Eisteddfod Abertawe a'r Cylch, 1982 'ROEDD 'na arlliw o waith y gwyddonydd yn treiddio drwy berfeddion y sefydliad eisteddfodol yn Abertawe. Arbrofwyd gyda phabell-bafiliwn enfawr o'r Almaen i gynnal prif weithgareddau'r Eisteddfod ac yn narlithfa Adran Wyddoniaeth Gymhwysol Coleg y Brifysgol y bu'r beirdd yn synthesu eu hawen, gan fod y Babell Lên wedi ei lleoli yn yr adeiladau gwyddonol. Nid oes ffordd wyddonol rwydd i asesu cryfder yr awen a gynhaliodd y beirdd yn ystod yr wythnos, ond pleser mawr yw medru cofnodi bod cyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Abertawe yn cynnwys beirniadaethau canmoladwy am gynnyrch y cystadlaethau gwyddonol a thechnolegol. I gymharu â'n chwaer Eisteddfod yn Nyffryn Lliw ddwy flynedd yn ôl, cynyddodd nifer y cystadleuwyr o saith i bron ugain, a hyn mewn llai o gystadlaethau. Er mwyn ychydig o newid, ni ofynnodd Pwyllgor Gwyddoniaeth Abertawe am erthyglau i Y GWYDDONYDD, ond fe sefydlwyd cystadleuaeth newydd wedi ei noddi gan y Gymdeithas Feddygol yn gofyn am ddwy erthygl ar gyfer ei chylchgrawn, Cennad. Heb fanylu ar bob un o'r cystadlaethau, y teimlad a gafwyd ydyw nad oedd gan wyddonwyr gymaint â hynny o amser i gystadlu ar bynciau sy'n gofyn am ymchwil eang. Felly ni fu cystadlu ar 'Cyfathrebiaeth a Rheolaeth mewn Diwydiant' a dim ond dau gystadleuydd a drafododd 'Treftadaeth Ddiwydiannol Cymru' ar gyfer Gwobr Beatrice Grenfell (Enill- ydd-Euronwy James, Penrhyn-coch, Aberystwyth). Yn ôl y beirniaid cafwyd safon dda o draethodau ar 'Amser' gydag Alun Ogwen, Ysgol Rhydfelen, yn fuddugol, ac fe blesiodd y Posau Math- emategol (Huw Alun Roberts, Yr Wyddgrug, yn fuddugol) y beirniad ddigon iddo awgrymu y dylai'r pum cystadleuydd gydweithio ar gywaith i gyhoeddi'r cynnyrch. Dyma enghraifft dda o gystadleuaeth yn ysgogi cyfraniad pellach i'n llenyddiaeth wyddonol. Raymond Davies, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth oedd yn fuddugol ar erthyglau gwyddonol/technegol ar gyfer Gwyddoniadur i blant. Yn nhermau awyrgylch unigryw a'r teimlad bod dyfodol i'r ymdriniaeth o wyddoniaeth drwy gyfrwng y Yr iaith ar waith o ddifrif yn Arddangosfa Wyddonol Eisteddfod Abertawe Gymraeg, pinacl y cystadlu yn yr Adran Wyddoniaeth oedd cystadleuaeth y Ddarlith Enghreifftiol gan bobl ifanc o dan 20 oed. Er fod nifer y cystadleuwyr yn brin (un parti ac un unigolyn yn cystadlu) 'roedd y safon yn uchel iawn. Ar y prynhawn dydd Iau, mewn Pabell Lên lawn hyd yr ymylon gan gynulleidfa yn disgwyl am ddechrau Ymryson y Beirdd, cafwyd disgrifiad hynod o broffesiynol gan Rhys Morris o Gaerdydd o daith y lloeren 'Voyager', a dadansoddiad hollol wyddonol y triawd o fechgyn o Ysgol Gyfun Llanhari, Morgannwg Ganol ar briodweddau gwahanol fathau o ffyn pysgota. Y triawd a orfu a chyda hwy y bydd cerflun y Gymdeithas Wyddonol am flwyddyn. Erys yn y cof y gwrandawiad astud a gafodd y cystadleuwyr a beirniadaeth Gwilym Humphreys-cyhoeddusrwydd da i wyddoniaeth oedd yr orig honno. Traddodwyd y Ddarlith Wyddonol Flynyddol gan yr Athro Emeritws Frank Llewellyn-Jones CBE ar y testun 'Diwylliant Arall Cymru: y Cyfraniadau i Ddiwydiant Byd-eang a Thechnoleg'. Cyhoeddir y ddarlith yn Y GWYDDONYDD, a diolchwn i'r Athro Llewellyn-Jones am y gwaith caled a wnaeth i draddodi'r ddarlith mewn iaith nad oedd yn famiaith iddo. Mae'r Pwyllgor lleol yn ddiolchgar iddo hefyd am ei gefnogaeth frwdfrydig drwy gydol ei gadeiryddiaeth o'r Pwyllgor Gwyddoniaeth yn Eisteddfod Abertawe. Arddangosfa Y prif weithgaredd arall a drefnwyd oedd yr Arddangosfa Wyddonol a leolwyd mewn dwy ystafell fawr yn Adran Gwyddoniaeth Gymhwysol Coleg y Brifysgol. Gan fod Eisteddfod Lliw wedi bod yn yr ardal ddwy flynedd ynghynt anodd fu denu nawddogaeth o ddiwydiant ar gyfer yr arddangosfa. Felly dim ond dau gwmni masnachol a arddangosodd eu technoleg, ond cafwyd cefnogaeth gref o adrannau gwyddonol Coleg y Brifysgol. Technoleg y microprosesydd oedd fwyaf amlwg efallai, a bu'r to ifanc yn frwdfrydig iawn yn eu defnydd o'r gwahanol daclau. Bu'r cyfrifiadur cynganeddol ar waith hefyd, ac 'roedd un rhaglen cyfrifiadur yn medru dangos gwahanol batrymau'r cwiltiau Cymreig. Ffiseg meddygol yn hoelio sylw rhai o aelodau Pwyllgor Gwyddoniaeth yr Eisteddfod