Golwg Newydd ar Ffibr Lluniaethol ERBYN heddiw y mae'r rhan fwyaf ohonom wedi clywed am ffibr lluniaethol (dietary fibre) (Tabl 1). Nid felly yr oedd pethau ugain mlynedd yn ôl ac y mae'r llyfryddiaeth am ffibr yn tanlinellu pa mor gyflym fu'r twf yn y diddordeb yn y maes hwn. Yn 1968 cyhoeddwyd rhyw wyth papur ymchwil yn ymwneud â ffibr; erbyn 1975 'roedd y nifer wedi codi i 125; ac erbyn heddiw y mae ymhell dros fil o bapurau'n ymddangos yn flynyddol. Bwydydd (g/IOOg) Bara â gwenith cyflawn 9 Bara 'brown' 5 Bara gwyn 2 Reis. brown 2 Reis. gwyn 06 6 Ffa haricot 25 Helogan 2 Pys 5 Tatws 2 Cnau 9 Cwrans duon 9 Afalau 2 Tabl 1 Cynnwys ffibr ½½uniaetho½ rhai bwydydd (g/1 OOg). Hyd at ddiwedd y chwedegau y duedd gyffredinol oedd ystyried mai deunydd gwastraff dietegol oedd ffibr, a hyn yn bennaf am na chredid ei fod yn cyfrannu dim at gydbwysedd egni'r corff. Mae diffiniad gwreidd- iol Hugh Trowell yn tanlinellu hyn y gyfran honno o'r bwyd sy'n gwrthsefyll gweithgarwch yr ensymau treuliol' diffiniad sydd, gyda llaw, yn dal yn ei rym hyd y dydd hwn. Ac yn gyson â hyn tueddid i briodoli 'swyddogaeth negatif i ffibr trwy awgrymu mai'r ystyriaeth bwysicaf oedd i ba raddau y byddai'n disodli cydrannau eraill a mwy gwerthfawr o'r diet. Daeth tro ar fyd pan luniwyd y 'Ddamcaniaeth Ffibr' ar ddechrau'r saithdegau. Y ddau enw a gysylltir ben- naf â hon yw Denis Burkitt a Hugh Trowell er bod eraill hefyd â lle yn natblygiad y stori. Prif fyrdwn y ddam- caniaeth oedd fod i ffibr arwyddocâd positif ac na ddylid bellach ei ystyried yn gydran ddiwerth o'r diet. Daethpwyd i'r casgliad hwn o ganlyniad i waith yn cymharu mynychder (trawiant) rhai clefydau yn Affrica ac yn Ewrop. Dangoswyd bod cydberthyniad negatif clir rhwng y cymeriant ffibr a rhai clefydau po fwyaf o ffibr oedd yn y lluniaeth isaf i gyd oedd mynychder y clefyd. Canolbwyntiwyd yn y papurau cynharaf ar glefydau'r coluddyn mawr megis y gilfachwst (diferticwlosis) a chanser y coluddyn mawr. R. ELWYN HUGHES* 'Roedd y clefydau hyn yn brin iawn yn y rhannau hynny o Affrica lle 'roedd y cymeriant ffibr yn uchel, ond yn gymharol uchel yn Ewrop lle mae'r cymeriant ffibr yn llai na hanner yr hyn ydyw mewn rhannau o Affrica (Ffig. 1). Y gilfachwst bellach yw'r mwyaf cyffredin o holl glefydau'r coluddyn mawr yn Ewrop. htig. i Y berthynas rhwng y cymenant llysiau (= ffibr) (g. bob dydd) a mynychder canser y coluddyn mawr. Seiliedig ar ddata ar gyfer deg o wledydd. Ehangwyd ar y syniadaeth wreiddiol hon a chafwyd peth tystiolaeth epidemiolegol fod a wnelo ffibr ag amddiffyn y corff yn erbyn llu mawr o glefydau eraill hefyd, gan gynnwys clefyd y galon (oherwydd, fe awgrymwyd, fod ffibr yn gostwng crynodiad y coles- terol yn y gwaed) a rhai mathau o ganser (oherwydd ei allu tybiedig i arsugno tocsinau mwtagenaidd yn y bibell faeth a'u cludo allan o'r corffyn yr ymgarthion). Cydiodd y 'ddamcaniaeth ffibr' yn nychymyg y Sefydliad Ymborthegol a chafwyd argymhellion o sawl cyfeiriad (megis yn yr adroddiadau NACNE a COMA) mai buddiol fyddai codi'r cymeriant presennol (15-20g bob dydd) i ryw 30g. Natur a dosraniad ffibr Diffiniad Trowell o ffibr lluniaethol (gweler uchod) yw'r un a dderbynnir amlaf heddiw. Diffiniad ffisiolegol neu swyddogaethol yw hwn nid oes yr un diffiniad cemegol boddhaol ar gael a hyn am fod y term ffibr yn cynnwys cynifer o wahanol sylweddau. Mae ffibr lluniaethol yn cynnwys cellwlos, hemicellwlosau, pectin, lignin a llu o gymiau planhigol megis gwm guar sylweddau na all ensymau treuliol y bibell faeth eu treulio. Mae'r gwahanol fathau o ffibr i gyd yn fac- rofolecylau ac y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn fathau o