Portreadau o Wyddonwyr o Gymru MAE hen ddadl C. P. Snow am y 'ddau ddiwylliant' yn parhau i godi'i phen. Gan amlaf, nid oes disgwyl i'r gwyddonydd fod yn berson diwylliedig yn ystyr draddodiadol y gair. Mae'r ffin rhwng y gwyddonwyr a'r 'lleiü' i'w gweld yn y Babell Lên yn ystod y ddarlith wyddonol flynyddol. Mae'r rhai mwyaf mentrus o blith Eisteddfodwyr yn taro i mewn, efallai i weld sut rai ydym, ond gan amlaf i sicrhau sedd ar gyfer Ymryson y Beirdd, neu ryw gyfarfod cyffelyb sydd yn dilyn. Eto mae un ohonom, sef Eirwen Gwynn, mewn safle sydd yn unigryw bron. Mae'n cael croeso gan Y Gymdeithas Wyddonol, oherwydd ei chyrhaeddiadau gwyddonol a'i dawn i gwmpasu amrywiaeth o feysydd gwyddonol. ond mae ganddi hefyd le naturiol a haeddiannol ym mywyd llenyddol ein cenedl. Mae ei chynnyrch o ran llyfrau yn egluro pam y rhoddir cystal parch iddi ar ddwy ochr y ffin haearn. Cyhoeddodd saith o lyfrau, dau yn wyddonol, y lleill yn nofelau, storïau byrion ac ysgrifau gwyddonol ac athronyddol. Fel y byddem yn ei ddweud yn y Rhos, y mae wedi'i mwydo yn y ddau faes, ac yn cynrychioli'r pethau gorau o'r ddwy ochr. Fe'i ganwyd yn Lerpwl, ac yno y cafodd ei haddysg gynradd, ac wedyn addysg uwchradd yn Llangefni. Roedd yn fyfyrwraig ddisglair o'r cychwyn ac enillodd Ysgoloriaeth y Wladwriaeth oddi yno i Goleg y Brifysgol, Bangor. Llwyddodd yno eto, er gwaethaf y rhagfarn a ddangosid bryd hynny yn erbyn merched oedd yn ochri tuag at y gwyddorau ffisegol. Graddiodd Eirwen Gwynn gydag anrhydedd mewn ffiseg, ac yna ennill gradd doethur (PhD) am ei hastudiaeth pelydr-X o amsugniad nwyon mewn metelau. Hyd heddiw, hi yw un o'r ychydig ferched a'r gyntaf i gael gradd PhD mewn ffiseg ym Mangor. Gan fod yr Adran Ffiseg bellach wedi cau, fe fydd ganddi safle hollol arbennig yn hanes Coleg Bangor. Derbyniodd wedyn wahoddiad i ddysgu ffiseg yn Ysgol Ramadeg y Rhyl, y rheini yn barod i dderbyn merch oherwydd prinder dynion i ddysgu ffiseg ym mlynyddoedd y rhyfel. Bu yno am flwyddyn a hanner cyn priodi Harri Gwynn a oedd bryd hynny mewn swydd yn Warwick. Yno bu raid iddyn nhw fynd i ennill bywoliaeth. A dyna ddechrau partneriaeth hapus, gynnes a ffrwythlon. Mae'n anodd meddwl am ddau gymar fu mor glwm yn ei gilydd, y naill yn ymdoddi rhywsut i'r llall. O feddwl am y cyfraniad cyfoethog a wnaeth y ddau i'n bywyd diwylliannol a chymdeithasol yng Nghymru, mae'n gywilydd y bu raid iddynt dreulio cymaint o amser yn Lloegr i ennill eu bara. 0 Warwick i Lundain mewn pryd i fyw drwy'r bomio dychrynllyd, ac Eirwen wedi cael swydd o'r diwedd fel archwilydd yn un o adrannau'r Trysorlys. Yn Llundain cafodd Iolo ei eni, ac o'r funud honno, tybiaf i, daeth y penderfyniad bod yn rhaid dychwelyd i Gymru, costied a gostio. Naid o ffydd ac ymroddiad oedd honno a'u cymerodd fel teulu o waith swyddfa yn Llundain yn 1950 i ffermio yn Eifionnydd. I mewn â nhw dros eu pennau a'u clustiau i fywyd y genedl. Harri oedd ysgrifennydd gweithgar Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, ac Eirwen yn ymgymeryd ag ysgrifennu, darlledu a darlithio ar wyddoniaeth i ddosbarthiadau nos. Ar wahân i waith y fferm roedd cyfrifoldeb ar Eirwen i ofalu am bedwar o hen bobl a brawd gwael eu hiechyd. Er gwaethaf yr amgylchiadau, neu'n wir, efallai oherwydd yr amgylchiadau, daeth Eirwen Gwynn drwy ei gwaith cyhoeddus yn symbol o gydwybod cymdeithas y gwyddonydd. Efallai oherwydd ei phrofiad o beryglon y pelydrau-X yn ystod ei hymchwil ym Mangor, sylweddolodd, yn gynt na neb efallai. beryglon y datblygiadau niwclear. Bu yn wrth- wynebydd cyson i ledaeniad y diwydiant niwclear, a hyn oherwydd argyhoeddiad cymdeithasol cryf a chydwybod effro. Llawer tro y bu i ni anghydweld am rai agweddau, yn ystod y dadleuon hyn, ond heb golli dim ar ein cyfeillgarwch na pharch at safbwynt y naill a'r llall. Roeddem yn gwbl unol ein gwrthwynebiad yn erbyn cynhyrchu, arbrofi a gwario yr un geiniog ar arfau niwclear. Pan ddaeth y gorchwylion teuluol oedd yn ei chlymu adref i ben, cafodd Eirwen swydd amser-llawn fel Athro-Trefnydd i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Ngwynedd. Am naw mlynedd cyn iddi ymddeol