Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bu'n ennyn diddordeb mewn gwyddoniaeth ymhlith y Cymry Cymraeg yn hynod lwyddiannus. Ysgrifennodd golofn wyddonol i'r Cymro am 13 mlynedd, am 7 mlynedd cyfrannodd golofn ar faeth (Techyd Da') i'r Faner, lle mae'n parhau â'i chynghorion doeth am y bwyd sy'n iachus i ni. Mae'n briodol iawn felly ein bod yn cynnwys y bywgraffiad byr yma am y Dr Eirwen Gwynn yn y rhifyn hwn, sy'n canolbwyntio ar agweddau o'n bara beunyddiol. Ond y gwir yw y byddai'n gweddu'n BRAINT a phleser fu cael bod yn gysylltiedig â'r Gwyddonydd o'r cychwyn, ac un o'r pennaf breintiau fu cwmni a chyfeillgarwch Elwyn Hughes. Darlithydd oedd Elwyn y pryd hynny yng Ngholeg Technoleg Uwchradd Cymru, y sefydliad a ddaeth yn Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru ym 1968, ac yn rhan bellach o'r Coleg newydd yng Nghaerdydd. Dyrchafwyd Elwyn Hughes hefyd yn Uwch-ddarlithydd ac yn Ddarllenydd cyn iddo'n rhannol ymddeol yn ddiweddar er mwyn, yn ei eiriau ei hun, 'cael ymarfer peth hunanoldeb trwy ganolbwyntio ar yr hyn sydd o wir ddiddordeb imi', sef ymchwil ac ysgrifennu. Biocemeg ymbortheg fu ei faes ymchwil ar hyd ei yrfa. Wedi graddio yng Nghaergrawnt, gweithiodd yn naturiol i ni gynnwys Eirwen Gwynn mewn unrhyw rifyn o'r Gwyddonydd. Bu yn gyfrannwr cyson a dibynadwy ar hyd y blynyddoedd. Mae'n ddyledus arnom ddiolch iddi am ei hymdrechion diflino i wneud y gwyddonydd yn fwy o Gymro yng ngwydd ei gyd- Gymry. Mae Iolo ap Gwynn hefyd yn dilyn yn nhraddodiad y teulu, ac rydym yn eithriadol o falch ohono ar Fwrdd Golygyddol Y Gwyddonydd. G.O.P. R. Elwyn Hughes Labordy Ymbortheg Dunn ac am gyfnod yn yr Ysgol Feddygol yng Nghaerdydd. Rhoddodd sylw arbennig i gyfraniad fitamin C a ffibr mewn bwydydd, ac i batrymau bwyta fel y tystia ei gyfraniadau amryfal i'r Gwyddonydd a chylchgronau academaidd ei bwnc. Datblygodd ddiddordeb byw yn hanes y pwnc ac fe gofia llawer ohonom am ei ymdriniaeth ddeifiol a dadlennol â'r maes yng nghynhadledd flynyddol y Gymdeithas Wyddonol ym 1985 a gyhoeddwyd yn y Trafodion, Rhif 8: Canrifo Wyddoniaeth. Yn frodor o Raeadr Gwy, clywais ddweud mai yng Nghaergrawnt y dysgodd Gymraeg, ond yn wyneb ei gyfraniad i lenyddiaeth wyddonol Gymraeg mae'r ffaith honno mor amherthnasol fel nad ydyw'n werth ei chadarnhau. Cyfrannodd fwy na neb ohonom, ac yn fwy sylweddol, i'r Gwyddonydd. Gan fras-gyfrif nodais ugain a mwy o erthyglau safonol, dwsinau o adolygiadau a llawer o'r rheiny yn erthyglau ynddynt eu hunain nodiadau rheolaidd o'r Athrofa a nifer o bosau croeseiriau, heb sôn am waith golygu, addasu, cyfieithu di-ben-draw a di-enw. Cyfrannodd yn rheolaidd i gynadleddau'r Gymdeithas Wyddonol gan lunio iddi adroddiad pwysig ar Swyddi Gwyddonol yng Nghymru. Ysgrifennodd lawer i gylchgronau eraill ac y mae ei gyfrol ar Darwin ymysg goreuon cyfres y Meddwl Modern. Disgwyliwn gyfrol arall cyn bo hir ar gyd-ddarganfyddwr esblygiad, A. R. Wallace, a chasgliad o ddeunydd gwyddonol Cymraeg o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nac anghofiwn ychwaith am ei waith manwl a gofalus ar dermau technegol dros y Cyd-bwyllgor Addysg a'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd. Gwr y gwaith tawel, dyfal ydyw ar bob achlysur a da, ym 1983, oedd i'r Orsedd ei anrhydeddu ag Urdd Derwydd am ei waith i wyddoniaeth a'r iaith Gymraeg. Edrychwn ymlaen at gyfraniadau pellach yn y blynyddoedd i ddod. I. W. W.