manylion amdano beth amser yn ddiweddarach mewn cylchgrawn meddygol, ac yn ail-law oddi yno y casglai newyddiadurwyr eu ffeithiau. Gall adroddiad ebrwydd fod yn ddramatig yn wir, ond os amheus yw'r canlyniadau nid yw adroddiad papur newydd yn deg ag enw da llawfeddyg, dyweder, ar y naill law, nag â disgwyliadau'r cyhoedd ar y llaw arall, heb sôn am deulu'r derbynnydd a'r rhoddwr. Mae'r un peth yn amlwg eto yn hanes interferon. Teg yw cynllun Cronfa Ymerodrol Ymchwil Cancr o ddisgwyl am ddwy flynedd cyn cyhoeddi canlyn- iadau effaith hwnnw ar rai cannoedd o bobl yn lle tynnu sylw ofer ac ymrafael rhwng arbenigwyr fel y digwyddodd yn Glasgow yn ddiweddar. Mae gan y cyhoedd, sy'n cyfrannu at gynnal gwaith ymchwil meddygol mor aml, hawl i wybod beth a wneir â'u harian ac y mae adroddiad swyddogol o dro i dro yn gymorth, ond nid felly haeriadau cynamserol. Dichon y daw mwy o ddrwg nag o les o gyhoeddi 'miraglau' sy'n troi'n fethiannau ac sy'n sicr o danseilio ffydd y cyhoedd yn yr arbenig- wyr a'u honiadau annheilwng, heblaw peri poen a diflastod i deuluoedd rhai dan driniaeth ag interferon. Term amwys a chamarweiniol yn sicr yw 'llenyddiaeth' am gyhoeddiadau a welir yn y cylchgronau meddygol a gwyddonol. Prin yw'r ddawn lenyddol a ymddengys ynddynt (sôn am gyhoeddiadau Saesneg a wnaf yn awr!) gan mai eu pwrpas yw cyhoeddi manylion am waith ymchwil ac nid oes lle i amcanu at arddull flodeuog nac ymfflamychiadau porffor. Mae gofod yn rhy brin i olygydd ganiatáu'r fath beth. Nid oes lle mewn cylchgrawn felly ychwaith i wamalu mewn unrhyw ffordd. Nid fel patholegydd amlwg a adwaenwn yn Lerpwl gynt yn annerch y Sefydliad Meddygol ar ei brofiadau yn tynnu Os ydych am fwy o fanylion ynghylch ein llyfrau newydd, danfonwch eich enw a chyfeiriad (llythrennau bras os gwelwch chi'n dda), gan nodi eich diddordebau arbennig, i'r cyfeiriad isod (nid oes angen stamp ym Mhrydain Fawr): GWASG PRIFYSGOL CYMRU lluniau ar gyfer clasur o gyfrol a gyhoeddodd ar dyfiannau. 'Fydda i ddim yn defnyddio wats rasys wrth ddatblygu lluniau yn yr ystafell dywyll', meddai Dr. Evans. 'Cyfrif yn Gymraeg fydda i'. Mae'n amheus gennyf a all golygydd Cennad sicrhau erthyglau gwreiddiol o werth sy'n cyflwyno gwaith ymchwil. Mae'r awydd ym mhob ym- chwiliwr i gyflwyno'i ganlyniadau fel y gall pawb arall yn yr un meysydd wybod amdanynt, ac nid y Gymraeg yw'r iaith gymwys at hynny. Amcan cyflwynydd erthygl yw gweld ei waith wedi ei gyhoeddi mewn cylchgrawn o safon, gan mai dyna'r ffordd y gall eraill ddod i wybod amdano. 'Cyhoeddi neu farw' yw'r arwyddair a dibynna gobaith ymgeisydd am swydd yn aml ar nifer y papurau a gyhoeddodd cyn wynebu pwyllgor dewis. Mae'r cyhoeddi cynyddol mewn lluosowgrwydd o gylchgronau bellach yn gryn boendod ac anodd yw cael amser i wahanu'r us a'r grawn pan ar drywydd arbennig. A dyna'r galw didor am adargraffiadau o erthyglau, fel pe tae rhywun yn casglu stampiau post ac nid yn gwerthfawrogi ymdrechion yr awdur. 'Does neb gwaeth na'r Americanwyr am hyn. Credaf mai gwir bwrpas Cennad fydd cyflwyno gwybodaeth mwy cyffredinol na chanlyniadau ymchwil yn unig a rhoi cyfle i feddygon ddatgan eu profiadau yn eu priod feysydd mewn modd a fydd yn ddarllenadwy ac yn ehangiad ar addysg feddygol ac yn estyniad ar bosibiliadau'r Gymraeg. 'Debygwn i' yw pennawd hyn o lith a maddeued Dr. Ieuan Parri os cyfeiliornais. Nid fy lle i yw dweud wrtho sut i olygu ei gylchgrawn ond dymuno rhwydd hynt iddo ef a llwyddiant i Cennad. Huw Edwards, Llais Llyfrau, Cyngor Llyfrau Cymraeg. Gwanwyn 1980. RHESTR BOSTIO AR GYFRIFIADUR FREEPOST CAERDYDD CFl 1YZ