Ariannu Ymchwil Wyddonol yng Nghymru (SEILIR YR ERTHYGL HON AR DDOGFEN BOLISI A BARATOWYD CAN DR PHIL WILLIAMS, IS-GADEIRYDD YMCHWIL A PHOLISI PLAID CYMRU AC A GYHOEDDWYD GAN Y BLAID 2 IONAWR 1987) MAE nifer o flynyddoedd ers cyhoeddi gan Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol lyfryn Dr R. Elwyn Hughes ar y pwnc o swyddi (neu'n hytrach diffyg swyddi) gwyddonol a thechnolegol yng Nghymru. Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad hwnnw bu swyddogion y Gymdeithas yn trafod y mater gyda chynrychiolwyr y llywodraeth ar y pryd. Ni wnaeth y llywodraeth honno, na'r un o'r rhai a'i dilynodd ryw lawer i ymateb i'r adroddiad gan yr ymddengys mai gwaethygu a wnaeth y sefyllfa ers y dyddiau hynny. Mae pob gwlad ddatblygedig yn ariannu ymchwil wyddonol o gyllid ei llywodraeth. Mae cwmnïau hefvd yn talu am ymchwil, ond gan amlaf rhaid i'r gwaith a gefnogir fod o rhyw fudd amlwg i'r cwmni vn y dyfodol gweddol agos. Drwy'r Cynghorau ymchwil y dosberthir bron i £ 700 miliwn bob bhwddyn, yn y Deyrnas Gyfunol. Mae pum cyngor ymchwil sef: Gwyddonol a Pheirianyddol (SERC), Amaeth a Bwyd (AFRC), Medd- ygol (MRC), Amgylchedd Naturiol (NERC) ac Econ- omaidd a Chymdeithasol (ESRC). Gwerir cyllideb pob cyngor i gefnogi sefydliadau ymchwil, darparu grantiau- ymchwil, cynnal myfyrwyr a chymrodorion ymchwil a hefyd gyfraniadau tuag at gynlluniau cydwladol. O'i gymharu â'r cyfartaledd o arian y wlad a werir ar ymchwil mewn gwledydd llwyddiannus megis Siapan a'r Almaen gweddol bitw yw'r £ 700 miliwn hwn. Rhaid cofio hefyd fod arian sylweddol, ychwanegol, sef £ 2,338 miliwn, yn cael ei wario ar ymchwil arfau rhyfel; patrwm sy'n adlewyrchu'r hyn a ddigwydda yn yr Unol Daleith- iau. Er nad oes modd cael amcangyfrif manwl gwyddys mai cyfran fechan iawn o'r arian hwn a ddaw dros Glawdd Offa, na Phont Hafren! Dosraniad annheg Rhyw 5 y cant o boblogaeth y Deyrnas Gyfunol sy'n byw yng Nghymru. Mae hwn yn cyfateb yn agos i'r cyfar- taledd o 6 y cant o holl fyryrwyr y Deyrnas sy'n mynychu Prifysgol Cymru. O ran tegwch felly byddai rhywun yn disgwyl i tua'r cyfartaledd hwn o gyllid y cynghorau ymchwil gael ei wario yng Nghymru. Ond ymddengys, ar sail ateb i gwestiwn seneddol gan Dafydd Elis Thomas, mai rhyw 2.5 y cant o'r arian sy'n canfod ei ffordd i Gymru. Mae hyn yn cyfateb i tua £ 16 miliwn y flwyddyn. Ymddengys mai mewn cefnogaeth i sefydliadau ymchwil yng Nghymru y mae'r diffyg amlycaf, ffaith sy'n rhoi'r rheswm y tu ôl i'r hyn a ddadlennodd Dr Elwyn Hughes yn ei adroddiad i'r Gymdeithas Wyddonol. Mae'r dull y cwtogwyd ar weithgareddau'r Fridfa Blanhigion yn ddiweddar, gyda rhaglenni ymchwil llwyddiannus yn cael eu symud oddi yno i Maidenhead, yn adlewyrchu sefyllfa druenus swyddi gwyddonol yng Nghymru heddiw. Hyn er gwaethaf y ffaith i'r fridfa wneud cymaint o waith pwysig dros y blynyddoedd a bod amaethyddiaeth yn ddiwydiant pwysig yn ein gwlad. IOLO AP GWYNN Tebyg hefyd yw'r sefyllfa yn y maes meddygol gyda Chymru'n arddangos lefelau uchel o afiechyd, mewn cymhariaeth â rhannau eraill o'r Deyrnas, dim ond 1.7 y cant o wariant y Cyngor Ymchwil Meddygol yn dod iddi. Canolfan Ymchwil i Drawsfynydd? Nid oes angen i ganolfannau ymchwil gwyddonol gael eu lleoli gyda'r boblogaeth yn ne-ddwyrain Lloegr. Ond yno y mae nifer sylweddol ohonynt. Mae canolfannau o'r fath yn cynhyrchu nifer fawr o swyddi ar gyfer technegwyr, gweithwyr swyddfa, porthorion a phara- towyr bwydydd yn ogystal â'r gwyddonwyr. Mae bodolaeth y swyddi hynny wedyn yn cynhyrchu nifer sylweddol o swyddi eraill i bobl svdd yn dibynnu arnynt am waith, megis adeiladwyr, siopwyr ac yn y blaen. O'r herwydd gallai un ohonynt fod yn hwb sylweddol i economi llawer i ardal yng Nghymru gan greu cyflogaeth leol yn ogystal â'r cyfle i wyddonwyr o Gymry gael aros yn eu gwlad eu hunain i ddilyn eu gyrfa. Bu llawer o sôn yn ddiweddar am beth sydd i ddod i Drawsfynydd yn lle'r pwerdy niwclear. Oni fyddai sefydlu canolfan ymchwil yn yr ardal yn beth synhwyrol, gan y byddai nifer dda o dechnegwyr wedi eu hyfforddi yn barod ar gyfer y fath le? Ymchwil Safonol Cymru Ymddengys felly fod Cymru'n dioddefo ganlyniad i'r polisïau hyn. A yw gwyddoniaeth yn dioddef? Mae lle i gredu ei fod. Rhan o afiechyd yr oes, sy'n heintio coridorau'r cynghorau ymchwil yn ogystal â phwyllgor grantiau'r prifysgolion, yw'r grêd mai 'gorau po fwyaf Disgrifiwyd un o'r sefydliadau mwyaf yn y wlad, Labordy Rutherford Appleton, yn y cylchgrawn New Scientist fel twll du gwyddoniaeth Prydain! Ar y llaw arall mae adrannau bychain yng ngholegau Prifysgol Cymru wedi cynhyrchu toreth o ymchwil safonol, a wobreuwyd mewn nifer fawr o achosion gydag aelodaeth o'r Gym- deithas Frenhinol i'r rhai afu'n gyfrifol amdano. Efallai y dylid edrych ar y cyfan drwy lygaid 'gwyddonol' yn hytrach na cheisio rhedeg popeth gyda 'doethineb' y cyfrifyddion. Dadl deg Mae Plaid Cymru wedi dadlennu beth sydd yn ymddangos yn sefyllfa annheg iawn. Awgryma hefyd sut y medrid gwario'r 16 miliwn ychwanegol a fyddai'n dod â chyfartaledd y gwario i fyny at y 5 y cant disgwyledig. Byddai hynny yn rhoi i ni sefydliad mewn meicroelec- troneg a technoleg gwybodaeth, ehangu gwaith Y Fridfa Blanhigion, tair uned feddygol i astudio canser, clefyd y galon ac effaith tlodi ar afiechyd, canolfan Hydroleg a chanolfan ymchwil i astudio problemau tai yng Nghymru. Mae eu dadl yn un deg a rhesymol ac yn un na all yr un gwyddonydd yng Nghymru anghytuno â hi.