Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Poenyn Penna' Rhif 27: CODI SGWAROG 'Roedd hi'n seiat datrys posau yng nghornel y Llew Coch, Trepostyn a Twm wrthi'n gosod y tasgau. "Rwyf am alw rhif dau ddigid yn rhif sgwarog os yw cyfanswm y rhif a'r rhif a geir wrth gyfnewid ei ddigidau yn rhif sgwâr. Iawn?' meddai Twm. 'Aros funud,' mynnai Alun, 'i mi gael dy ddeall yn glir, pe cymerwn i'r rhif 16, dywedwn i, a chyfnewid y digidau i ffurfio 61 ac yna adio'r ddau fe gawn i 77 a chan nad yw 77 yn rhif sgwâr fyddai hi'n dilyn nad yw 16 yn rhif sgwarog?' 'Byddai', cytunodd Twm 'Hynny'n union. Nawr, fedrwch chi feddwl am rif sydd yn rhif sgwarog?'. Bu'r cwmni'n dawel am rai munudau, a chrafiad pensil ar bapur oedd yr unig swn i'w glywed. 'Dyma un!' ebychodd Huw o'r diwedd, 'Mae 56 yn rhif sgwarog gan fod 56 a 65 yn gwneud 121, sydd yn rhif sgwâr!' 'Campus!' meddai Twm 'Y broblem nesaf yw ceisio darganfod pob rhif sgwarog dau ddigid'. 'Fel 29', mentrodd Siôn, a oedd wedi arbrofi eisoes gyda nifer o rifau. 'la' atebodd Twm 'ond mae nifer eto i'w darganfod'. Ymhen hir a hwyr llwyddodd y cwmni o orffen y dasg ac i restru'r holl rifau sgwarog ar un darn papur. 'Dyna ddiddorol', sylwodd Alun wrth edrych ar y rhifau, 'mae hanner ambell eilrif sgwarog un yn llai na rhif sgwarog arall. Er enghraifft, hanner 56 yw 28 sydd un yn llai na'r rhif sgwarog 29'. 'la, rwyt ti'n iawn', cytunodd Twm. 'Ond tydi hynny ddim yn wir am y rhif hwn, nac ydi?' meddai gan gyfeirio at un o'r eilrifau eraill ar y rhestr. A dyna'r cwestiwn. At ba rif cyfeiriai Twm? (Ateb ar dudalen 102) Positron Llygaid o Sri Lanka RHIAIN M. PHILLIPS Ganed Rhiain Margaret Phillips ym 1930 ym Mlaenau Ffestiniog, Gwynedd. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Glan Pwll, Ysgol Gynradd Talsarnau ac Ysgol Ramadeg y Sir, Bermo. Aeth oddiyno i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor lle y graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg. Treuliodd gyfnod yn dysgu yn Reading, Pontypridd a Chaerdydd cyn rhoi'r gorau iddi i fagu dau o blant. Bu'n aelod o'rA wdurdod Darlledu Annibynnol am dymor ac mae ar Banel Cerdd Cyngor Celfyddydau Gogledd Cymru a Phwyllgor Sain Ffagan. Fe'i clywir yn darlledu ar BBC Cymru weithiau, yn cyfrannu i gylchgronau Cymraeg ac yn annerch cymdeithasau lleol. 'RYDW yn cario cerdyn ers talwm yn rhoi caniatâd i unrhyw ran o'm corff gael ei ddefnyddio ar ôl imi farw, ond wrth fynd yn hyn, llai a llai ohono fydd o werth; ond mae'r llygaid yn dal yn werthfawr. Er nad ydynt yn gwneud eu gwaith lawn cystal i mi, gall y rheiny fod o fudd i rywun arall i'r diwedd. Wyddech chi ei bod hi'n bosibl i un o bob pump dall gael ei olwg yn ôl? Mae'n debyg fod rhoi cornea newydd yn y llygad yn ateb y diffyg mewn 20% o ddeillion y byd-rhyw hanner miliwn o bobl a phlant. Hen dechneg yw Keratoplasty mae'n debyg-mae sôn amdani yn llenyddiaeth Buddha fel arferiad a oedd yn hen 'r adeg hynny, ddwy fil a thrigain o flynyddoedd yn ôl. Adroddodd Buddha hanes y brenin Sivi, a ofynnodd i gardotyn dall un diwrnod, beth oedd ei angen arno. 'O Feistr', atebodd, 'beth allai fod angen arna i ond fy ngolwg'. Galwodd y brenin ei feddyg personol a'i holi a oedd posibl rhoi golwg i'r dyn tlawd. Wedi ei archwilio, dywedodd y meddyg y gallai, pe bai pâr o lygaid newydd ar gael. Cynigiodd y brenin ei lygaid ei hun a gorchymyn i'r meddyg anfodlon wneud y driniaeth ar unwaith. Felly y bu, a chafodd y tlawd ei olwg. Mae'r arbenigwyr yn y maes wedi astudio'r hanes a gweld mai cyfnewid cornea llygaid wnaed. Sivi oedd enw'r brenin ac ystyr hyn yw 'croen' neu 'pilen'. Yn hanes India a Ceylon mae digon o enghreifftiau o frenhinoedd yn newid eu henwau i weddu i'w hymddygiad.