Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llun 1. Prif Weinidog Premadasa o Pacistan, a'i wraig, a'i fab a'i ferch yn edrych ar fachgen a gafodd lygaid newydd o Sri Lanka. Enw'r doctor yw Dr. M. H. Rizui sy'n gweithio yn Ysbyty Uygaid Pacistan. Mae'n od sut mae llygedyn o olau i'w weld weithiau yn y lIe tywyllaf. 'Does na fawr o lefydd tywyllach na Bombay, siwr gen i, lle mae 20% o'r boblogaeth enfawr-rhwng 8 a 10 miliwn-yn byw ar y pafin ynghanol y baw a'r llygod a'r chwilod du mawr; lle mae rhieni yn malu esgyrn eu plant i'w gorfodi i fegera; lle nad oes anad un teulu heb aelod wedi dioddef hepatitis a lle mae diffyg maeth yn cymylu cornea cymaint o blant nes eu gwneud yn ddall. Ond eto, yn Bombay, y cyfarfyddais i Dr. Hudson Silva. Beth amser yn ôl 'roedd hanes banc llygaid Dr. Silva yn 'Readers Digest' a wir 'does bosibl cael stori mwy rhamantus ar y naill wedd, ac ymarferol ar y llall. Fel myfyriwr meddygol ym 1957 ym Mhrifysgol Ceylon gwelodd ddau glaf yn cael eu paratoi ar y cyd ar gyfer llaw feddygaeth. Cancr tu ôl i lygaid un, fel bod yn rhaid tynnu'r llygaid allan a'r llall yn ddall oherwydd afiechyd yn y cornea. Trosglwyddwyd y cornea o'r llygaid cyntaf i roi golwg i'r ail. Sylweddolodd Dr. Silva mai anaml iawn y gellid gwneud dwy driniaeth fel hyn 'run pryd a chafodd y syniad o gael ystôr o lygaid ar gyfer cadw cornea iach. Erbyn y blynyddoedd hynny (1956-59), 'doedd dim cosb o grogi yn Sri Lanka, neu llygaid iach y drwgweithredwyr arferai fod yn ffynhonnell. Gwyddai Dr. Silva wedyn fod 20 marwolaeth y dydd yn yr ysbyty ac y byddai un y cant o'r rhain yn ddigon i gyfarfod anghenion y wlad i gyd. Ysgrifennodd erthygl i'r papur Sul i ysgogi'r darllenwyr i gyfamodi eu llygaid i'r gwaith yma ar ôl eu marwolaeth. O fewn ychydig fisoedd 'roedd y driniaeth gyntaf efo cornea o'r ffynhonnell yma'n cymryd lle a chyn bo hir 'roedd mwy na phedwar cant wedi eu haddunedu. Wedi graddio erbyn hyn, ym 1961 sefydlodd Dr. Silva, 'Gymdeithas Ceylon er Cyfamodi Llygaid' gyda deugain aelod, a'i fam ei hun oedd y cyntaf ohonynt i ofyn i'w mab gymeryd ei llygaid hi i roi golwg i'r deillion. Perswadiodd Lywodraethwr yr ynys, William Gopallawa, i ymuno, a sbardunodd yr esiampl a'r cyhoeddusrwydd ddwy fil ar bymtheg i ymuno â'r gymdeithas yn yr wythnos gyntaf. Gan ei fod yn cael llawer mwy o lygaid nag oedd galw amdanynt yn Sri Lanka, dechreuodd y meddyg ifanc ysgrifennu at ysbytai gwledydd eraill yn cynnig llygaid at eu gwaith. O Singapore y daeth y cais cyntaf ac ym 1964 danfonodd chwe llygaid yno mewn fflasgaid o rew. Ym 1983, danfonodd bron i bedair mil ar bymtheg mewn bocsus, a luniwyd ar y cyd rhyngddo ag Ysbyty Westminster, Llundain. Mewn rhewgell yn ei gegin ei hun y cadwai'r llygaid am gyfnod hir, nes i'w wraig un dydd wrthod diod oer i ffrind rhag amharu ar y tymheredd. Aeth y ffrind ar unwaith i brynu rhewgell yn arbennig at y gwaith. Ac fel 'Border Bach' Crwys, dyna sut y daeth y banc i'w ran. 'Does dim pall ar ymdrechion Dr. Silva i gael cefnogaeth ariannol i'w waith. Aeth i Tokyo i siarad heb ddimau yn ei boced a byw ar y 'gwely a'r boreufwyd' drefnwyd ar ei gyfer gan bapur newydd yno. Bu yn Madrid ym 1973 heb ddim bwyd am yr wythnos. 'Does ryfedd fod ei fab yn gwrthod dilyn yn ei gamre, ond mae'n drueni na fai yr un ymroddiad ynddo i gario ymlaen. Wedi gweld ei waith gyda phlant Vietnam rhoddodd Adran Llynges yr Unol Daleithiau boteli iddo i gario'r llygaid o'r ardaloedd anghysbell, ac mae Canolfan Deillion y Gymanwlad o Loegr wedi rhoi offer i dynnu'r llygaid iddo. Derbyniodd trigolion Japan y llygaid a ddanfonodd yno fel anrheg i'r genedl, ac mae eu cefnogaeth hwy i'w waith wedi bod yn aruthrol. Trwy glybiau Llewod Japan sicrhawyd y car cyntaf i hwyluso cludiant a chyfraniad sylweddol at adeiladu cartref teilwng i'r banc. Mae'r gwaith o adeiladu'n dal i fynd ymlaen fel y daw arian. Ym mis Mai 1984, agorodd Dr. Silva adran fydd fel ysbyty breifat i rhyw naw claf er mwyn cael arian i gario gwaith y banc ymlaen. Ers tua pum mlynedd cafodd gyfraniad misol gan Genhadaeth Caristofel Blinden o'r Almaen, a pherswadiodd y rhan fwyaf o'r cwmniau hedfan i gario'r llygaid am ddim. Trwy gefnogaeth cyfeillion eraill yn Sri Lanka talwyd am deleffon i hwyluso derbyn y negeseuau. Ar ôl gyrru llygaid i Dde Affrig cafodd deipiadur newydd gan griw yn Port Elisabeth, a chafodd y cwbl gartref yn ei fflat: dau lawr o ystafelloedd bychain. Wrth ddelio â gwledydd cyfoethog mae'r Doctor yn dal ar bob cyfle i godi arian, fel ysgrifennu at Sultan Quaboos o Oman i dynnu ei sylw at nifer y llygaid ddaeth i'w wlad! Ond i wledydd y Trydydd Byd y danfonir y rhan fwyaf. Oherwydd diffyg maeth mae llawer o blant Asia ac Affrica a De America'n datblygu cornea niwlog. Gellid cael hyd i chwech i saith mil yn Bombay ei hun. Wrth gwrs, mae Sri Lanka'n ganolog gyfleus i'w danfon yn handi i'r gwledydd hyn, ond ânt hefyd i Rio de Janeiro, San Francisco, Seland Newydd, Helsinki a Llundain. Cysylltodd â bron i bedwar ugain dinas mewn deg gwlad ar hugain, a breuddwyd Dr. Silva yw cael pum canolfan tebyg. O astudio patrwm y mynd a dod o Colombo, gwelodd mai yn Efrog Newydd, Tokyo, Llundain a Llun 2. Ysbyty Llygaid a Banc Llygaid Rhyngwladol yn Sri Lanka.