Mae cryn bwyslais wedi'i osod yn ddiweddar ar y berthynas rhwng lefel gwyddoniaeth a thechnoleg mewn gwlad a'i safon byw. Dyfeisgarwch technolegol sydd yn cynhyrchu'r cyfoeth a hyn yn derbyn ei gynhaliaeth oddi wrth wreiddiau gwyddonol cadarn. Yn draddodiadol bu ymchwil academaidd yn holl bwysig i adeiladu'r seiliau hyn. Yn wir, dyma'r cyfiawnhad dros wario cymaint ar yr ymchwil sylfaenol hon. Ydy hi'n dwyn ffrwyth ac yn werth yr arian a werir? Ar hyd y 1980au pwysigrwydd Value for Money fu'r gri barhaus. Ar y naill law, mae'r llywodraeth yn mynnu bod cystal cymorth i ymchwil sylfaenol ym Mhrydain ag yn unlle yn y byd. Ar y llaw arall, teimlai'r prifysgolion a'r colegau bod y gefnogaeth yn lleihau bob blwyddyn. Pwy sydd yn iawn? Ni fu'n bosibl setlo'r ddadl gan nad oedd ystadegau cymharol ar gael ar gyfer y prif wledydd diwydiannol. Yn awr ymddangosodd y rhain mewn llyfr newydd Inresting in the Future*. Cymhariaeth ryngwladol ydyw o'r gwariant ar ymchwil academaidd gan lywodraethau Prydain, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Ffrainc, Japan a'r Unol Daleithiau. íf Y casgliad amlycaf yw mai'r Unol Daleithiau sydd ymhell ar y blaen, yn gwario cymaint yn 1987 â'r pum gwlad arall gyda'i gilydd. Fodd bynnag, o ystyried y gwahaniaethau mewn poblogaeth a maint yr economi, yr Almaen a'r Iseldiroedd sy'n arwain. Yn groes i bob disgwyl, Japan sy'n rhoi'rgefnogaeth isaf i ymchwil mewn prifysgolion. Yn wir, i gyrraedd lefel Ewrop, byddai'n rhaid iddi wario 3,500 miliwn o ddoleri yn ychwanegol bob blwyddyn, sef bron ddwywaith yr hyn a werir yn awr. Mae hyn yn cadarnhau mai elwa o hyd y mae Japan ar ymchwil sylfaenol gwledydd eraill, a fawr ddim i brofi'r honiad ei bod, yn ystod y 1980au, wedi ceisio newid o fod yn ddilynydd i fod yn arweinydd gwyddonol. Ers i'r ystadegau hyn gael eu paratoi, mae Japan yn 1988 a 1989 wedi cynyddu'n ^îweddol ei buddsoddiad mewn gwyddoniaeth, felly, eTullai bod yr ymchwil eisoes wedi amlygu'r gwendid. Pa fesur bynnag a ddefnyddir, Prydain sydd ar waelod y gynghrair yn Ewrop. Mewn tri maes yn ln,g y mae Prydain yn cyrraedd y norm, sef peirianneg, mathemateg a chyfrifiadureg, ac ^tudiaethau'r amgylchedd. Yn y gwyddorau ^segol a biolegol mae Prydain tu ôl i bawb arall, <! r cyfartaledd a werir wedi disgyn yn rheolaidd ers 1975. At ei gilydd gwariodd Prydain yn 1987 Golygyddol 500 i 600 miliwn o ddoleri yn llai na'r cyfartaledd Ewropeaidd. Per Capita, y gymhariaeth yw: Almaen (66$) Iseldiroedd (65$) Unol Daleithiau (61$) Ffrainc (58$) Prydain (49$) Mewn cyfartaledd â'n Cynnyrch Teuluol Gros (GDP), nid ydym ychwaith yn buddsoddi cymaint â'n cymdogion Ewropeaidd: Prydain (0.398) Almaen (0.496) Ffrainc (0.453) Iseldiroedd (0.532) Mae'r ystadegau moel hyn yn cwbl gadarnhau'r cwynion a ddaeth o gyfeiriad ein prifysgolion. Mae'n adlewyrchu hefyd y dirywiad a ddaeth yn ymwybyddiaeth y cyhoedd o statws y prifysgolion. I'r rhai ohonom fu'n gweithio yn y byd academaidd ers y 1950au, mae llewyrch y chwedegau a'r saithdegau cynnar bellach yn ymddangos fel goleudy mewn môr o dywyllwch. Atgof yn unig yw white hot technological revolution Harold Wilson. Nid oes yn awr yr un ffydd mewn ymchwil sylfaenol fel cyfrwng i ddwyn ffrwyth ymarferol. Rhoddir y pwyslais bellach ar glosio at ddiwydiant a phrofi'n ddefnyddiol iddynt er mwyn cael cymorth ariannol. Ymchwil gymwysedig yw hon ar y gorau, ac ar ei gwaethaf yn gwneud dim mwy na chynnig sgiliau technegol moel. Bai ar ysgolheigion Mae'n rhaid i ysgolheigion ysgwyddo rhan helaeth o'r bai am y newid agwedd hwn. Aeth prifysgolion yn llochesfeydd lle y gellid ymguddio rhag y cyhoedd. Pwysleisiwyd yr hawl i ryddid academaidd i'r pwynt o'i ddehongli'n ben rhyddid. Pellhaodd y berthynas rhwng y brifysgol a'r gymdeithas a fu gynt yn ei chynnal, a hyn yn arbennig o wir yng Nghymru. Ni theimla'r estroniaid a ddaeth yma i swyddi cyfforddus ddim cyfrifoldeb dros y werin a sefydlodd y colegau gyda'u harian prin. Clywyd y gri mor aml mai at y h\d mawr yr oedden nhw'n anelu eu gwaith. Er mai gwasanaethu gofynion Cymru yw siars gyntaf Siarter Prifysgol Cymru, lleiafrif llethol fu'r Cymry yn ei Phrifysgol genedlaethol, boed staff neu fyfyrwyr.