gellir cofnodi iddo fod yn gadeirydd Cymdeithas Gwenynwyr Cymru, cofnodydd Pwyllgor Cymru o Gymdeithas Fotaneg Ynysoedd Prydain, un o'r panel o feirniaid ar gynlluniau i wella'r amgylchfyd (a wobrwywyd wedyn gan Bwyllgor Tywysog Cymru), aelod o Bwyllgor Cymru o'r Cyngor Gwarchod Natur, aelod o Bwyllgor y Barcud, aelod o Bwyllgor Cenedlaethol y Comisiwn Coedwigaeth, aelod o Gyngor Cymdeithas Diogelu Cymru Wledig a chadeirydd ar Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gorllewin Cymru. Mewn cydnabyddiaeth o'i gyfraniad i fotaneg fe'i hetholwyd yn Gymrawd o'r Gymdeithas Linneaidd yn 1968. Fel addysgwr da y mae wedi lledaenu ei neges a'i wybodaeth mewn sawl ffordd. Cyfrannodd erthyglau ac adroddiadau i wahanol gylchgronau fel Yr Athro, Y Gwyddonydd a Bwletin y Gymdeithas Fotaneg. Bu'n golofnydd cyson i'w bapurbro rL/oj^To'rcychwyn ac ar hyn o bryd y mae'n gadeirydd ar bwyllgor y papur. Yn ychwanegol, cafodd yr amser i drosi pedwar llyfr byd natur o'r Saesneg ac fe'u cyhoeddwyd yn gyfres, stfLlwybr Natur gan Wasg Gomer yn 1983-4. Cymer ran mewn nifer o raglenni sydd yn ymwneud â byd natur ar y radio a'r teledu ac y mae'n dal yn y tresi fel darlithydd achlysurol ac fel athro cynorthwyol yn Adran Efrydiau Allanol, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth gan gynnal dosbarthiadau yn ardal ei gartref. Ond ym marn llawer ei gyfraniad pwysicaf i'w genedl yw ei orchest fel golygydd Y Naturiaethwr yn sicrhau