Electrocemeg o Mesopotamia* Ym 1800, wrth arbrofi yn yr Eidal, datblygodd Aless- andro Volta y batri trydan modern cyntaf. Cafodd y dat- blygiad hwn gryn argraff ar y byd, er na ddeellid y ffenomen yn gyfan. Wedi i Volta arddangos ei fatri i Napoleon, gwnaethpwyd ef yn Iarll a Seneddwr Teyrnas Lombardy. Yn ddiweddarach, ym 1815, apwyntiodd Ymerawdr Austria ef yn gyfarwyddwr adran athroniaeth Prifysgol Padua. Mae camp Volta yn dal i gael ei anrhydeddu gant wyth deg pedwar o flynyddoedd yn ddiweddarach: cafodd sylw dyladwy yn y fforwm wydd- onol genedlaethol ar Electrocemeg mewn Ymchwil a Datblygiad a gynhaliwyd fis Mehefin 1984 yn Nhy UNESCO ym Mharis. Pwysleisiodd y gwyddonwyr a oedd yn bresennol (a oedd yn ystyried mai Volta oedd sylfaenydd electrocemeg) eu dyled iddo, fel y gwna miloedd eraill yn ddyddiol, bob tro y cyfeiriant at yr uned grym electromotif, sef y 'volt'. Mae eu sylwadau yn rhoi amlinelliad diddorol o'r maes hwn. Llun 1. Y'volt'. Trydanu dŵr Drwy gyfuno cemegion, cafodd Volta drydan o'u rhyngweithiad. Ychydig o fisoedd wedi iddo wneud hyn, llwyddodd dau wyddonydd o Brydain, Nicholson a Car- lisle, i dorri mater i'w gydrannau drwy roi trydan drwyddo. Yn eu harbrawf, rhoddwyd trydan mewn dwr ac ymwahanodd hwnnw yn hydrogen ac ocsigen. Y broses ddeublyg yma, yn ôl Dr Roger Parsons, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Bryste, yw calon electro- cemeg. Dangosodd Dr Parsons, cyn-gyfarwyddwr labordy electrocemeg y CNRS, Canolfan Ymchwil Wyddonol Genedlaethol Ffrainc, fod y wyddoniaeth newydd wedi ei defnyddio yn ymarferol yn fuan iawn. Awgrymodd y gwyddonydd o Brydain, Davy, wrth y Llynges Brydeinig y dylid rhoi darn bychan o haearn ar ei llongau pren a rwymwyd â chopr, a byddai'n eu cadw rhag cyrydiad. Daeth y method hwn yn adnabyddus fel yr 'amddiffyn- iad cathodig' ac fe'i defnyddir ledled y byd heddiw i amddiffyn pibelli mawrion. Ond er hyn mae problem cyrydiad metal yn parhau. Ym 1975 fe gostiodd 75,000 miliwn o ddoleri, neu chwarter cyfanrif Cynnyrch Cenedlaethol yr Unol Daleithiau am y flwyddyn honno i'w gywiro. Mae electrocemeg heddiw yn ymarferol gymwys ac mae'n argoeli'n dda at y dyfodol, yn ôl y gynhadledd. Mae ei ddefnydd yn ymestyn o'r celloedd bach sych sy'n rheoli curiad y galon mewn cleifion i'r celloedd ynni hydrogen sy'n gyrru lloeren electrocemegol. Cymwys- iadau posibl yw cynhyrchu ynni, fel hydrogen o oleuni'r haul, trwy 'system photoelectrocemegol', a phuro dwr drwy ddulliau tebyg; dadansoddi symiau bychain iawn o wenwyn mewn awyr a dwr; a rheolaeth o ddefnyddiau yn yr ymennydd sy'n ymwneud â chystudd, fel afiechyd Parkinson. Heb fatri, heb ddim Cyfeiriodd gwyddonydd Sofietaidd, V. S. Bagotzky at y ffaith mai ffynonellau electrocemegol — batri sych a ddatblygwyd gan Leclanché a chroniadur plwm a ellir ei ail-drydanu a ddatblygwyd gan Planté oedd yr unig ffynhonnell o drydan ar gael yn hanner cyntaf y 19eg ganrif. Soniodd Bagotzky, o'r Sefydliad Electrocemeg Sofietaidd, am yr hyn a allai ddigwydd pe bai'r ffynon- ellau hyn yn diflannu heddiw. Ni fyddai yna radio symudol, cerbydau wedi eu rheoli yn drydanol, amser- ogydd calon, fflach drydan, oriawr na chloc trydan, recordydd tâp symudol ac ychwanegodd yn ofidus, byddai rhyfel fodern, â'i harfau wedi eu rheoli â batri, yn amhosibl. Yn ôl Dr Allen J. Bard, o adran gemeg Prifysgol Austin, Texas y broblem fwyaf sy'n wynebu dynoliaeth yw caffaeledd a dosbarthiad ynni. Gan fod ynni ffosilaidd yn teneuo, bydd dyn yn troi at ffynonellau eraill, yn enwedig ynni solar. Yn dilyn cynnydd yn safon byw cenhedloedd sy'n datblygu, bydd angen ffynhonnell ynni ddigonol a rhad wedi ei ddatganoli — ac mae ynni solar yn gymwys iawn at y gwaith. :UNESCO Courier, Features (David Spurgeon), Cyfd., Elwen Mai Owen.